Neidio i'r prif gynnwy

Newidiadau dros dro i drefniadau profion gwaed ym Mae Abertawe

Bu'n rhaid i drefniadau profion gwaed newid dros dro ym Mae Abertawe oherwydd prinder cenedlaethol o gyflenwadau hanfodol.

Mae hyn wedi achosi aflonyddwch difrifol ledled y DU ac o ganlyniad mae Bae Abertawe yn blaenoriaethu profion ar gyfer y rhai sydd eu hangen ar frys.

Yn anffodus bydd yn golygu oedi ar gyfer profi'n rheolaidd profi'n nes i'r sefyllfa gael ei datrys.

Mae'r cwmni fferyllol Roche wedi cadarnhau problemau gyda'r gadwyn gyflenwi ar gyfer adweithyddion, a ddefnyddir ar gyfer dadansoddi yn y labordi.

Mae Bae Abertawe yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru a byrddau iechyd eraill y mae'r broblem wedi'u heffeithio, mae gwir raddau hyn ond wedi dod yn amlwg dros yr ychydig o ddyddiau diwethaf.

Yn ogystal ag effeithio ar waed a phrofion biocemegol eraill, bydd effaith hefyd ar ddadansoddiad histochemical imiwn (IHC).

Mae hyn yn allweddol ar gyfer rhai diagnosisau clinigol ar samplau meinwe a thriniaeth targedol ar gyfer rhai clefydau.

Dywedodd y Prif Swyddog Gweithredol a’r Dirprwy Brif Weithredwr Chris White : “Mae’r bwrdd iechyd a Llywodraeth Cymru yn gweithio i ddatrys hyn cyn gynted â phosibl.

“Ein prif flaenoriaeth yw amddiffyn iechyd a diogelwch cleifion a chymunedau.

“I wneud hyn, bu’n angenrheidiol cyfyngu profion gwaed mewn gofal sylfaenol a chleifion allanol i brofion brys, sydd medru gwneud gwahaniaeth ar unwaith i driniaeth y claf.

“Bydd yr un peth yn berthnasol i ddefnyddio adweithyddion ar gyfer dadansoddiad IHC.

“Rydyn ni wedi gofyn i’n holl glinigwyr gyfyngu profion i achosion brys a fyddai’n cael effaith uniongyrchol ar driniaeth.”

Gofynnir i unrhyw un sydd wedi cael eu atgyfeirio am brawf gwaed gan eu meddyg teulu i fod yn bresennol dim ond os maent yn gwybod ei fod yn fater brys neu os yw'r meddyg wedi ysgrifennu ar frys ar y ffurflen. Os ydynt yn ansicr dylent gysylltu â'u meddygfa.

Gofynnir i rai sydd angen prawf gwaed cyn apwyntiad claf allanol yn ystod mis Hydref i alw llinell gyngor bwrpasol BIP Bae Abertawe ar 01639 862858. Mae hyn yn dechrau yfory (dydd Gwener 9 Hydref) ac mae ar gael 9am-5pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Os yw'r apwyntiad claf allanol ym mis Tachwedd neu'n hwyrach, nid oes angen gweithredu gan fod disgwyl i'r sefyllfa gael ei datrys erbyn hynny.

Yn anffodus mae'r sefyllfa'n golygu bydd y system archebu profion gwaed ar-lein yn aros oddi ar-lein nes i'r sefyllfa gael ei datrys.

Gall cleifion sy'n cwrdd â'r meini prawf ar gyfer profion brys fynd i Ysbyty Treforys, Singleton neu Castell-nedd Port Talbot.

Fodd bynnag, dylent gofio bod cyfyngiadau Covid-19 yn parhau yn eu lle.

Wrth cyrraedd, dylai pobl adrodd eu presennoldeb a rhoddir amser apwyntiad iddynt ar yr un diwrnod. Gofynnir iddynt aros yn eu car tan hynny.

Dylent arsylwi ar bellter cymdeithasol bob amser a gwisgo gorchudd wyneb cyn mynd i fewn, oni bai eu bod wedi'u heithrio'n feddygol.

Fodd bynnag, ni ddylent fod yn bresennol os oes ganddynt unrhyw symptomau Covid-19, yn aros am ganlyniad prawf Covid neu wedi bod mewn cysylltiad ag unrhyw un â symptomau neu achos Covid-19 cadarnhaol o fewn y 14 diwrnod blaenorol.

Os yw pobl yn mynychu am brawf nad yw'n fater brys, gellir cymryd eu gwaed ond mae posibilrwydd na fydd rhai o'r profion y gofynnir amdanynt yn cael eu dadansoddi oherwydd y prinder cenedlaethol.

Mae hyn yn golygu efallai bydd angen prawf ailadrodd arnynt ar ddyddiad diweddarach.

Nid yw'r prinder cenedlaethol yn effeithio ar brofion Covid-19 felly gall unrhyw un sydd wedi archebu prawf fod yn bresennol fel y cynlluniwyd.

Dywedodd Mr White: “Mae'r sefyllfa gyda'r gadwyn gyflenwi y tu hwnt i'n rheolaeth ond rydym yn gweithio ar y cyd â byrddau iechyd eraill ledled Cymru i sicrhau cyflenwadau i'n cleifion.

“Rydym yn ddiolchgar am gefnogaeth ein staff sy’n gorfod delio â’r cymhlethdod ychwanegol hwn ar adeg arbennig o brysur ac anodd.”

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.