Neidio i'r prif gynnwy

Dolenni defnyddiol ar gyfer eich taith beichiogrwydd a thu hwnt

Crëwyd y dudalen: 04.01.22

(Nid yw'r Bwrdd Iechyd yn gyfrifol am gynnwys gwefannau trydydd parti, a allai fod yn Saesneg yn unig)

Rhagymadrodd

Ar y dudalen hon fe welwch ddolenni i wefannau sefydliadau eraill, sy'n rhoi cyngor ar ystod o faterion o gynllunio beichiogrwydd i gyngor ar gysgu'n ddiogel.

 

Cynllunio beichiogrwydd

Er mwyn eich helpu i ddod o hyd i'r wybodaeth sydd ei hangen arnoch yn gynnar yn ystod beichiogrwydd, rydym wedi paratoi canllaw, y gallwch ei gyrchu trwy ddilyn y ddolen hon. Mae'r canllaw hwn yn cynnwys manylion cyswllt Gwasanaethau Mamolaeth Bae Abertawe a dolenni i wefannau a argymhellir ar gyfer pynciau fel gofalu amdanoch chi'ch hun, cynllunio ar gyfer yr enedigaeth a gwasanaethau eraill y GIG a gynigir yn ystod beichiogrwydd. Sylwch: Mae'r canllaw hwn yn ddogfen PDF sy'n cynnwys dolenni drwyddi draw.

Dyma rai dolenni eraill:

Ewch i Tommy's Pregnancy Hub am gyfoeth o wybodaeth o gynllunio beichiogrwydd i enedigaeth.

Ewch i Ganllaw Beichiogrwydd GIG 111 Cymru.

Ewch i'r dudalen hon ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru i ddarganfod mwy am feichiogrwydd yn ystod coronafeirws.

 

Unwaith y byddwch chi'n feichiog

Cwrs cyn-geni ar-lein

AM DDIM ledled Cymru. I bawb o amgylch y babi: Mamau, Tadau, Teidiau a Neiniau, ffrindiau a pherthnasau.

Deall beichiogrwydd, esgor, genedigaeth a'ch babi - Ar gael 24/7

I gael rhagor o wybodaeth am sut i gael mynediad at y cwrs cyn-geni ar-lein rhad ac am ddim, dilynwch y ddolen hon.

Dyma rai dolenni eraill:

Ewch i'r wefan hon i ddarganfod mwy am sgrinio cyn geni yng Nghymru.

Ewch i wefan Tommy's am gyngor ar feichiogrwydd o wythnos i wythnos, cadw babi'n ddiogel, beichiogrwydd lluosog, cadw'n iach, iechyd meddwl a lles a mwy.

Ewch i dudalen Canllaw Beichiogrwydd GIG 111 Cymru am fwy o gyngor ar feichiogrwydd.

Ewch i'r wefan hon i gael gwybodaeth am y cynllun 'Healthy Start'.

 

Brechiadau

Mae brechiad Covid-19 yn cael ei argymell yn gryf ar gyfer merched beichiog a merched sy'n bwydo ar y fron.

Dangoswyd bod y brechlynnau Covid-19 sydd ar gael ar hyn o bryd yn y DU yn effeithiol a bod ganddynt hanes diogelwch da. Mae'n bwysig bod menywod beichiog yn cael eu brechu'n llawn cyn gynted â phosibl er mwyn amddiffyn eu hunain a'u babanod.

Ewch i’r dudalen hon ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru i gael rhagor o wybodaeth am y brechlyn Covid yn ystod beichiogrwydd, gan gynnwys cwestiynau cyffredin ac astudiaeth achos.

 

Mae pertwsis, a adwaenir yn fwy cyffredin fel y pas, yn achosi peswch cas a all bara am rai misoedd. Gall oedolion a phlant ei ddal. Gall fod yn ddifrifol iawn i blant ifanc, yn enwedig babanod o dan chwe mis oed.

Mae menywod beichiog yn cael cynnig y brechiad pertwsis fel eu bod yn trosglwyddo imiwnedd i'w babi, gan eu hamddiffyn nes y gallant gael eu brechiadau arferol cyntaf yn wyth wythnos oed.

Ewch i'r dudalen hon ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru i gael rhagor o wybodaeth am y brechlyn pâs.

 

Gall dal y ffliw tra’n feichiog arwain at salwch difrifol a mwy o risgiau i’r fam a’r babi.

Cynghorir menywod beichiog i gael y brechlyn ffliw yn ystod yr hydref a’r gaeaf.

Ewch i'r dudalen hon ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru i ddarganfod mwy am y brechlyn ffliw.

 

 

Ar ôl yr enedigaeth

Ewch i wefan Lullaby Trust i gael llawer o gyngor cysgu diogel i fabi.

Ewch i'r dudalen hon ar wefan y GIG i gael gwybodaeth am fanteision bwydo ar y fron.

Ewch i'r dudalen hon ar wefan y GIG i gael gwybodaeth am atal cenhedlu ar ôl cael babi.

Parent Talk Cymru

Mae llawer o bwysau ar rieni ar hyn o bryd. Mae Siarad Rhieni Cymru yn wasanaeth cyfrinachol am ddim i rieni plant 0-19 oed yng Nghymru. Gallwch gael cefnogaeth gydag unrhyw beth sy'n eich poeni am rianta neu'ch plentyn.

Maen nhw wrth law i gefnogi rhieni, pan fydd eu hangen arnoch chi. Porwch eu herthyglau ar y cwestiynau magu plant mwyaf cyffredin gan eu harbenigwyr. Neu siaradwch un-i-un gyda hyfforddwr rhianta cymwys am unrhyw beth sy'n eich poeni. Mae'r cyfan am ddim, ac nid oes unrhyw bwnc yn rhy fawr, yn fach neu'n embaras.

Mae'r gwasanaeth hwn hefyd ar gael yn Gymraeg.

Maen nhw ar gael:

  • Dydd Llun - 12:30-19:30
  • Dydd Mawrth - 10:30-16:30
  • Dydd Mercher - 9.30-16:30
  • Dydd Iau - 12:30-19:30
  • Dydd Gwener - 09:30-16:00

Dilynwch y ddolen hon i wefan Parent Talk Cymru am ragor o wybodaeth.

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.