Neidio i'r prif gynnwy

Cyhoeddiad genedigaethau cartref

Cyhoeddiad gwasanaethau mamolaeth, Genedigaethau Cartref a Chanolfan Geni CNPT: 23 Mai 2023

Oherwydd pwysau parhaus ar y gweithlu o fewn ein gwasanaethau mamolaeth, yn anffodus mae angen i ni barhau i atal ein gwasanaeth geni yn y cartref dros dro, yn ogystal â chau Canolfan Geni Castell-nedd Port Talbot dros dro. Mae hyn er mwyn sicrhau y gallwn gynnal gofal diogel. Mae’r penderfyniad hwn wedi’i wneud yn unol â’r canllawiau proffesiynol gan Goleg Brenhinol y Bydwragedd ac Obstetryddion a Gynaecolegwyr.

Gwerthfawrogwn y gallai hyn achosi siom, ond gallwn eich sicrhau na chymerwyd y penderfyniad i atal y gwasanaeth hwn yn ysgafn.

Byddem yn gofyn i chi gysylltu â ni cyn gynted ag y bydd gennych unrhyw arwyddion o esgor, a fydd yn ein helpu i gynllunio eich gofal.

Dilynwch y ddolen hon i gael manylion cyswllt pob tîm bydwragedd cymunedol.

Efallai yr hoffech ystyried ein Huned Geni yn y Bae yn ysbyty Singleton. Mae hyn yn cael ei arwain gan fydwragedd, gydag ystafelloedd unigol ac amgylchedd cartref-oddi-cartref go iawn.

Mae croeso i bartneriaid cymorth hanfodol fynychu pob lleoliad pan fydd gennych asesiad cychwynnol wrth esgor.

Ochr yn ochr â'r Uned Bydwreigiaeth (Uned Geni'r Bae), mae ar agor 24 awr 7 diwrnod yr wythnos. Mae Uned Geni'r Bae yn dilyn yr un model o ofal dan arweiniad bydwreigiaeth ag uned bydwreigiaeth yn y cartref ac annibynnol, ac mae'n opsiwn i lawer o fenywod. Mae rhagor o wybodaeth am y dewis hwn o leoliad geni ar gael trwy ddilyn y ddolen hon i dudalen we Uned Geni'r Bae.

Byddwn yn adolygu'r sefyllfa hon bob pythefnos a byddwn yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi cyn gynted ag y bydd gennym unrhyw newidiadau. Byddem yn annog y teuluoedd hynny sydd wedi cynllunio genedigaeth gartref i gysylltu â'u bydwraig gymunedol i drafod yr opsiynau sydd ar gael.

Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i ddarparu canllawiau ar COVID-19 ac ymweliadau ag ysbytai yn y Gwasanaethau Mamolaeth a Newyddenedigol. Dilynwch y ddolen hon i gael rhagor o wybodaeth am ganllawiau ymweld ag ysbytai mewn gwasanaethau mamolaeth a newyddenedigol gan Lywodraeth Cymru.

Rydym yn deall bod ein cyfyngiadau gwasanaeth wedi cael effaith fawr ar eich taith mamolaeth a diolchwn i chi am eich dealltwriaeth a'ch amynedd.

Os hoffech drafod unrhyw beth ynghylch y cyhoeddiad neu'ch opsiynau geni, cysylltwch â'ch tîm cymunedol, dylai'r rhifau ar gyfer y timau fod ar eich cofnod mamolaeth neu gallwch ddilyn y ddolen hon i gael manylion cyswllt pob tîm bydwragedd cymunedol.

Mae gwybodaeth am y gwahanol leoliadau geni ar gael yma.

Gall unrhyw un sy'n dymuno archebu lle ar gyfer gofal mamolaeth wneud hynny'n uniongyrchol gyda'u tîm bydwreigiaeth cymunedol (Llun-Gwener 9-5pm). Gellir cael rhifau cyswllt gan eich meddyg teulu neu o'n gwefan.

Gellir dod o hyd i wybodaeth am y cyfyngiadau ymweld presennol trwy ddilyn y ddolen hon.


Cyhoeddwyd y datganiad gwreiddiol - Gorffennaf 2021

Mae ein gwasanaethau mamolaeth dan bwysau difrifol oherwydd nifer y staff sydd naill ai â Covid-19, sy'n gorfod hunan-ynysu neu nad ydynt ar gael oherwydd salwch yn ogystal â materion yn ymwneud â Covid.

Mewn ymateb mae'n rhaid i ni newid sut rydyn ni'n darparu gwasanaethau ar unwaith - gan gynnwys gwneud y penderfyniad anodd iawn i atal y gwasanaeth genedigaeth gartref.

Mae hyn er mwyn cynnal a sicrhau gofal mamolaeth diogel i'n holl deuluoedd, yn unol ag arweiniad proffesiynol gan Goleg Brenhinol y Bydwragedd a'r Obstetregwyr a Gynaecolegwyr

Byddwn yn adolygu'r sefyllfa mewn pythefnos a byddwn yn eich diweddaru cyn gynted ag y bydd gennym unrhyw newidiadau. Byddem yn annog y teuluoedd hynny sydd wedi cynllunio genedigaeth gartref i gysylltu â'u bydwraig gymunedol i drafod yr opsiynau sydd ar gael.

Rydym yn gwerthfawrogi y gallai hyn achosi siom, ond byddwch yn sicr na chymerwyd y penderfyniad i atal y gwasanaeth hwn yn ysgafn.

Byddem yn gofyn ichi gysylltu â ni cyn gynted ag y bydd gennych unrhyw arwyddion o esgor, a fydd yn ein helpu i gynllunio'ch gofal.

Mae adran famolaeth gwefan Bae Abertawe yn cynnwys gwybodaeth lawn, gan gynnwys manylion ein canolfannau geni yn ysbytai Castell-nedd Port Talbot a Singleton.

Mae'r rhain yn cael eu harwain gan fydwreigiaeth, gydag ystafelloedd unigol ac amgylchedd cartref-o-gartref go iawn.

Mae croeso i bartneriaid cymorth hanfodol ddod i bob lleoliad pan fydd gennych asesiad cychwynnol mewn esgor.

Lle nad ydych yn esgor ac yn ddiogel gwneud hynny fe'ch cynghorir i ddychwelyd adref ac aros i'ch esgor symud ymlaen. Bydd hyn yn lleihau faint o amser rydych chi'n cael eich gwahanu oddi wrth eich cefnogaeth hanfodol.

Ymddiheurwn am unrhyw siom y gallai hyn ei achosi a diolch i'n cymuned am y gefnogaeth barhaus ar yr adeg heriol hon.

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.