Neidio i'r prif gynnwy

Ple i'r cyhoedd wrth i bwysau Covid gynyddu ar wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol lleol

Mae pobl yn Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot yn cael eu hannog i barhau i chwarae eu rhan i gadw gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol rhag cael eu gorlethu.

Daw’r alwad ar ôl i nifer o achosion coronafeirws cynyddu dros yr wythnosau diwethaf, gan fynd â’r rhanbarth yn sylweddol uwch na chyfartaledd Cymru.

Mewn ymateb, mae penaethiaid byrddau iechyd a chynghorau yn apelio ar gymunedau i ddilyn y rheolau cyfnod atal y coronafeirws a helpu i leihau lledaeniad y feirws.

Dywedodd Dr Keith Reid, Cyfarwyddwr Gweithredol Iechyd y Cyhoedd ar gyfer rhanbarth BIP Bae Abertawe: “Rydyn ni nawr mewn sefyllfa ddifrifol iawn yn Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot.

“Mae COVID-19 yn effeithio’n sylweddol ar ein cymunedau, ac mae hyn yn effeithio ar y ffordd mae gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn cael eu rhedeg.

“Yn ystod y pedair wythnos ddiwethaf, rydyn ni wedi colli 40 o gleifion i COVID-19 yn ardal Bae Abertawe - pob un o’r rhain yn fam, tad, gŵr, gwraig, partner, chwaer, brawd, ffrind, neu rywun annwyl.”

Ychwanegodd Dr Reid: “Ar hyn o bryd, mae gennym 166 o bobl yn derbyn triniaeth ar gyfer COVID-19 yn ein hysbytai - gyda nifer o’r rhain mewn gofal critigol.

“Rydyn ni nawr yn profi dros 5,000 o bobl bob wythnos am coronafeirws. Yn ystod yr wythnos ddiwethaf, roedd bron i un o bob pump o’r rhai a brofwyd yn gadarnhaol. ”

Meddai: “Mae'n bwysig eich bod chi'n gwybod nad yw'r feirws yn effeithio ar bobl hŷn a bregus yn unig. Mae cleifion o dan 40 oed sydd yn yr ysbyty â COVID-19.

“O'r rhai sydd yng ngwelyau gofal critigol ein hysbytai ar hyn o bryd, mae nifer sylweddol o dan 60 oed.”

Dywedodd Dr Reid, wrth i nifer y cleifion sy'n cael eu derbyn gyda COVID-19 gynyddu, mae'r gallu i gael gwasanaethau di-frys a gweithdrefnau meddygol sydd wedi'u cynllunio wedi dod yn fwy cyfyngedig.

Bythefnos yn ôl, dangosodd data profi fod 161.9 a 186.3 o achosion i bob 100,000 o bobl yn Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot. Ers hynny mae'r niferoedd hyn wedi mwy na dyblu i 385.4 a 344.0 achos fesul 100,000 - ac maent yn parhau i godi.

Dywedodd Dr Reid: “Mae ein gwasanaethau Prawf, Olrhain, Amddiffyn dan straen wrth i nifer y bobl sydd angen profion COVID-19 dyfu. Mae'r cynghorau'n recriwtio pobl ar frys i gynyddu capasiti. Yn y cyfamser, rhaid i unrhyw un sydd â symptomau hunan-ynysu ar unwaith gyda'r bobl maent yn byw gyda nhw a mynd allan i gael eu profi yn unig. Dylai gweddill eich cartref hefyd ynysu nes bod y canlyniad yn hysbys. Gallant ddod allan o hunan-ynysu os yw'r prawf yn negyddol ond rhaid iddynt ynysu am 14 diwrnod os daw'r prawf yn ôl yn bositif.”

Dywedodd Andrew Jarrett, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Castell-nedd Port Talbot fod y ddau awdurdod lleol yn gweithredu ar unwaith i ddelio â'r effaith ar wasanaethau gofal cymdeithasol yn y rhanbarth, sydd hefyd wedi bod yn sylweddol ac mae'r pwysau'n cynyddu.

Dywedodd Mr Jarrett: “Roedd rhaid i ni wneud y penderfyniad anodd i atal gwasanaethau dydd a gwasanaethau seibiant am o leiaf pythefnos, yn dilyn nifer o achosion cadarnhaol ymhlith defnyddwyr gwasanaeth a staff. Mae'n bosibl bydd aflonyddwch y gwasanaeth hwn yn ymestyn y tu hwnt i'r cyfnod atal y coronafeirws, yn dibynnu ar gyfraddau trosglwyddo Covid-19 lleol.

