Neidio i'r prif gynnwy

Mae mesurau rheoli heintiau caeth yn parhau i fod ar waith yn Ysbyty Treforys o ganlyniad i'r achosion o Covid-19

(Ffigurau'n gywir ar 5pm 25/10/20)


Mae mesurau rheoli heintiau llym yn parhau a rhywfaint o lawdriniaeth gardiaidd arferol wedi cael eu hatal yn Ysbyty Treforys. 


Er i'r achos ddechrau mewn gwasanaethau cardiaidd yn gynharach y mis hwn, roedd gan nifer o wardiau eraill glystyrau o achosion o Covid-19 wedi hynny.


Mae staff ysbytai yn parhau i weithio'n agos gyda chydweithwyr yn Iechyd Cyhoeddus Cymru i reoli'r achosion a chyfyngu ar ledaeniad yr haint.


Ar yr un pryd maent yn gwneud popeth posibl i amddiffyn gwasanaethau cleifion. Mae cleifion brys yn dal i allu derbyn gofal gan staff sy'n gweithio o fewn trefniadau rheoli heintiau llym.


Profodd cyfanswm o 84 o gleifion yn bositif ers dechrau'r achos cychwynnol. Ar nodyn cadarnhaol, dim ond un claf sydd wedi profi'n bositif yn ystod y 24 awr ddiwethaf.


Mae rhai o'r cleifion wedi cael eu rhyddhau adref gyda'r cyngor priodol. Mae'r rhai sy'n aros yn yr ysbyty yn cael eu rheoli'n ofalus.


Yn Ysbyty Singleton, mae achos ymhlith staff mamolaeth yn parhau i fod yn sefydlog, heb adrodd am unrhyw brofion cadarnhaol newydd. Fel y dywedwyd yn flaenorol, nid oes tystiolaeth o drosglwyddiad i famau a babanod.


Dywedodd Cyfarwyddwr Dros Dro Nyrsio a Phrofiad Cleifion Abertawe, Christine Williams: “Mae angen i ni reoli cleifion yn ofalus iawn gan ein bod yn gwybod bod Covid-19 yn cael ei drosglwyddo yn yr ysbyty.


“Hoffwn ddiolch i’r holl staff yn yr holl wardiau yr effeithiwyd arnynt am eu hymdrechion parhaus i atal lledaeniad y feirws, a theuluoedd cleifion yn y wardiau hynny am eu dealltwriaeth yn ystod yr adeg anodd hon.


“Byddwn hefyd yn gofyn i bobl gadw draw o Adran Achosion Brys Treforys oni bai bod yn rhaid iddynt fod yno o gwbl, er mwyn lleihau’r pwysau ar staff a gwasanaethau.”

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.