Neidio i'r prif gynnwy

Hysbysiad o'r Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol (CCB)

Bydd Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol Bwrdd iechyd Prifysgol Bae Abertawe yn digwydd ar ddydd Mawrth Gorffennaf 23 yn y Pencadlys ym Maglan.

Dyma gyfle i glywed am y datblygiadau sydd wedi digwydd dros y deuddeg mis diwethaf, i ddarganfod mwy am sut ydym wedi perfformio, ble rydym yn bwriadu gwneud gwelliannau pellach, a sut rydym wedi gwario’r arian a dderbyniom.

Yn ogystal ag agenda ffurfiol y Cyfarfod, bydd yna gyfle i ofyn cwestiynau yn y Gymraeg a’r Saesneg ochr yn ochr â gwrando a thrafod eich adborth.

Bydd y cyfarfod yn digwydd yn adeilad ein Pencadlys, o 5pm i 7.30om ar ddydd Mawrth 23 Gorffennaf 2019. 

Bydd cofrestru a choffi o 5pm-5.30pm (nid 6pm fel y nodwyd yn flaenorol) pan fydd ein cydweithwyr a gwirfoddolwyr BIP Abertawe yn arddangos rhywfaint o'r gwaith, gwasanaethau a mentrau rhagorol o bob rhan o'r Bwrdd Iechyd mewn arddangosfa anffurfiol.

Gofynnwn eich bod yn cofrestru eich bwriad i ddod gyda’n tîm Gwasanaethau Corfforaethol ar: 01639 683376 neu drwy e-bost:  ABM.CommitteeandBoardServices@wales.nhs.uk

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.