Neidio i'r prif gynnwy

Neges o ddiolch gan Gadeirydd a Phrif Weithredwr BIP Bae Abertawe

Emma Woollett, Tracy Myhill

Helo bawb,

Hoffem ddechrau gan ddiolch i chi i gyd o waelod ein calonnau am bopeth rydych chi'n ei wneud i amddiffyn ein gwasanaethau GIG.

Does neb ohonom wedi profi'r hyn yr ydym i gyd yn mynd drwyddo nawr, ac mae'n gyfnod hynod heriol i bawb. Rydym yn deall pa mor anodd yw hi i fod ar wahân yn gorfforol i deulu a ffrindiau; pa mor anodd yw peidio â mynd i leoedd hardd ar ddiwrnodau heulog, a sut rydyn ni i gyd yn colli ein gallu i deithio o gwmpas yn rhydd gyda phwy bynnag rydyn ni eisiau wrth ein hochr ni.

Nid yw'n hawdd cadw pellter cymdeithasol, ond mae'n gweithio. Mae'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol yn y frwydr yn erbyn y feirws newydd hwn, ac mae'n achub bywydau ac yn amddiffyn ein GIG.

Wrth i rai elfennau o'r cyfnod cloi gael eu lliniaru, parhewch i ddilyn y rheolau fel rydych chi wedi bod yn gwneud hyd yn hyn.

Diolch yn fawr hefyd i bawb sydd wedi bod yn codi arian i ni, wedi rhoi rhoddion o fwyd neu offer, neu wedi prynu pethau ymolchi a dillad o'n rhestr ddymuniadau Amazon. Rydym yn wirioneddol ddiolchgar am eich cefnogaeth hael .

Nid ydym yn gwybod pryd y daw’r sefyllfa bresennol i ben, ac ni all unrhyw un ragweld yn bendant yr hyn sydd i ddod yn ystod y misoedd i ddod cyn dod o hyd i frechlyn. O’r herwydd, wrth obeithio am y gorau, bu'n rhaid cynllunio ar gyfer y gwaethaf. Efallai na fydd byth angen arnom yr holl gamau diogelwch yr ydym wedi'u rhoi ar waith - mewn gwirionedd rydym yn mawr obeithio bod hynny'n wir. Ond mae'r mesurau ychwanegol hyn ar gael nawr, felly os ydyn ni eu hangen, rydym ni'n barod.

Ers mis Mawrth, pan wnaethom ohirio apwyntiadau a llawdriniaethau cleifion allanol nad ydynt yn rhai brys i ryddhau gwelyau ar gyfer cleifion COVID-19, rydym wedi bod yn hynod brysur yn ailfodelu ein prif ysbytai i ateb y galw hwn.

Rydym hefyd wedi gwneud newidiadau mawr mewn gofal sylfaenol a gofal cymunedol; ac wrth gwrs, datblygwyd ein dau ysbyty maes newydd, Ysbyty Maes y Bae ar Ffordd Fabian ac Ysbyty Maes Llandarcy yn gyflym iawn, ac maent ar gael i gynnig cannoedd o welyau ychwanegol, os oes angen; gan nad yw'r pandemig drosodd eto. Caiff eu defnyddio ar gyfer cleifion llai difrifol sâl, a chleifion sydd bron yn barod i fynd adref ond sydd angen ychydig mwy o ofal arnynt cyn eu bod yn barod. Diolchwn i Gynghorau Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot, a oruchwyliodd a rheolodd y gwaith adeiladu.

Ond rydym hefyd yn ymwybodol iawn bod y rhai ohonoch sy'n aros am driniaeth ar gyfer cyflyrau cyffredinol nad yw’n ymwneud â’r Coronafeirws bellach yn wynebu ansicrwydd ac yn poeni pryd y byddwch chi'n ei derbyn.

Rydym bellach yn ailafael yn ofalus ar ychydig o ofal wedi'i gynllunio, ar gyfer cleifion nad yw eu cyflyrau'n gysylltiedig â COVID-19. Mae hyn ar raddfa fach, gyda'r achosion mwyaf brys yn cael eu blaenoriaethu, ac ni fyddwn mewn sefyllfa i gynnig hyn i bawb. Ond byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu, ac rydym yn addo cadw hyn dan adolygiad cyson.

Os cewch eich gwahodd i ddod i mewn ar gyfer eich triniaeth gynlluniedig bydd yn rhaid i chi a'ch teulu gymryd nifer o ragofalon er mwyn ein cefnogi i leihau risgiau. Bydd eich clinigwr yn siarad â chi am y mesurau hyn, a'r hyn y byddwn hefyd yn ei wneud i'ch cadw'n ddiogel. Ond yn anffodus, hyd yn oed wrth weithio gyda'n gilydd, ni allwn ddileu pob risg.

