Neidio i'r prif gynnwy

Sut daeth meddyg teulu o Abertawe i weithio ar reng flaen Covid-19 yn Affrica.

“Rwy’n cofio pan ddaeth y claf Covid cyntaf i mewn i’r ysbyty. Dynes yn ei 50au.

“Rwy’n cofio meddwl nad yw hi’n edrych yn llawer hŷn na fi. Roedd hi'n gwbl anatebol. Roedd hi'n gwybod ei bod hi ar fin marw.

“Rwy’n cofio troi’r ocsigen i fyny, gan feddwl does dim byd arall y gallaf wneud, neb y gallaf ei alw, doedd gen i ddim wrth gefn.

“Rwy’n cofio meddwl yn benodol – a’i dyma’r dyfodol?

“Ai dyma sut rydyn ni i gyd yn mynd i farw? Ai dyma beth sy'n mynd i ddigwydd i bawb? ”

Mae Dr Mikey Bryant yn feddyg teulu o Abertawe, yn gweithio i Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe.

Nawr mae’n treulio ei amser yn brwydro yn erbyn Covid-19 yn Liberia, yn rhedeg un o'r unig ysbytai yn y wlad sydd â ward ynysu a chyflenwad digonol o ocsigen.

Cyrhaeddodd ym Monrovia, prif ddinas Liberia, er mwyn sefydlu rhaglen bediatreg fawr, gan weithio'n bennaf gyda phlant â diffyg maeth. Mae’n gweithio fel tîm gyda’i gwraig, Dr Bethany Bryant, sy’n feddyg pediatreg yn Ysbyty Treforys pan mae hi’n gweithio yng Nghymru.

Teimlai Mikey roedd ef a'i dîm yn cynyddu safon gofal iechyd pobl ifanc yn Liberia, yna ym mis Ebrill eleni - fe darodd Covid-19.

Ariannwyd yr arian ar gyfer y ward ynysu, yr ocsigen, gwrthfiotigau a staff gan Gronfa Cysylltiadau Iechyd Affrica Elusen Iechyd Bae Abertawe a chynllun grantiau Affrica o Lywodraeth Cymru. Heb y ffrydiau refeniw hynny ni fyddai wedi medru trin cleifion â Covid-19 yn Ysbyty ELWA lle mae Mikey yn gweithio.

Mae wedi bod yn Liberia ers mis Ionawr 2019, ac mae wedi treulio cryn dipyn o’i yrfa yn gweithio rhwng Cymru ac Affrica.

Mae Cymru wedi chwarae rhan bwysig wrth ariannu gwaith Mikey a'i dîm yn Liberia, a thynnodd Mikey hefyd ar brofiadau ei gysylltiadau Cymreig yn ystod dyddiau cynnar y pandemig. Fe fodelodd lawer o sut roedd am i'w ysbyty ddelio â Covid-19 ar ymateb ei gydweithwyr ym Mae Abertawe i’r pandemig.

Meddai: “Rwy’n dal i weithio dros y ffôn ar gyfer gwasanaeth y tu allan i oriau meddyg teulu Bae Abertawe.

“Rwy’n gwneud tua 15 awr yr wythnos oddi yma yn Liberia. Byddwn yn gweithio yma ond yna hefyd galw meddygon teulu eraill Abertawe a gofyn, beth ydych chi'n ei wneud, sut olwg sydd ar Treforys, beth sy’n digwydd yno?”

“Heb y cysylltiad â Bae Abertawe, rwy’n credu y byddem wedi dioddef o anawsterau.”

O gyrraedd Liberia yn wreiddiol fel arweinydd pediatreg Bae Abertawe, ac yn gweithio fel cyfarwyddwr meddygol yn yr ysbyty ac yna wrth i’r pandemig daro ymgymryd â thrydedd rôl fel arweinydd ymateb Covid-19, mae rhaid gofyn beth sy’n gyrru Mikey i’r graddau hynny?

Meddai: “Treuliais fwyafrif o fy mhlentyndod yn Senegal mewn gwirionedd. Mae gen i ddiddordeb yn Affrica ers eisoes.

“Pan oeddwn yn blentyn, fe ddaeth fy mrawd yn sâl iawn.

“Roedd yn ddioddef gymaint, bu bron iddo farw. Diolch byth iddo wella.

“Rwy’n cofio ar y pryd yn meddwl, o mae hyn yn wych bod gan fy mrawd y gofal hwn, ond byddai’n well pe bai’r safon o ofal yma yn cael ei hymestyn i blant eraill ledled y wlad.

A dyna beth sy’n gyrru mi i weithio, yn enwedig i helpu ym maes pediatreg. ”

Yn anffodus, nid yw Affrica, ac yn benodol Liberia, yn ddieithr i achos o glefyd marwol.

Ysgubodd Ebola ar draws y wlad yn 2014 a pharhaodd am ddwy flynedd.

Mae Mikey yn cofio pan ddaeth y cleifion Covid-19 cyntaf hynny trwy ddrysau ei ysbyty ddiwedd mis Mawrth eleni. Meddai: “Ar y dechrau, roedd yn ymddangos bod pawb yn cymharu Covid gydag Ebola ac roedd pawb mewn panig.

“Roedd Ebola wedi dychryn pobl yn fawr, sy’n ddealladwy.

“Roedd yn frawychus.”

Mae profiad Liberia gydag Ebola wedi helpu y wlad ymateb i Covid-19.

