Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaeth therapi ar-lein yn lansio yng Nghymru

Silver Cloud 1

Gall miloedd o bobl ledled Cymru nawr gael mynediad at therapi ar-lein am ddim ar y GIG heb fod angen mynd trwy eu meddyg teulu.

Gall pobl 16 oed a hŷn sy'n profi pryder, iselder neu straen ysgafn i gymedrol gofrestru ar gwrs 12 wythnos o therapi ar-lein trwy eu ffôn clyfar, tabled, gliniadur neu gyfrifiadur.

Mae cyflwyno mynediad uniongyrchol at therapi ar-lein ar gyfer holl boblogaeth 16+ Cymru yn cydnabod bod angen help ar unwaith ar bobl i reoli eu hiechyd meddwl a’u lles wrth i effaith COVID-19 barhau i gael ei deimlo, ac yn lleihau’r rhwystrau i gael mynediad at y gefnogaeth hon.

Enw'r gwasanaeth therapi ar-lein yw SilverCloud ac mae'n defnyddio dulliau profedig fel Therapi Ymddygiad Gwybyddol (TYG) sy'n helpu pobl i reoli eu problemau trwy eu hannog i newid y ffordd maen nhw'n meddwl ac ymddwyn.

Gall defnyddwyr ddewis o un o 17 o raglenni iechyd meddwl a lles ar-lein i'w cwblhau ar eu cyflymder eu hunain dros 12 wythnos. Mae opsiynau rhaglen yn cynnwys help gyda phryder, iselder, straen, cwsg a phryderon ariannol.

Mae pob rhaglen yn cynnwys gweithgareddau ac offer rhyngweithiol i helpu defnyddwyr i ddatblygu sgiliau i reoli eu lles seicolegol gyda mwy o hyder.

Er ei fod yn wasanaeth hunangymorth ar-lein, mae'n cael ei ategu a'i gefnogi gan dîm o seicolegwyr a chydlynwyr therapi ymddygiad gwybyddol ar-lein.

Mae’r ‘Cefnogwyr SilverCloud’ hyn yn arwain defnyddwyr drwy’r rhaglen trwy fonitro cynnydd, anfon negeseuon ac ychwanegu argymhellion wedi’u personoli lle bo angen.

Mae un o bob pedwar oedolyn eisoes yn cael trafferth gyda'i iechyd meddwl a rhagwelir y bydd y galw am wasanaethau iechyd meddwl yn cynyddu oherwydd effaith COVID-19.

Silver Cloud 2

Mae therapi ar-lein SilverCloud eisoes yn cael ei ddefnyddio ym Mhowys, lle mae'r nifer sy'n defnyddio'r gwasanaeth hunan-atgyfeirio sy'n caniatáu i bobl arwyddo'n uniongyrchol heb fynd trwy eu meddyg teulu, wedi cynyddu mwy na 100% yn ystod y cyfyngiadau ar symud.

Mae Fionnuala Clayton, Cynorthwyydd Seicolegol a Chydlynydd Clinigol TYG Ar-lein ar gyfer SilverCloud Cymru, wedi helpu i ddatblygu’r gwasanaeth hunan-atgyfeirio.

Meddai: “Mae hi mor bwysig neilltuo amser ar gyfer eich lles eich hun ond gall fod yn anodd gwneud hynny, yn enwedig os ydych chi'n astudio, yn gweithio, yn rhiant neu os oes gennych gyfrifoldebau gofalu am berthnasau.

“Un o brif fuddion defnyddio Silvercloud yw ei fod yn rhoi mynediad uniongyrchol i bobl at gymorth iechyd meddwl a lles ar-lein, ar unrhyw adeg, o gysur eu cartref eu hunain, heb fod angen mynd trwy eu meddyg teulu.

"Mae hyn yn bwysig oherwydd rydyn ni i gyd yn ymwybodol o’r galwadau ar wasanaethau meddygon teulu ledled Cymru, ac mae hyn wedi’i ddwysáu oherwydd pandemig COVID-19. Hefyd, gall fod yn anodd mynychu apwyntiad iechyd meddwl a lles rhwng yr oriau 9 a 5, o ddydd Llun i ddydd Gwener.

“Mae gwasanaeth therapi ar-lein SilverCloud hefyd yn arbennig o ddefnyddiol i gleifion mewn ardaloedd gwledig lle gall y ddaearyddiaeth fod yn her i gael mynediad at wasanaethau iechyd.

“Mae'r amser y mae pobl yn ei dreulio yn defnyddio SilverCloud yn wirioneddol hyblyg oherwydd gall defnyddwyr fewngofnodi a gweithio trwy'r modiwlau sydd wedi'u neilltuo iddynt yn dibynnu ar y rhaglen maen nhw wedi'i dewis, mewn ffordd sy'n cyd-fynd â'u ffordd o fyw.

“Mae TYG a TYG cyfrifiadurol yn arfer sy’n seiliedig ar dystiolaeth y profwyd ei fod yn helpu i reoli profiadau pryder ac iselder. Mae’r ffaith bod SilverCloud yn seiliedig ar ymyriadau TYG yn caniatáu i ddefnyddwyr ganolbwyntio ar eu problemau ‘yma ac yn awr’ ac yn cynnig ffyrdd ymarferol o fynd i’r afael â phroblemau a all deimlo’n llethol trwy edrych ar y berthynas rhwng ein meddyliau, ein teimladau, ein teimladau corfforol ac ymddygiadau.

“Rwy’n rhyngweithio â defnyddwyr ar-lein, gan eu cefnogi i gael y gorau o’r offer a’r gweithgareddau sydd ar gael iddynt a hefyd yn cynnig cefnogaeth weinyddol i unrhyw un sydd ychydig yn ansicr ynghylch defnyddio therapi ar-lein SilverCloud - mae hwn yn brofiad newydd i lawer!

“Mae'n werth chweil pan fyddwn ni'n datblygu perthynas gyda'r person rydyn ni'n ei gefnogi, yn y pen draw, rydyn ni'n dau'n gweithio tuag at yr un nod - i wella eu hiechyd meddwl a'u lles.

“Ac er ein bod yn wasanaeth ar-lein, nid ydym ond yn gweithio ag unigolion iau. Rydym wedi cael pob oedran yn defnyddio therapi ar-lein SilverCloud. Ein nod yw creu lle diogel ar-lein i bobl archwilio eu heriau personol.”

I gofrestru ar gyfer y gwasanaeth, ewch i: https://nhswales.silvercloudhealth.com/signup/

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.