“Rydyn ni'n gwybod bod hyn yn rhoi pwysau ychwanegol ar deuluoedd, gofalwyr a defnyddwyr gwasanaeth, ond mae'n rhaid i ni bwyso a mesur buddion mynychu gwasanaeth dydd neu ddarpariaeth seibiant, yn erbyn y risgiau sy'n gysylltiedig â dal Covid-19.

“Mae gwasanaethau gofal cartref a gofal preswyl hefyd o dan straen cynyddol, wrth i fwy o staff ynysu, naill ai oherwydd eu bod wedi cael eu heintio neu oherwydd eu bod wedi bod mewn cysylltiad agos â rhywun sydd wedi profi’n bositif.”

Ychwanegodd: “Byddwn yn parhau i ddarparu’r gwasanaethau hanfodol hyn y gorau ag y gallwn i helpu i gadw ein cymunedau’n ddiogel - ond ni allwn wneud hyn heboch chi. Nid yw'r cynnydd mewn achosion COVID-19 yn anochel. Os ydym i gyd yn parhau i ddilyn y rheolau, gallwn reoli'r feirws. ”

Dywedodd Dave Howes, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol Abertawe: “Rydym yn gweld pwysau enfawr ar wasanaethau gyda’r nifer o bobl sydd angen ein cefnogaeth wedi dwblu yr hyn ydoedd ym mis Mawrth. Mae gennym fwy na 100 o welyau preswyl awdurdodau lleol ar hyn o bryd ac ym mis Medi yn unig gawsom 652 o ymholiadau newydd yn ceisio am gefnogaeth.

“Mae staff yn gwneud gwaith gwych i ddelio â’r pwysau mewn amgylchiadau anodd iawn ond rydym am ddechrau gaeaf hir ac anodd a dyna pam y byddwn yn annog pobl i ddilyn y rheolau a lleihau eu cyswllt ag eraill lle bynnag bod modd.

“Rydym yn recriwtio mwy o staff gofal cartref, staff cartrefi preswyl a gweithwyr cymdeithasol i fynd i’r afael â’r galwadau cynyddol hyn ar draws y gwasanaeth ac rydym yn paratoi capasiti preswyl ychwanegol yn barod ar gyfer pan fydd ei angen.

“Ond ni allaf bwysleisio hyn yn ddigonol, mae angen i’r cyhoedd gwneud eu rhan i helpu i dorri lledaeniad y feirws.”

Dywedodd Dr Reid: “Mae Bae Abertawe wedi gwneud hyn o’r blaen a gallwn wneud eto. Yn gynharach eleni roeddem yn gallu cadw gwasanaethau iechyd a chymdeithasol i fynd oherwydd bod pawb yn dilyn y rheolau cloi cenedlaethol.

“Mae'n anodd torri arferion ond os ydym am atal lledaeniad coronafeirws, mae'n rhaid i ni i gyd barhau i fyw ein bywydau yn wahanol.

“Rydyn ni’n gwybod o achosion diweddar fod pobl ym Mae Abertawe yn dal i gwrdd ag eraill nad ydyn nhw'n byw gyda nhw, sy'n helpu'r feirws i ledaenu. Yn ystod y cyfnod atal hwn, ni ddylem fod yn cwrdd â phobl yr ydym yn byw gyda hwy oni bai ein bod yn byw ar ben ein hun neu fod gennym drefniadau rhannu plant. "

“Rydym hefyd wedi gweld coronafeirws yn lledu mewn gweithleoedd. Yn aml mae hyn yn digwydd mewn ystafelloedd egwyl a ffreuturau, a phan fydd pobl yn rhannu cerbydau. Mae'n hawdd cwympo yn ôl i hen arferion ond nid yw coronafeirws yn diflannu tra ein bod ni yn y gwaith. Mae angen i ni aros dau fetr ar wahân o hyd, gwisgo gorchuddion wyneb lle bo angen a chadw ein dwylo'n lân. ”

“Mae angen eich cefnogaeth arnom i fynd drwy’r ail don hon ac i roi’r cyfle gorau posibl inni barhau i ddarparu’r system o wasanaethau cymorth lleol hanfodol i’r preswylwyr mwyaf agored i niwed. Trwy wneud y newidiadau bach hyn nawr, gallwch chi atal COVID-19 rhag lledaenu a chadw gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol Bae Abertawe i redeg. ”

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.