Neidio i'r prif gynnwy

Cynhaliaeth Profedigaeth

Delwedd o flodau porffor a glöyn byw porffor.

Mae llawer o bethau y bydd angen i chi eu gwneud yn ystod y dyddiau a’r wythnosau yn dilyn marwolaeth eich perthynas neu ffrind, a nod y wefan hon yw eich arwain a’ch helpu i lywio’r cyfnod anodd hwn.

Ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, mae gennym Wasanaeth Gofal Ar Ôl Marwolaeth pwrpasol, ac mae'r tîm wrth law i'ch cefnogi gyda phob mater ymarferol, megis ardystio marwolaeth, a gallant hefyd eich helpu i ddod o hyd i'r gefnogaeth gywir yn ystod eich profedigaeth os ydych yn teimlo eich bod ei angen.

Mae’r Tîm Gofal ar ôl Marwolaeth ar gael i gysylltu â nhw 6 diwrnod yr wythnos, o ddydd Llun i ddydd Gwener 9.00am i 5.30pm, a dydd Sadwrn 9.00am i 12.00pm.

Gellir cysylltu â’r tîm ar:

Prif Swyddfa: 01792 703327

Swyddfa Treforys: 01792 703114

Swyddfa Singleton: 01792 285818

Swyddfa Castell-nedd Port Talbot: 01639 683139

Neu drwy e-bost: SBU.CADC@wales.nhs.uk

Logo ar gyfer y Gwasanaeth Gofal ar ôl Marwolaeth.

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.