Neidio i'r prif gynnwy

Mam yn ddiolch o galon am driniaeth Theodore bach

Theo 1

Mae mam babi cynamserol, a anwyd yng nghanol y pandemig, wedi diolch i staff BIP Bae Abertawe am achub bywyd hi a'i mab.

Pan esgorodd Melissa Shirley, swyddog gweinyddol o Bort Talbot, ar Theodore bach ar 13 Ebrill, ar ôl mynd i Ysbyty Singleton yn dilyn cymhlethdodau gyda’i beichiogrwydd, nid oedd ganddi unrhyw syniad y byddai’n 5 mis cyn gallent dychwelyd adref.

Ar un adeg ofnwyd ei bod wedi contractio Covid-19, a gyda’i gŵr David yn methu ymweld oherwydd risg o halogiad, aeth ymlaen i enwi eu babi ar ei phen ei hun gan ei bod yn ofni efallai na fyddai’n goroesi.

Diolch byth, profodd Theodore, a anwyd 15 wythnos yn gynamserol, i fod yn ymladdwr ac, er iddo orfod cael ei adfywio yn ystod arhosiad pedwar mis mewn gofal dwys, mae bellach adref ac yn gwneud yn dda.

Derbyniwyd Melissa, a oedd eisoes â phedwar o blant gan gynnwys un a anwyd 12 wythnos yn gynamserol, i Ysbyty Singleton ar 8 Ebrill, gyda gwaedu.

Theo 2 Meddai: “Roedd hi tua chwarter i hanner nos. Dwedodd wrthyf am ffonio ambiwlans ond roeddwn i'n meddwl y byddai'n gyflymach i yrru fy hun. Roedd rhaid i'm gŵr aros i ofalu am ein plant eraill - wnes i ddim hyd yn oed ei ddeffro oherwydd doeddwn i ddim yn meddwl y bydden nhw'n fy nghadw i fewn. Fe wnaethon nhw roi sgan i mi a rhagnodi rhai steroidau i helpu i aeddfedu ysgyfaint y babi, ond ni ddaeth y gwaedu i ben.

 “Doeddwn i ddim yn teimlo'n cant y cant ond roeddwn yn pendroni efallai taw fy nychymig oedd hyn yn unig oherwydd fy mod wedi cael babi cynamserol o’r blaen. Ar y diwrnod y torrodd fy nyfroedd, hwn oedd y pedwerydd diwrnod yn Ysbyty Singleton, dywedais wrthynt fy mod yn teimlo'n wael ond dywedasant ei fod yn ôl pob tebyg yn ymateb lleol i'r steroidau.

“Deuthum yn wael iawn ac roedd fy nhymheredd dros 40 a fy nghalon dros 200. Roeddent yn argyhoeddedig fod gen i Covid. Pan wnaethant ddweud hynny wrthyf, nid oeddwn yn teimlo unrhyw beth mewn gwirionedd gan fy mod mor sâl.

“Roedd rhaid iddynt wisgo masgiau i wneud popeth - mae'n rhyfedd iawn pan fydd pobl yn siarad â chi, pan rydych chi'n sâl a ddim yn siŵr iawn beth sy'n digwydd, ac ni allwch weld cegau pobl yn symud felly nid ydych chi'n siŵr pwy sy’n siarad â chi.

“Cefais fy mhrofi ddwywaith ond yn ffodus daeth y ddau ohonyn nhw'n ôl yn negyddol.”

 Roedd ei meddyliau'n naturiol yn canolbwyntio'n gadarn ar ei phlentyn yn y groth ar y pryd.

Meddai: “Fe wnaethant ddweud, ychydig o weithiau, nad oeddent yn meddwl byddai fy maban yn goroesi. Roedd yn frawychus ond roeddwn i wedi rhwystro'r cyfan allan. Doeddwn i ddim eisiau gwrando ar yr hyn roedden nhw'n dweud. Dyna pryd y dewisais ei enw - Theodore. Os nad oedd yn mynd i oroesi, roeddwn i eisiau iddo gael enw cyn iddo gael ei eni. ”

Cafodd Theodore ei eni yn yr Adran Cesaraidd ar 13 Ebrill - yn pwyso 1 pwys 11 owns, sy'n llai na bag o siwgr - ac roedd ymhell o fod allan o berygl.

