Neidio i'r prif gynnwy

Nyrsys Bae Abertawe yn rhedeg am brif wobr

RCNi3

Mae dwy nyrs o Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe wedi’u henwebi ar gyfer gwobr nyrs gorau’r wlad.

Mae Rea Pugh-Davies a Janet Keauffling wedi cyrraedd rownd derfynol y Wobr Nyrsys RCNi Coleg Nyrsio Brenhinol 2020, sy’n arddangos rhagorion y proffesiwn.

Dewiswyd y rownd derfynol o nyrsys ar draws 12 categori ymhlith 700 o gynigion, gydag un enillydd categori yn derbyn teitl Nyrs y Flwyddyn RCNi 2020 mewn seremoni yn ddiweddarach eleni.

Mae Rea Pugh-Davies, Gweithiwr Cymorth Gofal Iechyd wedi'i lleoli mewn theatrau yn Ysbyty Castell-nedd Port Talbot, ar y rhestr fer yn y categori Gweithiwr Cymorth Nyrsio.

Enwebwyd Rea, sydd wedi dechrau ei hyfforddiant nyrsio ar sail rhan amser, gan Joanne Phillips, chwaer gofal anaestheteg yn Ysbyty Castell-nedd Port Talbot.

RCNi2 Meddai: “Mae Rea yn weithiwr caled sy’n cynnal gwaith o safon uchel ar y cyd â gweddill y tîm. Mae hi bob amser yn awyddus i fynychu Cyfarfodydd Budd Gorau i ddarganfod popeth am y claf, ei anghenion, ei hoff bethau a'i gas bethau. Yna mae hi'n cymryd y wybodaeth hon ac yn cyfrannu at gynllun gofal unigol gyda syniadau arloesol ac ysbrydoledig.

“Bydd Rea yn mynd yr ail filltir i wneud derbyniad y claf yn brofiad arbennig ac unigryw, fel argraffu hoff bosteri'r claf i'w harddangos yn y theatr neu darganfod hoff raglenni, ffilmiau neu gerddoriaeth i'w chwarae er mwyn dynnu sylw'r claf a lleihau pryder.

“Mae ei brwdfrydedd naturiol yn heintus ac yn adfywiol. Mae hi’n wych yn cysylltu â'r cleifion ac maent yn ymateb i'w chyfathrebu a'i phersonoliaeth gynnes a gofalgar.

“Mae Rea yn cynnig syniadau arloesol a fydd yn helpu'r unigolyn a'u teuluoedd i ymdopi gyda'r profiad. Ei nod yn y pen draw yw gwneud profiad y claf y gorau y gall fod. Mae'n bleser gweithio gyda Rea, mae hi’n hapus yn ei rôl ac wir yn gwneud gwahaniaeth.”

Mae'r Nyrs Arbenigol Pobl Ddigartref Janet Keauffling, sydd wedi'i lleoli ym Mhartneriaeth Feddygol Abertawe, ar y rhestr fer ar gyfer y categori Ymarfer Cyffredinol a Nyrsio Cymunedol.

Mae Janet, a dyfarnwyd MBE yn Rhestr Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines yn 2012 am wasanaethau i bobl ddigartref a bregus yn Abertawe, wedi cael ei henwebu gan Dr Ceri Todd, Arweinydd Clwstwr Iechyd Abertawe.

Meddai Dr Todd: “Mae gofal claf digartref lleol wedi cael ei drawsnewid gan waith caled Janet a’i hymroddiad di-ffael i’w swydd dros yr 15 mlynedd diwethaf.

“Mae hi wedi datblygu a meithrin y gwasanaeth i addasu i anghenion heriol y grŵp hwn. Lle nad oedd gwasanaeth erioed yn bodoli ar gyfer y grŵp yma o gleifion, mae hi wedi creu gwasanaeth hanfodol sy’n sicrhau gofal iechyd safon uchel ar gyfer eu hamgylchiadau bywyd anodd.

“Mae hi hefyd yn cynnig cyfleoedd cysgodi a dysgu dyddiol ar gyfer ei chydweithwyr, ac yn cyflwyno’n rheolaidd mewn cynadleddau a chyfarfodydd tîm amlddisgyblaethol i sicrhau bod llais pobl ddigartref yn cael eu clywed.

“Mae Janet wedi dylanwadu a chyffwrdd â llawer o fywydau, gan gynnwys cleifion a chydweithwyr ac mae ei gwaith yn y gwasanaeth wedi bod yn wirioneddol ysbrydoledig.”

RCNi1 Dywedodd Janet am ei henwebiad: “Rwy’n falch iawn fy mod wedi cael fy enwebu am Wobr Nyrs RCNi. Mae wedi bod yn bleser ac yn fraint enfawr bod yn nyrs arbenigol i bobl sy'n ddigartref. Mae cael fy nghydnabod am y gwaith yma yn arbennig iawn. ”

Dywedodd Tracy Myhill, Prif Swyddog Gweithredol BIPBA: “Mae'n wych bod Rea a Janet wedi cael eu cydnabod am eu gwaith rhagorol ac rwy'n croesi fy mysedd bod eu hymdrechion yn cael eu cydnabod gan y beirniaid ac maen nhw'n dod â'u gwobrau gartref. Da iawn oddi wrthyf i beth bynnag yw'r canlyniad. Rea a Janet rydych chi'n haeddu'r gwobrau yn fy marn i.

“Maent yn rhan o weithlu medrus, ymroddedig a gofalgar! Mae cymaint o bobl ryfeddol yn gweithio ym Mae Abertawe ac ni fyddaf byth yn blino dweud wrth bobl pa mor falch ydw i o’u hymdrechion - yn enwedig ar ôl y ffordd y maent wedi ymateb i’r heriau a ddaeth yn sgil Covid-19. ”

Dywedodd Emma Woollett, Cadeirydd BIPBA: “Hoffwn longyfarch Rea a Janet ar eu henwebiadau a dymuno’n dda iddynt ar gyfer y seremoni wobrwyo yn ddiweddarach eleni.

“Rydyn ni mor ffodus ym Mae Abertawe i gael nifer o nyrsys rhyfeddol, gweithgar, ymroddedig a gofalgar ac mae'n wych eu gweld nhw'n cael eu cydnabod - nid yn unig gydag enwebiadau gwobrau ond gan y cyhoedd yn gyffredinol fel y dangoswyd gan y ‘Clap for NHS Heroes.’”

Dywed rheolwr gyfarwyddwr RCNi, Rachel Armitage: “Ni allai unrhyw un fod wedi rhagweld pa mor bwysig byddai Gwobr Blwyddyn y Nyrs a’r Fydwraig mewn gwirionedd.

“Tra bod ein ceisiadau wedi cau cyn y pandemig, credwn ei bod hi’n amser i arddangos y proffesiynoldeb, yr arbenigedd clinigol a’r gofal tosturiol a ddarperir gan nyrsiau i gleifion ledled y DU, nid yn unig yn ystod yr argyfwng hwn ond bob dydd o bob blwyddyn.”

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.