Neidio i'r prif gynnwy

Rosie, y ddoli glwt, yn gwneud yn siŵr bod cleifion ifanc yn dal ati i symud yn ystod pandemig Covid

Rosie, y ddoli glwt, yw un o wynebau mwyaf arloesol y GIG wrth ymateb i Covid-19. 

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe wedi manteisio ar dechnoleg flaengar er mwyn addasu nifer o’i wasanaethau yn ystod y cyfnod clo, ac mae’n parhau i wneud hynny wrth gamu i’r cyfnod ‘normal newydd’.  

Mae Rosie yn fwy traddodiadol na’r dulliau digidol diweddaraf, ond mewn nifer o ffyrdd mae hi’r un mor allweddol.   Rosie yw’r ddiweddaraf i’w chael ei recriwtio i dîm Ffisiotherapi Pediatrig Bae Abertawe. 

Mae’r tîm yn helpu plant â pharlys yr ymennydd, plant sydd ag oedi yn eu datblygiad a phlant sydd ag amrywiol syndromau eraill.  Wrth i'r pandemig daro, sylweddolodd y tîm na fyddai eu sesiynau wyneb yn wyneb yn bosibl. Mae gan lawer o'r plant gyflyrau gydol oes ac felly roedd yn rhaid dod o hyd i ffordd o wneud yn siŵr eu bod yn dal i ddarparu triniaeth yn ystod Covid.

Ceri Selman a ‘greodd’ Rosie ac mae’n Ffisiotherapydd Pediatrig. Meddai: “Daeth yn amlwg yn fuan y byddai’n rhaid i ni feddwl am ffyrdd gwahanol o weithio, a hynny’n gyflym.

“Fe sefydlon ni ein gwasanaethau rhithwir ond, yn bersonol, roeddwn i'n ei chael hi'n anodd defnyddio galwadau fideo i esbonio i rieni sut i leoli eu plant ar gyfer ymarferion.

“Byddwn yn dweud ‘symudwch eu braich dde ar y goes chwith, yna ei symud fel hyn, yna ei symud i lawr’.

“Ac nid yw hynny’n glir iawn dros alwad fideo.

“Sylweddolais y byddai angen rhywbeth a allai ddangos y safleoedd yr oedden ni am i famau a thadau roi eu plant ynddynt.”

Dyna pryd y cyflwynon ni Rosie, y ddoli glwt.

Mae Ceri yn cyfaddef ei bod hi'n teimlo’n eithaf pryderus ar ddechrau'r pandemig. Ar y dechrau, teimlai fod angen rhywbeth arni i lenwi ei hamser gyda'r nos, ac er ei bod yn cyfaddef nad yw'n 'wniadwraig naturiol', fe sychodd y llwch oddi ar hen beiriant gwnïo o'r 1980au yr oedd wedi’i etifeddu gan ei mam - a dyma Rosie yn dod i fodolaeth.

Meddai Ceri: “Fe wnaeth gwnïo Rosie fy helpu’n fawr ar adeg pan oeddwn yn arbennig o bryderus oherwydd y cyfan a oedd yn digwydd.

“Roedd ei chreu o help mawr i’m lles i yn ystod y cyfnod hwnnw, cyfnod a oedd yn anodd iawn i lawer o weithwyr iechyd proffesiynol.”

Mae Rosie wedi bod yn boblogaidd iawn gyda'r teuluoedd y mae'n eu helpu.

Mae Amelie FosterTurner yn dair a hanner oed, ac mae ganddi barlys yr ymennydd. Mae hi wedi bod yn cael ffisio gyda Ceri ers pan oedd hi'n 6 mis oed.

Dywed mam Amelie, Luci, fod ei merch yn ffynnu yn ystod ei sesiynau gyda’r ffisiotherapyddion.  Mae’n cyfaddef ei bod yn bryderus ar y dechrau sut y byddent yn gallu parhau â’u triniaeth wrth i Covid daro.

Dywedodd Luci: “Mae’r cyfan wedi rhedeg yn esmwyth.

“Fel rheol, pan fydden ni wyneb yn wyneb, byddai Ceri yn rhoi Amelie yn y safleoedd y byddai hi eisiau i fi eu gweld, gan symud Amelie o gwmpas a dangos i fi’n union beth i'w wneud.

