Neidio i'r prif gynnwy

Triniaeth COVID-19 i bobl nad ydynt yn yr ysbyty â chlefyd yr arennau

Tudalen wedi'i diweddaru: 04/01/2023

Sylwir os gwelwch yn dda bod rhai dolenni allanol ddim ar gael yn y Gymraeg.

Efallai y bydd rhai pobl â chlefyd yr arennau, sydd â'r risg uchaf o fynd i'r ysbyty a chymhlethdodau o COVID-19, yn gymwys i dderbyn triniaeth, heb gael eu derbyn i'r ysbyty.

Gellir cynnig triniaeth yn dilyn prawf COVID positif. Bydd yn rhaid i chi gyflwyno'r canlyniad llif ochrol positif i wefan Llywodraeth y DU neu ffonio 119. Ewch i'r dudalen hon ar wefan Llywodraeth y DU i gyflwyno canlyniad LFT. 

Bydd aelod o’r Gwasanaeth Gwrthfeirysol Cenedlaethol (NAVS - National Antiviral Service), sy’n glinigwyr arbenigol, yn cysylltu â phobl gymwys i drafod yr opsiynau triniaeth.

Nid yw pob triniaeth sydd ar gael yn addas ar gyfer pobl â chlefyd yr arennau, neu sy'n cymryd rhai meddyginiaethau. Mae'n bwysig eich bod yn rhoi gwybodaeth am yr holl feddyginiaeth a gymerwch, gan gynnwys y rhai gan eich tîm arennau, wrth gael eich asesu ar gyfer y driniaeth fwyaf addas.

Rhaid cychwyn y triniaethau hyn o fewn 5 diwrnod i ganlyniad prawf COVID positif a dechrau'r symptomau.

Os ydych yn teimlo eich bod yn gymwys ac nad ydych wedi cysylltu â chi, siaradwch â'ch uned arennol leol.

I gael rhagor o wybodaeth am yr opsiynau triniaeth hyn, dilynwch y dolenni isod.

Dilynwch y ddolen hon i fideo YouTube gan Gofal Arennau GIG Cymru o’r enw Covid Treatment Video (Cymraeg).  

Dilynwch y ddolen hon i wefan Gwasanaeth Gwrthfeirysol Cenedlaethol (NAVS) Cymru.

I gael rhagor o wybodaeth am driniaethau Covid-19, sy’n benodol i Gymru, dilynwch y ddolen hon i wefan Llywodraeth Cymru.

I gael gwybodaeth gyffredinol ledled y DU am driniaethau Covid-19, gan gynnwys y rhestr cymhwysedd, dilynwch y ddolen hon i wefan Kidney Care UK. 

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.