Neidio i'r prif gynnwy

Trefniadau newydd yn dilyn ymddeoliad Andrew Davies, Cadeirydd y Bwrdd Iechyd

health board chair

Cadarnhawyd trefniadau newydd yn dilyn ymddeoliad Andrew Davies, Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe.

Penodwyd Emma Woollett, cyn Is-gadeirydd y bwrdd iechyd, yn olynydd iddo ar sail dros dro.

Dywedodd: “Mae'n anrhydedd i mi gael fy ngwahodd i gyflawni'r rôl hon a thalu teyrnged i'r cyfraniad enfawr a wnaed gan Andrew dros ei chwe blynedd fel Cadeirydd.

“Rwy'n teimlo'n gyffrous iawn am y cyfleoedd i Fae Abertawe a'n rhanbarth ac rwy'n gwybod bod gennym y gallu i gyflawni ein huchelgeisiau, ond rwy'n gwybod hefyd fod gennym flwyddyn heriol o'n blaenau.”

Bydd Emma, a ddaeth yn Is-gadeirydd yn 2017, yn parhau i fod yn Gadeirydd dros dro hyd nes y bydd Llywodraeth Cymru yn ymgymryd â'r broses recriwtio ar gyfer olynydd yr Athro Davies.

Mae Emma wedi dal swyddi gweithredol, anweithredol a chynghorol ar draws diwydiannau'r sector preifat a'r sector gyhoeddus, gan gynnwys iechyd, manwerthu, cyfleustodau a’r rheilffyrdd.

Ei harbenigedd yw rheoli newid a datblygu strategaeth, ac mae ganddi ddiddordeb arbennig mewn annog cyfnewid syniadau rhwng gwahanol sefydliadau a sectorau i ddod o hyd i atebion arloesol.

Dechreuodd Emma ei gyrfa yn y diwydiant olew ac, ar ôl cyfnod fel ymgynghorydd rheoli yn cefnogi cyfleustodau ledled y byd, ymunodd â Somerfield ccc. mewn rôl datblygu a marchnata busnes.

Daeth Emma yn Gyfarwyddwr Marchnata ar gyfer Kwik Save Stores yn dilyn yr uno â Somerfield ccc.

Mae Emma wedi defnyddio ei phrofiad busnes a strategol yn y GIG ers 2003. Roedd yn gyfarwyddwr anweithredol ar gyfer Ysbytai Prifysgol Bryste o 2006, gan ddod yn Is-gadeirydd pan enillodd yr ymddiriedolaeth statws Ymddiriedolaeth Sefydledig yn 2008 ac Uwch Gyfarwyddwr Annibynnol yn 2014.

Daw ei phenodiad fel Cadeirydd Dros Dro i rym heddiw (dydd Llun 1 Gorffennaf).

Dywedodd: “Mae gweithio yn fwy effeithiol ac ar y cyd gyda'n partneriaid yn hollbwysig.

“Ond felly, rwy'n credu, yw sicrhau bod Bae Abertawe yn rhedeg cystal ag y bo modd, gan ddarparu cyngor a gofal amserol o ansawdd uchel i wella iechyd a lles y rhai sy'n byw ac yn gweithio yn ein rhanbarth ac yn gwneud hynny tra'n parhau i fyw o fewn ein hincwm.”

Cyhoeddodd yr Athro Davies ei ymddeoliad fel Cadeirydd yn gynharach eleni.

Dywedodd: “Hoffwn ddiolch i bawb am y negeseuon niferus, geiriau caredig ac anrhegion rwyf wedi'u derbyn ers imi wneud y cyhoeddiad.

“Mae wedi bod yn brofiad  derbyn y rhain ac mae wedi bod yn fraint go iawn i gynrychioli'r bwrdd iechyd ac yn fwy na dim y miloedd o bobl ymroddedig a brwdfrydig sy'n gwasanaethu ein cymunedau lleol.”

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.