“Mae ceisio esbonio hynny i rywun dros fideo yn anodd iawn, felly mae cael y ddol wedi bod yn gymaint o help.”

“Hefyd mae Amelie yn cael ei mesur ar gyfer sblintiau coesau, a defnyddiodd Ceri y ddol i ddangos i fi sut i gymryd yr holl fesuriadau cywir er mwyn i ni allu eu harchebu nawr, yn hytrach nag aros i bopeth fynd yn ôl i’r drefn arferol.”

Mae Rosie y ddoli glwt wedi bod yn gweithio’n galed, ond dim ond rhyw gymaint o sifftiau y gall un ddoli eu gwneud, ac roedd Ceri eisoes wedi dychwelyd peiriant gwnïo ei mam yn ôl i’w focs ar ben y cwpwrdd dillad.

Nawr, fodd bynnag, mae byddin o ddolis newydd wedi’u recriwtio i ymuno â Rosie, a hynny drwy waith y grŵp For the Love of Scrubs, Bae Abertawe.

Mae’r gwirfoddolwyr annibynnol wedi gwneud gwaith anhygoel yn creu miloedd o sgrybs ac amrywiol eitemau eraill ar gyfer gweithlu’r bwrdd iechyd yn ystod y pandemig.

Lisa Pařez a sefydlodd dudalen Facebook y grŵp ac mae’n cydlynu’r gwaith o wneud a dosbarthu’r sgrybs. Pan ofynnwyd iddi a allent helpu i wneud dolis clwt newydd, fe wyddai y byddai’r grŵp angerddol a brwd hwn yn ymateb i’r her.

Meddai Lisa: “Mae gan bawb gymaint o ddoniau amrywiol, mae’r aelodau bob amser wrth eu boddau’n bod yn greadigol a rhoi help llaw.

“Maen nhw i gyd wedi bod mor anhygoel, yn tynnu at ei gilydd i helpu ein cymunedau.”

Diolch iddyn nhw, mae yna ddigon o ddolis i fynd o gwmpas, gan helpu hyd yn oed mwy o blant. Mae’r ffisiotherapyddion wedi bod yn anfon lluniau o’u dolis newydd wrth eu gwaith i dudalen y grŵp ar y cyfryngau cymdeithasol, er mwyn iddyn nhw allu gweld ffrwyth eu llafur.

Meddai Lisa: “Mae wedi bod yn hyfryd gweld y lluniau.  Gobeithio bod ein grŵp wedi gallu gwneud swyddi’r ffisiotherapyddion ychydig yn haws, a chefnogi’r rhieni i ddeall sut i helpu eu plant tra bo’r pandemig yn parhau.”

Nid yw’r dolis yn ofni mynd i adrannau eraill chwaith.  Maent wedi bod mor llwyddiannus ar gyfer ffisiotherapi, fel eu bod nawr yn cael eu defnyddio hefyd gan Therapyddion Galwedigaethol a Therapyddion Iaith a Lleferydd Bae Abertawe.

Wrth i Lywodraeth Cymru godi’r cyfyngiadau’n raddol, mae’n dal yn aneglur sut bydd y dyfodol i lawer o wasanaethau fel Ffisiotherapi Pediatrig. Beth fydd y ‘normal newydd’ a phryd bydd y ffisiotherapyddion yn gallu cwrdd â’u plant wyneb yn wyneb unwaith eto?

Dywedodd Rebecca Kennedy, Arweinydd Clinigol Bae Abertawe ar gyfer Ffisiotherapi Pediatrig: “Yn yr amgylchiadau presennol, mae Rosie, a’i ffrindiau newydd erbyn hyn, wedi golygu ein bod wedi gallu parhau i ddarparu rhywbeth.  Fel arall, byddai wedi bod yn wirioneddol anodd cyflawni unrhyw beth gyda'r teuluoedd.

“Yn y dyfodol, rydyn ni’n gobeithio y bydd hyn yn cael ei ychwanegu at ein gwasanaeth, yn hytrach nag yn cymryd lle rhywbeth arall.

“Rwy’n credu ei fod wedi cyfoethogi’r hyn rydyn ni’n ei gynnig.

 “Dw i ddim yn credu, er hynny, y bydd byth yn disodli’r cyswllt wyneb yn wyneb.”

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.