Meddai Melissa: “Roedd yna lawer mwy o gymhlethdodau na’r tro cynt rhoddais enedigaeth, ac roedd cryn dipyn o weithiau pan nad oeddwn yn meddwl y byddai’n oroesi. Na fydden ni byth yn dychwelyd adref.

“Cafodd ei awyru am 6 wythnos, oherwydd bod ei ysgyfaint yn anaeddfed iawn, ac roedd ganddo lwyth o IVs arno.

“Un diwrnod, roedd angen CPR arno. Fe asiodd ddwywaith. Roedd yn anodd. Yn bendant yn un o'r diwrnodau gwaethaf allan ohonynt i gyd. Fe wnes i wylio nhw'n darparu CPR iddo, dydy hynny ddim yn unrhyw beth mae unrhyw riant eisiau gweld.

“Cafodd hefyd E. coli ddwywaith tra roedd yn yr uned newydd genedigol, a haint o’r enw CMV. Ar un adeg roeddent yn meddwl bod ganddo lid yr ymennydd felly cafodd doriad meingefnol. Dywedon nhw byddai’r 24 awr nesaf yn hollbwysig. ”

THeo 3 Roedd yn rhaid i ymweliadau fod yn gyfyngedig trwy gydol y cyfnod anodd.

Meddai Melissa: “Doeddwn i ddim yn medru cael unrhyw ymwelwyr ond roeddwn i’n deall pam - oherwydd Covid - ond roedd yn anodd pan oedd eich babi yn ymladd am ei fywyd.

“Fe allen ni ymweld ond ddim gyda’n gilydd. Roeddwn i yno fwy neu lai 24/7 ond roedd yn rhaid i mi ddod allan i dad fynd i mewn.

“Maen nhw'n amlwg yn ceisio lleihau nifer yr ymwelwyr ond mae'n anodd pan fydd eich plentyn yn wael ac mae angen y gefnogaeth foesol honno arnoch chi. Rwy'n gwybod, ar ôl bod yno o'r blaen, pe byddech chi'n cael diwrnod gwael y gallai'r nyrsys roi cwtsh i chi ond oherwydd Covid, nid oeddent yn medru gwneud hynny. Roeddent dal yn dda iawn, roeddent fel fy therapyddion personol. ”

Yn y diwedd dechreuodd Theodore fwydo'n haws a dechreuodd ei gyflwr wella.

“Roedd ar borthiant diferu parhaus o laeth ond un diwrnod dywedon nhw bydden nhw'n rhoi cynnig arno ar borthiant yr awr ac roedd yn iawn bryd hynny.”

O'r diwedd caniatawyd i Theodore fynd adref ar 13 Medi.

Dywedodd Melissa: “Pan ddywedodd y meddyg y gallwn fynd ag ef adref, nid oeddwn yn ei gredu nes iddo ddigwydd mewn gwirionedd.”

Mae Melissa wedi rhannu ei stori mewn ymgais i ddiolch i staff ysbytai ac i annog eraill i ddilyn y cyfyngiadau ar ymweliadau ysbytai yn ystod yr amseroedd anodd hyn.

Meddai: “Gofalwch am staff ein GIG fel gallant ofalu amdanom.

“Roedd gwaith y tîm meddygol yn anhygoel. Ni fyddai un ohonom ni'n fyw hebddynt. Mae arnaf ddyled fawr iddyn nhw. Ni allwn byth ad-dalu'r hyn a wnaethant i ni.

“Fe wnaethon ni'r clap ar gyfer y GIG ychydig o weithiau a gosod enfys yn y ffenestri, oherwydd mae popeth yn ddyledus iddyn nhw. Ni allwn fyth ad-dalu'r hyn a wnaeth y GIG i ni ac rydym yn ddiolchgar iawn amdanynt. "

O ganlyniad i’r cyfyngiadau angenrheidiol yng ngoleuni Covid-19 dywedodd: “Os yw'r staff yn mynd yn sâl yna pwy sy'n mynd i edrych ar ôl y babanod? Mae'n ddigon anodd cael babi cynamserol ar unrhyw adeg, heb sôn am yng nghanol pandemig. ”

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.