Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaeth Lles Plant a Theulu yn helpu rhieni i ymdopi

Jo Edwards & Michelle Holland

Roedd Michelle Holland wrth ddiwedd ei thennyn pan drefnodd apwyntiad i weld ei Meddyg Teulu. Nid oedd hi’n medru ymdopi gydag ymddygiad heriol ei mab a, gyda baban wyth mis oed i edrych ar ei ôl hefyd, roedd hi wir angen help.

Yn ffodus ar gyfer Michelle, roedd y meddyg yn medru rhagnodi’r union beth roedd hi angen – cyfarwyddyd gan yr ‘arch-nani’, Jo Edwards.

Mae Jo wedi medru helpu cannoedd o rieni pryderus yn ei rôl gyda’r Gwasanaeth Lles Plant a Theulu Gofal Sylfaenol, gan weithio gyda theuluoedd yn eu cartref eu hunain i’w cynorthwyo i ddod o hyd i ffyrdd gwell o reoli ymddygiad eu plant.

“Gall Meddyg Teulu ond wneud cymaint mewn apwyntiad deg munud ond rydym ni yn mynd i mewn i gartrefi pobl ac yn gwario dwy awr y pryd gyda hwy dros gyfnod o amser a dyna pryd rydych wir yn dechrau cyrraedd gwraidd y broblem” meddai Jo.

Mae wedi gweithio’n ardderchog ar gyfer Michelle, ei partner Rob, ac Alex, sy’n saith mlwydd oed.

“Ni fyddwn yn gwybod ble fuaswn i heb Jo,” meddai Michelle. “Mae gan Alex awtistiaeth gweithredu lefel uchel, ADHD (anhwylder diffyg canolbwyntio a gorfywiogrwydd) ODD (anhwylder herio gwrthryfelgar). Roedd yn amlwg fod yna broblem ers iddo fod yn ddwy flwydd oed. Roeddwn i’n credu mai rhywbeth dros dro oedd, ond parhaodd pan oedd yn dair a phedair blwydd oed a dechreuodd yr ysgol ei amlygu go iawn.

“Mae popeth yn ddi-stop gydag Alex. Byddai eisiau rhywbeth yn y fan a’r lle ac yna os nad yw e’n gallu ei gael e bydd ei rwystredigaeth yn berwi drosodd a byddai’n camfihafio.

“Nid oeddwn yn gwybod sut i ddelio ag ef. Roedd yn cael ei eithrio yn yr ysgol ac fe gymerodd amser hir i gael diagnosis o beth oedd ganddo. Er hynny, nid oedd y diagnosis yn cymryd y broblem na’r pryder i ffwrdd.

“Byddai’n galw arnaf yn gynnar bob bore, a byddai’n gweiddi ar fy nghyfer o leiaf 40 gwaith yn yr amser byddai’n cymryd i mi i godi o’r gwely a mynd i’w ystafell. Nawr rwy’n dweud: galwa am mam unwaith ac yna cyfra i 20 a byddai yna erbyn i ti gyrraedd 20.”

Dysgont fod Alex yn ymateb yn dda i wobrwyon. “Nid oes ofn ganddo a byddai’n neidio allan o’r car ac yn rhedeg ar draws y car pan fyddem yn dod yn ôl o’r ysgol. Nawr mae’n gwybod y gall ennill dair seren ac felly 15 munud o amser iPad os yw’n mynd allan o’r car yn neis, yn mynd i mewn i’r tŷ ac wedyn yn cymryd ei got a’i esgidiau i ffwrdd,” meddai Michelle.

“Rydym wedi datblygu hyn ymhellach fel ei fod yn cael seren os yw’n cael diwrnod da yn yr ysgol ac os yw’n cael pum seren o ddydd Llun i Wener rwy’n mynd ag ef i’r siop papur newydd ble mae’n cael dewis cylchgrawn oddi ar y silff.”

Dywedodd Jo: “Weithiau mae plant yn cael eu galw’n ‘ddrwg’ pan mae’r ymddygiad sy’n ddrwg ac nid y plentyn. Mae Alex yn awr yn cael ei wobrwyo am ymddygiad da.”

“Mae’r ddwy flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn anodd iawn ond yn y mis diwethaf, rwy’n dechrau gweld budd go iawn o’r gwaith rydym yn gwneud gydag Alex,” meddai Michelle. “Roedd yn arfer cau’r drws yn fy ngwyneb er mwyn cael ymateb. Roedd yn mynnu fy sylw, felly nawr rwy’n anwybyddu’r ymddygiad yna, ac yn rhoi sylw iddo pan mae’n bihafio, ac mae wedi stopio cau’r drws yn fy ngwyneb.”

“Pan ddechreuom ni weld Jo, roedd Alex mewn uned cyfeirio disgyblion am bedwar dydd yr wythnos ac mewn ysgol prif ffrwd un dydd yr wythnos. Nawr mae’r sefyllfa'r ffordd arall rownd.”

Mae’r Gwasanaeth Lles Plant a Theulu yn fenter ar y cyd wedi ei redeg gan y bwrdd iechyd lleol, meddygon teulu a Chyngor Abertawe. Dechreuodd fel cynllun peilot ond mae wedi od mor llwyddiannus cafodd ei ehangu i gynnwys ardal ehangach ac i gyflogi ail weithir, Elle Matthews. Mae Jo ac Elle yn gweithio gyda theuluoedd gyda phlant rhwng 0-11 mlwydd oed yn ardaloedd Penderi, Llwchwr a Chwmtawe.

Mae’r gwasanaeth hwn yn helpu i gymryd pwysau oddi ar Feddygon Teulu gan arbed amser ac arian ar gyfer y GIG.

Dywedodd Dr Kannan Muthuvairavan, meddyg teulu arweiniol yn ardal Llwchwr: “Mae llai o alw wedi bod ar gyfer apwyntiadau meddyg teulu gan rieni a phlant oherwydd bod y gwasanaeth yn eu gweld. Mae hyn yn arbed arian i fel meddygfa ac yn cynyddu argaeledd apwyntiadau ar gyfer ein cleifion eraill.” 

Mae’r gwasanaeth yn cael ei werthuso i arddangos ei werth ac mae canlyniadau cynnar yn dangos ei fod yn hynod o effeithiol o’i gymharu i ofal arferol.

Nawr fod gan Michelle strategaethau newydd ar gyfer rheoli ymddygiad Alex, mae Jo yn medru camu yn ôl, ond bydd yn cadw mewn cysylltiad unwaith y mis er mwyn sicrhau fod popeth yn mynd yn iawn.

“Rwyf wedi prynu cath fach i Alex i ddangos iddo sut i garu ac i ofalu am rywbeth ac mae’n mynd yn dda iawn. Mae’n dyner iawn gydag ef,” meddai Michelle. “O’r diwedd rwy’n gweld golau ar ddiwedd y twnnel!”

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.