Neidio i'r prif gynnwy

Nyrsys ardal yn epitomeiddio ewyllys da'r ŵyl

Cwrdd â'r nyrsys ardal sy'n rhoi'r mwyaf i'w diwrnod Nadolig i wasanaethu eraill.

Pan fyddwch chi'n eistedd i lawr am eich cinio Nadolig, meddyliwch am bobl fel Jackie Ibrahin, cydlynydd gofal nyrs ardal ar gyfer clwstwr Cwmtawe, a'i thîm, sydd wedi gwirfoddoli i weithio dros y Nadolig a'r flwyddyn newydd.

Mae eu hymroddiad anhunanol yn sicrhau bod cleifion sy'n gaeth i'r tŷ yn barhaol neu dros dro yn parhau i gael y cymorth sydd ei angen arnynt 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos dros yr wythnos i ddod.

Dywedodd Jackie: "Rydym yn cynnal yr hyn sy'n arferol dros y Nadolig a'r flwyddyn newydd, er bod gennym staff cyfyngedig, gan fod angen gofal ar ein cleifion o hyd.

"Rydym yn ceisio gwneud hynny yn wirfoddol, mae pobl yn tueddu i gynnig yr hyn a allant o amgylch eu teuluoedd, fel arall, rydym yn rhoi enwau mewn het, nad oes neb yn ei feddwl mewn gwirionedd. A bod yn deg, bydd y mwyafrif o'r merched sydd heb deulu ifanc, yn cynnig gweithio.

"Yn sicr, does dim ots gen i weithio dydd Nadolig. Rydw i ar y sifft 8.30am tan 5pm, gallwch symud eich cinio ac agor eich anrhegion yn gynharach neu'n hwyrach.

"Mae'r cyfan yn rhan o fod yn nyrs ardal. Maent yn alwadau sydd eu hangen, felly mae'n rhaid ei wneud.

"Rhan fawr o'r rôl yw gofal yr henoed, er ein bod yn cael llawer o gleifion lliniarol iau sydd eisiau dod adref am ddiwedd eu hoes. Gall fod yn rôl anodd ac mae'n effeithio arnoch yn feddyliol. Mae'n rhaid i chi wneud y gorau y gallwch. "

Ond mae'r rôl anodd yn aml yn dwyn ffrwyth.

Dywedodd Jackie: "Mae'n braf cael bod allan yno, yn y gymuned, gyda'r cleifion. Ac mae'n ofal mwy personol wrth i chi ddod i adnabod cleifion. Yn aml iawn maent wedi bod ar ein llyfrau ers blynyddoedd.

"Mae'r cleifion yn sicr yn ddiolchgar. Mae llawer o'n cleifion yn tueddu i fod yn hen ac efallai na fydd ganddynt unrhyw deulu o gwbl, felly, gan mai’r Nadolig yw hi, rydym ni’n ceisio gwisgo i fyny a chodi eu calonnau. "

Pwysleisiodd Andrea Holborow, Rheolwr Nyrs Ardal Cynorthwyol Clwstwr Cwmtawe, y rôl unigryw y mae ei staff yn ei chwarae.

Dywedodd: "Rôl y nyrs ardal yw ymweld â chleifion yn eu cartrefi eu hunain, nodi anghenion nyrsio'r cleifion a gweithredu, ar y cyd â'r meddyg teulu, y gofal sydd angen ei ddarparu.

"Efallai ei fod yn ofal clwyfau ar ôl i gleifion gael eu rhyddhau o'r ysbyty, gall fod yn rhwygiadau ac na allant fynd i'r feddygfa o’r herwydd, rydym yn bennaf yn gweld cleifion sy'n gaeth i'r tŷ, pobl sydd â briwiau cronig sy'n eu gwneud yn ansymudol.

"Mae cleifion yn cael eu cyfeirio atom gan ysbytai, meddygon teulu, gweithwyr cymdeithasol, therapyddion galwedigaethol, teuluoedd a gofalwyr ac nid 9 i 5 ydyw, mae gennym hefyd rota nos a gwasanaeth nos."

Dywedodd ei fod yn faes nyrsio sy'n apelio at rai yn fwy nag eraill.

"Rydych naill ai'n ei hoffi neu ddim. Mae'n rhaid i chi fod yn weithiwr unigol ac mae'n rhaid i chi wneud rhai penderfyniadau pwysig yn annibynnol gan nad oes gennych y meddygon o'ch cwmpas, fel rydych chi'n gwneud 24/7 ar y ward mewn gofal eilaidd.

"Er mwyn bod yn nyrs ardal, mae'n rhaid i chi gael y dyfarniad arbenigol, sy'n BSc neu MSc, yr ydych yn astudio ar ei gyfer yn y brifysgol."

Ychwanegodd Andrea, sydd yn nyrsio ers dros 35 o flynyddoedd: "Rwy'n credu ein bod yn freintiedig iawn oherwydd ein bod yn mynd i mewn i gartrefi pobl. Rydych chi'n meithrin perthynas â'ch cleifion oherwydd, yn aml iawn, mae'n berthynas hirsefydlog. Gallwch fod yn mynd i mewn i weld y bobl hyn am fisoedd ar y tro ac mae rhai cleifion sydd wedi bod ar lwythi achos ers blynyddoedd. Rydych yn dod ynghlwm. "

Mae'r tîm, sydd wedi'i leoli yng Nghanolfan Gofal Sylfaenol Clydach yn rhan isaf Cwm Tawe ac sy'n gwasanaethu cleifion yng Nghlwstwr Cwmtawe (sy'n cynnwys Grŵp Meddygol Cwmtawe, Meddygfa Strawberry Place yn Nhreforys a Meddygfa Llansamlet, yn gobeithio atgyfnerthu ei niferoedd yn y dyfodol agos.

Dywedodd Dr Iestyn Davies, arweinydd Clwstwr Cwmtawe: "Gyda chymaint o newidiadau i'r gwasanaeth nyrsys ardal dros y blynyddoedd diwethaf rydym wedi gweld bod parhad yn broblem. Mae recriwtio mwy o nyrsys ardal i helpu eu gweithlu ac i ysgafnhau'r baich ar eu gwasanaethau yn rhywbeth yr ydym yn edrych i mewn iddo."

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.