Yn y cyfamser, mae'n bwysig iawn cofio bod ein gofal brys yn parhau fel arfer. Os byddwch chi'n mynd yn ddifrifol wael yn sydyn, neu'n cael anaf, mae ein gwasanaethau yno i chi. Peidiwch ag anwybyddu poenau yn y frest neu symptomau difrifol eraill - mae angen i ni eich gweld chi.

Hefyd, cewch eich sicrhau ein bod wedi aildrefnu ein hadran achosion brys yn Ysbyty Treforys fel y caiff cleifion yr amheuir bod ganddynt COVID-19 eu gweld ar wahân, ac mae gan ein hysbytai eraill drefniadau ar waith i reoli unrhyw gleifion COVID-19 hysbys a lleihau peryglon heintiau gymaint â bosibl.

Mae meddygfeydd hefyd ar agor, gyda mesurau diogelwch priodol ar waith. Bydd angen i chi gysylltu â nhw'n gyntaf dros y ffôn neu e-bost. Felly cysylltwch â'ch meddygfa meddyg teulu os ydych chi'n poeni am unrhyw symptomau newydd sydd yn dechrau neu newid mewn symptomau os oes gennych gyflwr meddygol sydd eisoes yn bodoli.

Mae'r Uned Mân Anafiadau yn Ysbyty Castell-nedd Port Talbot hefyd ar agor saith niwrnod yr wythnos rhwng 7.30am ac 11pm a gall drin ystod eang o fân anafiadau, megis torri esgyrn, toriadau a llosgiadau, ar gyfer oedolion a phlant dros 12 mis.

Hefyd, fe wnaethom gyflymu cynlluniau ar gyfer Uned Argyfwng Plant newydd yn Ysbyty Treforys, ac rydym yn falch iawn o ddweud ei bod hi bellach ar agor.

Yn ogystal â'r crynodeb byr uchod, efallai y bydd gennych ddiddordeb i ddarganfod ychydig fwy o fanylion am yr hyn rydym ni wedi bod yn ei wneud i baratoi ar gyfer y pandemig hwn ar draws ein gwefannau, gan gynnwys:

Yn Ysbyty Treforys, mae'r Uned Gwneud Penderfyniadau Llawfeddygol a'r Uned Arhosiad Byr Llawfeddygol wedi symud i'r clinig torri esgyrn. Mae Uned Asesu Anadlol bellach wedi'i sefydlu yn hen ardal yr Uned Gwneud Penderfyniadau Llawfeddygol, gyda mynedfa ar wahân i gleifion sy'n cael eu cludo mewn ambiwlans.

Mae'r ysbyty wedi ehangu ei allu gofal critigol yn fawr, gan gynnwys rhai rhannau o gleifion allanol. Mae gan Ysbyty Treforys nifer o wardiau COVID-19 pwrpasol, ac mae man dadheintio ambiwlans hefyd wedi'i adeiladu.

Hefyd mae gan Ysbyty Singleton wardiau pwrpasol ar gyfer COVID-19; tîm COVID-19 o fewn yr Adran Obstetreg i ofalu am famau newydd a allai fod â'r haint, a man dadheintio ambiwlans.

Yn Ysbyty Castell-nedd Port Talbot mae'r Adran Riwmatoleg wedi'i thrawsnewid yn fan ar gyfer cleifion COVID-19.

Mewn gwasanaethau Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu, mae gwelyau ynysu wedi'u nodi yn ysbytai Cefn Coed a Chastell-nedd Port Talbot, Clinig Caswell, Taith Newydd a Dan Y Deri.

Mae llawer o staff ledled y bwrdd iechyd wedi cael eu hadleoli neu eu hailhyfforddi i adeiladu tîm cadarn i gefnogi gofal COVID-19, ac mae staff newydd neu staff sy'n dychwelyd yn cael hyfforddiant llwybr carlam wedi’i drefnu yn Stadiwm Liberty yn Abertawe.

Mae ein staff wedi bod yn greadigol yn eu hagwedd tuag at ofal pan na allant weld cleifion yn bersonol bob amser. Er enghraifft, mae ffisiotherapyddion paediatrig bellach yn defnyddio doliau i ddangos lleoliad ac ymarferion i rieni trwy'r rhyngrwyd, a hefyd i gefnogi staff sy'n gweithio mewn ysgolion arbennig.

Er y byddai rhai cyflyrau a chyflwyniadau yn dal i elwa oherwydd asesiad wyneb yn wyneb - fel asesiad tôn - rydym wedi darganfod y gellir rhith-reoli llawer o gyflyrau yn y tymor hwy; e.e. poen cronig, rhiwmatoleg ac adolygiadau diwedd ymyrraeth. Mae teuluoedd hefyd yn dweud wrthym eu bod yn hoffi derbyn cefnogaeth fel hyn oherwydd gallant ddefnyddio eu clustogau, tyweli gartref ac ati, eu hunain yn hytrach nag offer ffisio arbenigol.

