Neidio i'r prif gynnwy

Mae gwirfoddolwyr wedi sbriwso i fyny maes chwarae canolfan blant Abertawe

Gwirfoddolwyr ar ardal chwarae Hafan y Mor

Treuliodd tîm o Swyddfa Brisio’r ddinas ddiwrnod yn y maes chwarae, sy’n rhan o Hafan Y Môr yn Ysbyty Singleton.

Mae'r ganolfan ar gyfer plant ag anghenion cymhleth tymor hir, ac mae'r maes chwarae hollgynhwysol a'r ardd synhwyraidd y tu allan wedi bod yn hynod boblogaidd gyda nhw a'u teuluoedd ers iddo agor yn 2014.

Mae Cerian Bidder, sydd â chysylltiadau teuluol â'r ganolfan, yn gweithio yn y Swyddfa Brisio lle mae staff yn cael diwrnod yr un i roi amser i elusen.

Dywedodd Kate Greenfield, uwch ffisiotherapydd Hafan Y Môr: “Gofynom ni os oedden nhw’n gallu dacluso a glanhau ein maes chwarae arbenigol.

“Oherwydd y tywydd gwell, ni’n defnyddio’r maes chwarae lawer mwy yn ystod misoedd yr haf.

“Daeth deuddeg gwirfoddolwr o’r Swyddfa Brisio draw. Rhyngddynt mae nhw wedi golchi offer yr iard, mae nhw wedi dacluso'r planwyr blodau, rhoi blodau newydd yn y planwyr, ysgubo'r maes chwarae a phaentio'r ffens o amgylch y maes chwarae. "

Dywedodd Kate fod pawb yn Hafan Y Môr wedi creu argraff fawr ar y tîm gwirfoddol ac yn falch iawn gyda chanlyniadau'r diwrnod.

Ychwanegodd: “Nawr, mae’r plant a’u brodyr a chwiorydd sy’n mynychu’r ganolfan yn gallu mwynhau treulio amser dros yr haf yn y maes chwarae.

“Mae'r sleidiau, y ffrâm ddringo, y siglenni a'r darnau eraill o offer bellach yn lân pan fydd y plant yn defnyddio nhw.

“Mae'r maes chwarae'n daclusach ac yn fwy deniadol i'r plant. Byddant wrth eu bodd yn defnyddio fe mwy nag erioed”

Roedd Cerian yr un mor falch. Meddai: “Roedd yr holl staff mor groesawgar ac roedden ni’n hapus i weld ein gwaith yng ngardd y ganolfan yn cael ei werthfawrogi.

“Rydyn ni wir yn fwy na hapus i ddychwelyd bob blwyddyn I wneud yn siwr bod y parc yn barod ar gyfer misoedd yr haf.”

 

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.