Neidio i'r prif gynnwy

System fideo newydd yn cadw teuluoedd â babanod cynamserol gyda'i gilydd adeg y Nadolig

Jordan a Sion Morgan gyda babi Harry Bear

Prif lun: Jordan a Sion Morgan gyda babi Harry Bear.

Mae system rhannu fideos newydd yn helpu teuluoedd â babanod cynamserol yn yr ysbyty i gadw mewn cysylltiad y Nadolig hwn.

Os na allant fod wrth ochr eu babi, bydd staff yr uned newyddenedigol yn Ysbyty Singleton yn Abertawe yn cymryd fideo fer a'i huwchlwytho i'w cyfrif diogel ar-lein.

Bydd neges destun neu e-bost yn dweud wrth rieni pan fydd fideo newydd yn barod i'w gwylio, gan sicrhau nad ydyn nhw'n colli unrhyw gerrig milltir.

Mae Amanda Lawes, therapydd galwedigaethol arweiniol clinigol Mae Amanda Lawes, therapydd galwedigaethol arweiniol clinigol, uned newyddenedigol, yn defnyddio iPad i gymryd fideo o'r fam Claire Mullett a'i babi Catrin

Dywedodd y Neonatolegydd ymgynghorol Dr Maha Mansour: “Mae'n wych ein bod wedi gallu lansio'r system fideo ‘vCreate’ yr adeg hon o'r flwyddyn.

“Mae'r Nadolig yn amser hyfryd i deuluoedd fod gyda'i gilydd ac rydym yn ymwybodol iawn o'r ffaith na all llawer o'n teuluoedd fod gyda'i gilydd gan fod eu babanod yma.

“Hyd yn oed os gall pob mamgu a thadcu, a modryb ac ewythr gael fideos o'u babanod bach tuag adeg y Nadolig o ganlyniad, rwy'n siŵr y bydd yn cynhesu llawer o galonnau.

Er ei fod yn ei ddyddiau cynnar, mae ‘vCreate’ eisoes wedi rhoi sicrwydd gwerthfawr.

Ganwyd Catrin ond yn 32 wythnos ddiwedd mis Tachwedd, ac roedd ei rhieni Mike a Claire Mullett o Lanala yn poeni am adael ei hochr, ond mae ganddyn nhw dri phlentyn arall gartref yr oedd angen iddyn nhw eu gweld.

“Mae hi wedi gwella o lam i lam ers hynny, ond y noson honno oedd y noson yr oeddem yn poeni am ei gadael,” dywedodd Claire.

“Fe ddangosodd i ni ei bod hi'n hapus. Roedd yn braf ei gael y noson honno.

 “Maent wedi bod yn wych yma, ond nid yw'n lle agos atom ni felly mae'n braf cael y cyswllt hwnnw."

 Roedd ‘vCreate’ hefyd yn rhoi cyfle gwerthfawr i rieni a theulu estynedig Mike, sy’n byw yng Nghaerdydd ac yn methu â theithio i Abertawe weld yr ychwanegiad newydd at eu teulu.

Pan dderbynnir babi i'r uned gofynnir i rieni a hoffent gofrestru gyda ‘vCreate’.

Maent yn cofrestru ar-lein, a gweithredir eu cyfrif ond pan fydd staff yr uned yn cadarnhau eu hunaniaeth, gan sicrhau cyfrinachedd cleifion.

Rhoddir cod QR unigryw ar gyfer eu babi a'i gysylltu â'i grud. Mae staff yn sganio hyn gyda'r iPad cyn cymryd y fideo, gan sicrhau bod y fideo yn cael ei huwchlwytho i'r cyfrif cywir.

Mae staff yn cymryd clipiau fideo byr yn ôl yr angen. Mae'r broses yn gyflym, felly nid yw'n torri ar draws gofal mewn unrhyw ffordd.

Mae rhieni'n derbyn neges destun neu e-bost yn dweud wrthynt fod fideo newydd yn barod i'w weld.

Mae'r system yn ddiogel, a cheir mynediad i’r fideos drwy gyfrinair yn unig.

Hefyd, gall rhieni rannu dolen arbennig ag aelodau'r teulu, sy'n rhoi 24 awr o fynediad i'r fideos iddynt.

Dywedodd Dr Mansour: “Rydym yn angerddol iawn am ofal integredig teulu yn Singleton ac rydym yn ymwybodol o'r ffaith nad oes gennym le yn y dafarn i'r teulu i gyd fod yma drwy'r amser.

“Hefyd, mae gan lawer iawn o'n babanod, gan ein bod ni'n uned atgyfeirio drydyddol, deuluoedd sy'n dod o filltiroedd a milltiroedd i ffwrdd. Felly gallai'r teuluoedd fod yn Aberystwyth, gallent fod yn Sir Benfro, efallai bod ganddyn nhw blant neu fabanod eraill ac efallai y byddan nhw'n ei chael hi'n anodd iawn bod yma bob dydd. Mae peidio â gweld eich babi am gyfnod hir yn broblem enfawr.

staff uned newyddenedigol staff uned newyddenedigol gyda'r iPads yn arfer cymryd fideo ar gyfer’ vCreate’. Neonatolegydd ymgynghorol Dr Maha Mansour, i’r dde bellaf

“Ond hefyd i'r rhieni sydd ond yn gorfod mynd adref am y noson ac maen nhw'n byw yn Abertawe. Mae'r mamau'n gwasgu llaeth allan bob dwy i dair awr dros nos fel eu bod yn effro, ac yn aml iawn byddant yn ffonio i ofyn am eu babanod.

“Os ydyn nhw'n gallu derbyn fideo a gweld beth mae eu babi yn ei wneud yng nghanol y nos pan nad ydyn nhw'n gallu bod yma mae'n siŵr o fod yn werth chweil.

“Mae unrhyw beth a all ganiatáu i'n rhieni deimlo fel rhan fwy o fywyd eu babi yn fuddiol i'r babi a'r rhieni.”

Mae Jordan a Sion Morgan o Bontypridd wedi bod wrth ochr y babi Harry Bear bob eiliad y gallent ers iddo gael ei eni.

Dywedwyd wrthynt yn flaenorol na allent gael plant, felly roedden nhw wrth eu boddau pan feichiogon nhw.

Ond fe aeth Jordan, 25, yn esgor ar ddechrau mis Tachwedd, bedwar mis cyn i ddyddiad genedigaeth Harry.

Aethon nhw â hi i Ysbyty Singleton mewn ambiwlans a ganwyd Harry ychydig ddyddiau yn ddiweddarach yn pwyso dim ond 1 pwys 7 owns, llai na bag o siwgr.

Y tro cyntaf i Jordan adael ei ochr oedd mynychu dosbarth ‘babi a fi’. Ac, er ei fod yn digwydd yn yr ysbyty, roedd hi'n poeni. Felly anfonodd staff fideo ati trwy ‘vCreate’ i ddangos iddi sut roedd yn gwneud.

Dywedodd Jordan: “Yr hyn rydyn ni hefyd yn ei garu amdano yw bod ein nith fel ail blentyn i ni, ond dim ond wyth ac felly’n rhy ifanc i ddod i ymweld â Harry. Nawr gallwn anfon y fideos ati.”

Ychwanegodd Sion: “Byddaf yn mynd yn ôl i'r gwaith yn fuan. Ar hyn o bryd gallaf fod yma gymaint ag yr wyf am fod a chymaint ag y mae angen imi fod.

“Ond mae'r vCreate yn rhoi'r fideos i mi tra byddaf yn y gwaith, felly o leiaf gallaf ei weld o hyd tra byddaf yn y gwaith.”

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.