Mae’r gwasanaethau mamolaeth hefyd yn gwneud popeth y gall i gefnogi mamau a theuluoedd newydd sydd wedi effeithio gan y cyfyngiadau ymweld, ac ers i'r cyfnod cloi ddechrau, mae dros 150 o fabanod wedi cael eu geni .

Mae ein timau gofal cymunedol a gofal sylfaenol hefyd wedi bod yn brysur. Mae hybiau asesu cymunedol amlddisgyblaethol yn darparu gwasanaethau gofal iechyd i gleifion sydd â COVID-19 yn y gymuned. Mae'r hybiau'n asesu, yn adolygu ac yn rheoli cleifion sy'n hunan-ynysu ac sydd angen sylw meddygol, ond nad oes angen iddynt fynd i'r ysbyty o reidrwydd. Mae staff sylfaenol a chymunedol yn gweithio gyda chynghorau Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot fel y gellir cefnogi mwy o gleifion i adael yr ysbyty, ac mae gwelyau ychwanegol hefyd ar gael yn Ysbyty Cymunedol Gorseinon

Mae 49 meddygfa'r rhanbarth yn dal i fod ar agor, yn darparu gofal dros y ffôn ac archebu apwyntiadau (dim galw heibio) lle bo angen ac yn ddiogel. Mae rhai meddygon teulu bellach yn defnyddio apiau digidol fel askmyGP ac Attend Anywhere i gynnig rhith-ymgynghoriadau i gleifion yn eu cartrefi eu hunain. Lansiwyd Consultant Connect  hefyd yn yr amser record ac mae'n rhoi mynediad ar unwaith i feddygon teulu at gyngor ymgynghorwyr 24/7. Hyd yn hyn mae wedi helpu i gadw mwy na hanner y cleifion dan sylw y tu allan i'r ysbyty. Gan ganolbwyntio i ddechrau ar COVID-19, ymholiadau meddygaeth feddygol ac arennol cyffredinol brys, diabetes a gofal lliniarol, mae bellach wedi ehangu i gynnwys gofal geriatreg cymunedol, endocrinoleg, gastroenteroleg, a derbyniadau meddygol acíwt.

Mae deintyddion hefyd ar agor, ond gyda llai o wasanaeth. Fodd bynnag, sefydlwyd uned gofal deintyddol brys ar gyfer cleifion sydd â’r Coronafeirws, neu'r rheini sydd angen gofal deintyddol brys lle mae triniaeth yn achosi chwistrell (fel drilio), felly mae angen PPE llawn ar staff yma i weld cleifion.

Mae ein timau iechyd meddwl cymunedol yn parhau i fod yn weithredol, gan adolygu atgyfeiriadau newydd, cadw mewn cysylltiad â chleifion presennol, a darparu gwasanaethau argyfwng a thriniaeth gartref pan fo angen. Ymgymerir â llawer o weithgaredd yn rhithiol dros y ffôn neu ar-lein.

Mae ein gwasanaeth rhoi’r gorau i ysmygu hefyd wedi lansio rhith-wasanaeth i helpu pobl i roi’r gorau i ysmygu yn ystod y cyfnod cloi.

Mae gennym ganolfannau profi COVID-19 drwy ffenestr y car (trwy apwyntiad yn unig) ym Margam a Stadiwm Liberty, ac rydym yn gweithio'n agos gyda'n cydweithwyr yn yr awdurdod lleol ar gyfer cam arwyddocaol nesaf ymateb COVID-19, sef Profi, Olrhain, ac Amddiffyn. Gyda'r feirws yn dal i fyw, mae angen i ni i gyd ddod o hyd i ffyrdd o fyw ochr yn ochr ag ef yn ein cymunedau. Mae angen i ni gymryd camau i amddiffyn ein hunain, ein teuluoedd a'n cymunedau er mwyn atal y feirws rhag lledaenu.

Mae'r gwaith Profi, Olrhain ac Amddiffyn yn cynnwys unrhyw un yn ein cymunedau sy'n dangos symptomau perthnasol sy'n cael eu profi ar gyfer COVID-19, eu cysylltiadau agos yn cael eu holrhain, a chysylltiadau'n cael eu cynghori i hunan-ynysu i atal y feirws rhag lledaenu ymhellach. Lansiwyd y system ar ddechrau mis Mehefin.

Dyma grynodeb byr yn unig o rywfaint o'r gwaith sydd wedi bod ar y gweill i amddiffyn ein cymunedau yn Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot yn ystod yr amseroedd digynsail hyn. I ddarganfod mwy am ein gwasanaethau eraill yn ystod yr amser hwn, ewch i'n gwefan: https://sbuhb.nhs.wales/

Felly diolch unwaith eto am bopeth rydych chi'n ei wneud i gefnogi'ch GIG. Rydyn ni'n ei werthfawrogi'n fawr.

Cadwch yn ddiogel bawb,

 

Emma Woollett, Cadeirydd

Tracy Myhill, Prif Weithredwr

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.