Neidio i'r prif gynnwy

Mae cam cyntaf uwchraddio prif floc Singleton yn dechrau'r mis hwn

Singleton Hospital

Bydd gwaith i wella tu allan prif floc Ysbyty Singleton yn dechrau'r mis hwn ar gost o tua £400,000, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru.

Mae'r prosiect yn cynnwys cael gwared ar y cladin ar ystlysluniau’r prif floc, a byddwn yn ceisio achosi cyn lleied â phosibl o aflonyddwch.

Bydd yn cymryd 20 wythnos i'w gwblhau. Fodd bynnag, dim ond cam cyntaf prosiect gwerth miliynau o bunnoedd yw newid yr holl gladin ar y prif floc.

Mae profion diweddar wedi nodi rhai problemau sy'n gysylltiedig â strwythur gyda'r gosodiad cladin.

Bydd gwaith paratoadol yn dechrau yn ystod yr wythnos yn dechrau ddydd Llun 8 Gorffennaf, gyda gwaith i dynnu'r cladin ochr yn dilyn ar ddydd Llun 15 Gorffennaf.

Dywedodd Simon Davies, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Strategaeth y bwrdd iechyd: “Gwelwyd bod rhywfaint o'r ffrâm ddur gynorthwyol wedi'i gyrydu oherwydd y glaw a'r halen sy'n dod i mewn o lan y môr.

“Bydd y gwaith yn cynnwys cael gwared ar y teils teracota a'r gefnogaeth ffrâm ddur o'r wal frics allanol bresennol.

“Mae'r strwythur presennol yn ddiogel ond nid yw'n cael ei ystyried yn gadarn yn y tymor hir.”

Nodwyd problem gyda'r cladin ar flaen y bloc ar ôl i'r bwrdd iechyd gynnal profion yn dilyn trychineb Grenfell.

Dywedodd Mr Davies mai nid yr un cladin â'r deunydd cyfansawdd alwminiwm a ddefnyddiwyd ar Dwr Grenfell a ddefnyddiwyd ar waliau Singleton.

“Fodd bynnag, yn ystod y profion a'r arolygiadau a gynhaliwyd ar ein rhan yn dilyn y digwyddiadau trasig yn Llundain, daethom yn ymwybodol nad oedd y cladin yn addas ar gyfer prif floc yr ysbyty.

“Roedd wedi'i fwriadu ar gyfer adeiladau hyd at 18 metr o uchder, tra bod Singleton dros 30 metr.

“Y cyngor i'r bwrdd iechyd oedd y dylid ei newid oherwydd diffyg cydymffurfio â rheoliadau adeiladu.”

Roedd y defnydd o'r cladin presennol yn seiliedig ar gyngor allanol ac mae hyn bellach yn destun trafodaethau parhaus.

Dywedodd Mr Davies: “Mae gwaith dylunio yn debygol o gymryd tuag wyth mis gyda chyfnod newid o 18 mis.

Bydd hyn yn cael ei gadarnhau pan fyddwn wedi penodi prif gontractwr i ymgymryd â'r pecyn dylunio a gwaith.

“Mae'r bwrdd iechyd yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar ddatblygu achos busnes. Yn amodol ar gymeradwyaeth, byddem yn gobeithio y bydd y gwaith hwn yn dechrau yn gynnar yn 2020.

“Yn y cyfamser, hoffem sicrhau cleifion, staff ac ymwelwyr nad oes achos i bryderu am y cladin a ddefnyddir yn Singleton.

“Mae gennym weithdrefnau cadarn ar waith hefyd os bydd tân. Dangoswyd hyn yn ystod y tân ar Ward 12 ym mis Mawrth pan gafodd pawb eu symud yn brydlon ac yn ddiogel.”

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.