Neidio i'r prif gynnwy

Tîm o hyrwyddwyr yn helpu cleifion ag anawsterau dysgu i wynebu llawdriniaeth

Dewch i gwrdd â'r Tîm o Hyrwyddwyr Anableddau Dysgu mewn Theatrau yn Ysbyty Castell-nedd Port Talbot, sef tîm sydd wedi ennill gwobr.  Maen nhw’n  ymgorffori gwir ysbryd gwerthoedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe.

Rhaid bod y posibilrwydd o wynebu llawdriniaeth yn frawychus i'r mwyafrif llethol ohonon ni ond os oes gennych chi anawsterau dysgu yna gall yr holl broses ymddangos hyd yn oed yn fwy annifyr.

Dyma lle mae’r Brif Nyrs Catherine Thomas a'i chydweithwyr yn allweddol.

O dan ei harweinyddiaeth, mae Catherine wedi sefydlu tîm o ymarferwyr gofal iechyd, sy’n cael eu galw’n hyrwyddwyr.  Maen nhw’n benderfynol o ryngweithio â chleifion ag anableddau dysgu, ac â'u teuluoedd a'u gofalwyr, i sicrhau bod eu taith yn un ddiogel a di-dor. 

Drwy roi sylw i fanylion, maen nhw wedi gwneud cleifion yn llawer llai pryderus, a hyd yn oed wedi helpu i wella canlyniadau.  Mae eu sylw i fanylion yn cynnwys gwneud yr amser i ddod i adnabod y cleifion, a’u hoff a’u cas bethau, er mwyn cyflwyno pethau i’w cysuro, fel rhoi posteri cyfarwydd ar y waliau a chwarae eu hoff gerddoriaeth.

Cath Thomas Mae gwaith Catherine wedi cael ei gydnabod yng Nghategori Byw ein Gwerthoedd Bae Abertawe gyda 'chanmolaeth uchel' hefyd yn y categori Gofalu am Ein Gilydd.  Aeth hi ymlaen wedyn i gipio'r brif wobr gyffredinol ar gyfer Byw ein Gwerthoedd am iddi gyflawni ein holl werthoedd yn y Bwrdd Iechyd.  

Mae'r gwobrau hyn yn dilyn ei phrofiad o ddod yn ail yng ngwobrau’r Coleg Nyrsio Brenhinol y llynedd.

Ac nid y Brif Nyrs Catherine Thomas yw'r unig aelod o'r tîm i gael cydnabyddiaeth am ei gwaith, gan fod Rea Pugh, sy’n Weithiwr Cymorth Gofal Iechyd, wedi'i henwi'n Weithiwr Cymorth Nyrsio Gorau yng ngwobrau’r Coleg Nyrsio Brenhinol eleni.

Dywedodd Joanne Phillips, sy’n Rheolwr Arbenigol ar gyfer Anaesthetig ac Adferiad mewn Theatrau: "Mae gweledigaeth Cath o sefydlu gwasanaeth i'n cleifion ag anableddau dysgu, drwy greu Tîm o Hyrwyddwyr Anableddau Dysgu mewn Theatrau yng Nghastell-nedd Port Talbot, yn crynhoi gwir ysbryd gwerthoedd y Bwrdd Iechyd. Yn syml, dyma ofal ar ei orau.

"Gall Theatrau Castell-nedd Port Talbot nawr gynnig gwasanaeth ardderchog i'r grŵp cleientiaid hwn a'u teuluoedd a'u gofalwyr i sicrhau bod eu taith yn un ddiogel a di-dor.  Roedd Cath yn awyddus i gynnwys y tîm cyfan yn y wobr hon gan fod y gofal hwn gan y tîm wir yn gwneud gwahaniaeth i ganlyniad y claf.

"Mae hi wedi ennyn brwdfrydedd y tîm a’u hysgogi.  Maen nhw’n rhannu eu gwybodaeth a'u profiad ar draws holl aelodau’r Tîm mewn Theatrau, fel ein bod ni’n gwella'n barhaus, yn cydweithio ac yn gofalu am ein gilydd.

"Hoffen ni, sef y Tîm mewn Theatrau, longyfarch Cath am ei gwaith gydag oedolion ag anableddau dysgu. Mae'r gwobrau hyn yn rhoi hwb arbennig i'r adran theatr yn ysbyty Castell-nedd Port Talbot ac wir yn tynnu sylw at waith ein hadran!"

Dywedodd Cath: "Rwy’ wedi fy syfrdanu ac yn teimlo’n freintiedig i dderbyn y brif wobr ar gyfer Byw ein Gwerthoedd a hefyd y ganmoliaeth uchel yn y wobr Gofalu am Ein Gilydd."

Dywedodd Cath ei bod wedi creu'r tîm ar ôl cael ei hysbrydoli gan sgwrs gan chwaer Paul Ridd, sef claf ag anableddau dysgu a fu farw'n drasig yn yr ysbyty.  Mae chwaer Paul Ridd wedi dechrau sefydliad er cof am ei brawd er mwyn cefnogi pobl ag anableddau dysgu a'u teuluoedd a'u gofalwyr pan fo angen gofal iechyd eilaidd arnynt.

Dywedodd: "Sylweddolais i nad oedd llwybr na gweithdrefnau penodol ar gyfer yr oedolion hynod fregus hyn yn y gymdeithas pan oedden nhw’n dod i'n hadran ar gyfer triniaethau llawfeddygol.

"Felly dechreuais i greu tîm o hyrwyddwyr ymroddedig a allai fanteisio ar hyfforddiant yr Ymddiriedolaeth, ac a allai wedyn roi eu hyfforddiant a'u brwdfrydedd ar waith i ddarparu gwasanaeth unigol a fyddai’n cynnwys gwneud addasiadau rhesymol er mwyn i’r cleifion deimlo’n fwy diogel ac yn llai ofnus.

"Gyda'n gilydd rydyn ni wedi creu gwasanaeth da iawn i'r unigolion hyn a'u teuluoedd a'u gofalwyr, gan gael adborth arbennig o dda. Gyda dim ond rhywfaint o hyfforddiant, angerdd a brwdfrydedd, gellir sicrhau canlyniadau anhygoel ac a bod yn gwbl onest, mae'r brwdfrydedd hwnnw wedi lledu drwy ein hadran a thu hwnt.

"Mae'n teimlo'n dda iawn cael cydnabyddiaeth am ein hymdrechion a gobeithio y bydd yn tynnu sylw meysydd eraill at y gwaith, er mwyn iddyn nhw geisio efelychu'r hyn rydyn ni wedi'i gyflawni."

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.