Dywedodd Mikey: “Mae fel petai fod y boblogaeth wedi ymateb gyda rhyw fath o gof cyhyr i lawer o’r termau a ddefnyddir yn y pandemig hwn.

“Nid oedd yn angen egluro ystyr olrhain cyswllt, hunan-ynysu - mae pawb yn wybodol o ystyr y termau.”

Mae Mikey o'r farn bod Llywodraeth Liberia wedi bod yn gryf yn ei hymateb i'r pandemig. Dywed fod y Weinyddiaeth Iechyd wedi bod yn glir yn ei chyfarwyddebau, gan gloi rhai meysydd a cheisio profi cymaint o bobl sy’n bosib.

Ond nid yw’n credu byddai’r wlad yn gweld ‘brig’ fel sydd mewn rhannau eraill o’r byd, gan ei bod yn amhosib cael llun union. Meddai: “Mae yna ran enfawr o’r boblogaeth yma o hyd nad ydyn nhw’n mynd i’r ysbyty. Nid ydynt yn ymgysylltu â'r gwasanaethau iechyd o gwbl.

“Mae gennym ni rywfaint o synnwyr o ble rydyn ni, ond dydyn ni ddim wir yn gwybod yr union ffigurau.

“Byddwn yn dweud ein bod wedi cael mwy o godiad cyson yn y feirws, yn hytrach nag uchafbwynt. Rhan o'r rheswm am hynny yw bod llai o symudedd ar draws y wlad.

“Nid yw pobl yn teithio o amgylch y wlad, mae pobl yn aros yn eu hardaloedd, mae trafnidiaeth yn gyfyngedig iawn.”

Mae hefyd yn ei chael hi'n anodd rhagweld amser pan fydd Liberia yn gallu datgan ei hun yn rhydd o Covid-19. Meddai: “Mae’r nifer o achosion yn cynyddu’n gyson. Rwy'n credu y bydd y feirws yn parhau am dipyn o amser.

“Does dim defnydd disgwyl am ddiffyg achosion, oherwydd mae gan bob feirws ei ganlyniadau.

“Mae gorfodi lockdown yn anodd achos mae’r mwyafrif o bobl yma'n byw o ddydd i ddydd, maen nhw'n byw law yn llaw.

“Mewn nifer o achosion, mae eu goroesiad cyfan yn dibynnu ar werthu nwyddau ar y stryd.

“Os ydych chi'n atal pobl rhag gadael y tŷ ac yn dweud wrthynt na allwch werthu mwy, yna dros nos rydych yn atal incwm pobl.

“Dyna pam gwelir gwir canlyniadau’r feirws pan fu’r brifddinas dan glo.

“Collodd pobl y gallu i fwydo eu teuluoedd ac felly gwelsom lawer o bobl yn ymweld â’r ysbyty hwn yn dioddef o ddiffyg maeth.”

Wrth edrych i'r dyfodol, bydd Mikey yn dal i wynebu'r her o ddelio â bygythiad Covid-19 ond hefyd yn ceisio cadw gwasanaethau iechyd eraill i fynd.

Meddai: “Prif nod ein gwaith yw ceisio cadw ein hysbyty ar agor ar gyfer popeth arall. Mae Covid-19 yn enfawr wrth gwrs, ond mewn gwlad fel Liberia mae cymaint o bethau allan yna sydd mor beryglus.

“Mae diffyg maeth yn broblem enfawr, felly hefyd malaria. Mae genedigaethau brys mewn plant yn aml yma.”

Mewn adlais o’r hyn sy’n digwydd yma yng Nghymru - wrth i’r GIG geisio ail-ddechrau gwasanaethau ar-lein ac annog y cyhoedd i ofyn am gymorth pan fydd ei angen arnynt - her arall fu magu hyder pobl i ail-ymgysylltu â’r system iechyd.

Dywedodd Mikey: “Roedd effaith ein marwolaethau COVID cyntaf yma yn yr ysbyty ym mis Ebrill, yn enfawr.

“Fe wnaeth atal pobl rhag dod i’r ysbyty.

“Fe gawson ni bythefnos hollol dawel heb unrhyw gleifion.

“Doedd neb eisiau mynd i’r ysbyty, roedd ofn ar bobl. Roedd canfyddiad pe byddech chi'n mynd yn sâl ac yn mynd i'r ysbyty y byddech chi'n dal coronafeirws.

“I ddechrau roedden ni’n dawel iawn.”

Mae pethau wedi dechrau cyflymu, wrth i hyder fagu’n araf a theuluoedd yn dychwelyd i gymryd rhan yn y rhaglen diffyg maeth sy’n cael ei hariannu gan Gymru.

Mae Mikey yn bwriadu dychwelyd adref yn fuan ond cyn iddo adael ei nod yw gadael strategaeth 'dan berchnogaeth Liberia' yn y frwydr yn erbyn Covid-19 a sicrhau bod y rhaglen diffyg maeth wedi'i sefydlu hefyd, i barhau i helpu'r 600 o blant â diffyg maeth sy'n mynychu’r rhaglen yn fisol.

Meddai: “Yn Liberia, rwy’n amau y bydd coronafeirws yma am yr hir dymor, felly mae mor bwysig i mi fod perchnogaeth leol ac i ymgysylltu â'r boblogaeth i gadw'r rhaglenni hyn i symud ymlaen. "

**

Mae Mikey yn codi arian ar gyfer ei waith allan yn Liberia. Os hoffech gyfrannu gallwch wneud hynny trwy ei dudalen JustGiving: https://www.justgiving.com/fundraising/michael-bryant

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.