Neidio i'r prif gynnwy

Beth sy'n digwydd gyda fy apwyntiad?

  • Mae pob apwyntiad sydd DDIM YN FRYS yn cael ei flaenoriaethu gan Glinigwyr a bydd y gwasanaeth apwyntiadau yn aildrefnu'r rhain.
  • Dylid gwneud ymholiadau ynghylch dyddiadau apwyntiadau trwy'r gwasanaeth apwyntiadau ar; 01792 583700
  • neu e-bostiwch swanseaopd@wales.nhs.uk. Gellir dod o hyd i'r wybodaeth yma ar eich llythyr apwyntiad.
  • Dim ond cleifion y cysylltwyd â nhw'n benodol i fynychu'r adran fydd yn cael eu gweld.

Cleifion Canser y Croen

  • Bydd cleifion newydd â chanserau croen brys yn cael eu gweld yn y clinig - ewch YN UNIG os ydych yn iach ac nad ydych wedi bod mewn cysylltiad ag unrhyw un yr amheuir bod gennych y firws COVID ac os oes gennych apwyntiad/neges destun/galwad ffôn yn gofyn chi i fynychu.
  • Bydd Clinigwyr yn blaenoriaethu pobl sydd â dilyniant arferol ar gyfer canserau croen a bydd y swyddfa apwyntiadau yn cysylltu â chi am apwyntiad. Efallai y bydd rhai apwyntiadau wyneb yn wyneb, bydd eraill trwy alwad ffôn neu fideo.

  • Gellir cynnal hunanwirio a gallwch roi gwybod i ni am unrhyw newidiadau
    • Adolygu croen unwaith y mis
    • Edrychwch ar bob rhan o'r corff (breichiau, coesau, blaen, cefn efallia fod angen rhywun arall arnoch i wneud hyn)
    • Chwiliwch am unrhyw smotiau newydd sy'n sefyll allan
    • Chwiliwch am newidiadau mewn maint, siâp, lliw, cosi neu waedu
    • Teimlo am lympiau yn y gwddf, y ceseiliau a'r afl
  • Os oes gennych unrhyw bryderon, cysylltwch â'ch nyrs arbenigol canser y croen.

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.