Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r Cynllun Anhwylderau Cyffredin wedi helpu dros 5,000 o gleifion yn ein hardal

llun o fferyllydd

Oeddech chi’n gwybod fod yna 26 o gyflyrau bob dydd ble y gallwch gael triniaethau dros y cownter AM DDIM ym MHOB fferyllfa gymunedol yn Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot? Ac os ydych angen rhywbeth dipyn bach yn gryfach, mae’r fferyllwyr yma wedi derbyn hyfforddiant ychwanegol i gynnig meddyginiaethau presgripsiwn ar gyfer y problemau iechyd yma. Felly nid oes angen apwyntiad meddyg teulu arnoch – gallwch fynd i’ch fferyllfa leol.

 

Mae’r Cynllun Anhwylderau Cyffredin wedi helpu dros 5,000 o gleifion yn ein hardal, felly peidiwch â cholli mas. Er mwyn cael mynediad iddo, yr unig beth sydd raid gwneud yw cofrestru gyda fferyllfa leol eich cymuned.

 

Y 26 anhwylder a orchuddir yn y cynllun yw: acne, tarwden y traed, poen cefn, brech yr ieir, doluriau annwyd, colig, conjynctifitis, rhwymedd, dolur rhydd, llygaid sych, dermatitis, clwy’r marchogion, clefyd y gwair, llau pen, camdreuliad, ewinedd traed mewndyfol, tarwden, dolur ceg, brech glytiau, llindag y geg, clefyd crafu, dolur gwddf/tonsilitis, torri dannedd, edeulyngyr, llindag, a ferwcau.

Yn ychwaneg, ers 1 Rhagfyr, mae nifer o’n fferyllfeydd (22) yn awr yn cynnig gwasanaeth gweld a thrin ar gyfer dolur gwddf. Nid oes angen apwyntiad, mae’n gyfan gwbl am ddim.

Os mai problem facteriol sydd gennych, efallai y byddwch yn derbyn presgripsiwn o wrthfiotigau yn y fan a’r lle. Os mai salwch firaol sydd gennych, yna ni fydd gwrthfiotigau yn gweithio felly byddant yn cynnig cyffuriau leddfu poen i chi yn lle hynny. Bydd y fferyllydd yn cael sgwrs gyda chi er mwyn cytuno ar y ffordd orau ymlaen.

Eto, mae’n golygu ni fydd angen i chi wneud apwyntiad i weld eich Meddyg Teulu, oherwydd mae’r fferyllfeydd yn gallu eich gweld a’ch trin yn syth ar gyfer eich dolur gwddf.

 

Dyma restr lawn o’r fferyllfeydd sy’n bresennol yn cynnig y gwasanaeth dolur gwddf (Mae eraill yn bwriadu ymuno yn 2020, a byddwn yn sicrhau y byddwn yn rhoi gwybod i chi am unrhyw newidiadau.)

 

Port Talbot:

Fferyllfa Lloyds, Siop 6 Heol Treforys, Port Talbot, SA12 6TH

Fferyllfa Lloyds, Canolfan Adnoddau Port Talbot, Heol Moor, SA12 7BJ

Fferyllfa Well, 127 Heol yr Orsaf, Port Talbot, SA13 1NR

Williams & Wheeler Cyf, 56 yr Heol Fasnachol, Taibach, SA13 1LG

Castell-nedd:

The Health Dispensary, 153 Heol Windsor, Castell-nedd, SA11 1NU

Davies Chemist Cyf, The Quays, Llansawel, SA11 2FP

D R Cecil Jones Cyf, Fferyllfa Cwm Nedd, Heol Chain, Glyn-nedd, SA11 5HP

Davies Chemist Cyf, Rhodfa Ynysfach, Resolfen, SA11 4LN

Abertawe:

Fferyllfa Lloyds, 62, Stryd Herbert, Pontardawe, SA8 4ED

Fferyllfa Lloyds, 4 Strawberry Place, Treforys, SA6 7AG

Fferyllfa Well, 103 Stryd Woodfield, Treforys, SA6 8AS

Fferyllfa Kevin Thomas, 45 Heol San Helens, Abertawe SA1 4BB

Fferyllfa Mountain View, 53, Heol Mayhill, Abertawe, SA1 6TD

Fferyllfa Well, 147 Heol Ravenhill, Abertawe, SA5 5AH

Fferyllfa Well, Canolfan Beacon, Abertawe, SA1 8QY

Fferyllfa Well, 5 Heol Dilwyn, Sgeti, Abertawe, SA2 9AQ

Fferyllfa Boots, Uned 5, Parc Arwerthu Morfa, Abertawe, SA1 7BP

Fferyllfa Lloyds, 5-6 Canolfan Siopa Gorseinon, Abertawe, SA4 4DJ

Fferyllfa Well, 63 Heol Alexander, Abertawe, SA4 4NU

Fferyllfa Well, Stryd y Felin, Tregŵyr, SA4 3ED

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.