Masgiau a phellter cymdeithasol: Oherwydd y cynnydd yn nifer yr achosion o COVID-19 yn ein cymunedau, rydym yn annog staff gofal iechyd ac ymwelwyr yn gryf i wisgo gorchudd wyneb ym mhob un o’n lleoliadau, yn enwedig mewn ardaloedd clinigol a’r rhai â nifer uchel o ymwelwyr. Defnyddiwch agwedd synnwyr cyffredin a chyfrifoldeb personol i'n helpu i leihau effaith COVID-19 ar ein cleifion, gweithlu a gwasanaethau. Yn ogystal â gwisgo gorchudd wyneb, mae'n bwysig parhau i gadw pellter cymdeithasol lle bo modd. Diolch am eich cefnogaeth a’ch cydweithrediad parhaus ar yr adeg hon. Rydym yn parhau i adolygu ein cyngor yn rheolaidd yn seiliedig ar fynychder yn ein cymunedau a'n hysbytai.
Mae Therapyddion Galwedigaethol yn gweithio gyda phlant a phobl ifanc sy'n cael anawsterau gyda gweithgareddau dyddiol ee mynd i'r parc, sgriblo a thynnu llun, chwarae gyda theganau, gwisgo, cael bath. Rydym yn galw'r rhain yn 'alwedigaethau'. Mae therapyddion galwedigaethol yn helpu plant a phobl ifanc i gyflawni gweithgareddau sydd eu hangen arnynt neu y maent am eu gwneud mewn meysydd hunan-ofal, gwaith ysgol a chwarae. Ein nod yw cefnogi plant i ddysgu sgiliau newydd i'w helpu i ddod yn fwy annibynnol. Rydym yn gwneud hyn ynghyd â'r rhiant, y plentyn, yr athro neu'r gweithwyr proffesiynol eraill y gallai'r plentyn fod yn ymwybodol ohonynt.
I argraffu'r wybodaeth hon dilynwch y ddolen hon i daflen gyda'r holl wybodaeth uchod.
Dilynwch y ddolen hon i gael gwybodaeth am ein dolenni cyfryngau cymdeithasol.
Dilynwch y ddolen hon i daflen ar sut i ymuno â grŵp rhithwir ar gyfer lles rhieni. (mae flin gennym ond yn Saesneg yn unig mae taflen hyn)
Mae'r Coleg Therapi Galwedigaethol yn darparu mwy o wybodaeth am Therapi Galwedigaethol pediatrig yn eu taflen Helpu Plant i Ddatblygu a Ffynnu. Yn anffodus, nid oes fersiwn Gymraeg ar gyfer y tudalen yma.
Os ydych chi'n anhapus â gofal neu driniaeth a ddarperir gan y Gwasanaeth Therapi Galwedigaethol Pediatrig ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, rhowch wybod i ni fel y gallwn edrych ar yr hyn a aeth o'i le a cheisio ei wneud yn well. Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am sut i wneud hyn drwy'r adran Gwneud yn Iawn ar wefan BIP Bae Abertawe.