Neidio i'r prif gynnwy

Pâr yn paratoi cyflwyno hyfforddiant mamolaeth yn Affrica

Mae rhoi genedigaeth yn un o'r profiadau mwyaf heriol y gall menyw fynd drwyddo, hyd yn oed gyda'r gefnogaeth gywir.

 Yn drasig, mae rhai mamau yn Affrica yn wynebu'r profiad ar eu pennau eu hunain neu mewn ofn ymddygiad ymosodol gan eu rhoddwyr gofal.

Dyma pam mae obstetregydd ymgynghorol a bydwraig ymgynghorol o Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe yn teithio i Zimbabwe y mis nesaf.

Fel rhan o raglen Cymru dros Affrica Llywodraeth Cymru, sy'n cefnogi dysgu a chyfnewid sgiliau, bydd Myriam Bonduelle a Victoria Owens yn hyrwyddo gofal mamolaeth parchus (RMC).

Mae RMC yn cael ei argymell gan Sefydliad Iechyd y Byd fel rhan o brofiad genedigaeth gadarnhaol.

Mae'n amddiffyn urddas menywod a'u hawliau, yn sicrhau rhyddid rhag niwed a chamdriniaeth ac yn rhoi dewis iddynt.

Dywedodd yr obstetregydd ymgynghorol Myriam: “Y llynedd, cawsom y fraint o allu dechrau gweithio gyda thîm ymroddedig o obstetregwyr a bydwragedd lleol i ddarparu hyfforddiant i rai hyrwyddwyr lleol ar gyfer RMC.

“Mae’r rhaglen yn canolbwyntio ar garedigrwydd a thosturi wrth ddarparu gofal ynghyd ag annog symud yn ystod genedigaeth a phwysigrwydd cymdeithion genedigaeth.”

Mae taith y pâr hefyd ar y cyd â'r White Ribbon Alliance, sy'n hyrwyddo gofal iechyd o safon i ferched a menywod ledled y byd.

Ychwanegodd Victoria: “Credwn fod gan bob merch ledled y byd hawl i brofiad geni cadarnhaol heb ofn na chyfyngiad.

“Mae’r cyllid a gawsom gan Lywodraeth Cymru ynghyd â’r gefnogaeth barhaus gan ein bwrdd iechyd yn golygu y gallwn barhau â’r gwaith hanfodol hwn yn Zimbabwe, lle mae profiadau genedigaeth yn aml yn wahanol iawn i brofiad menywod yn y DU.”

 

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.