Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaeth blynyddol i gofio babanod coll

Mae pâr o ddwylo wedi

Mae deuluoedd o Bae Abertawe yn dod at ei gilydd i gofio’u babanod a garwyd ac a gollwyd mewn gwasanaeth coffa.

Mae'r gwasanaeth, sydd wedi'i drefnu gan y bwrdd iechyd, yn agored i unrhyw un sydd wedi profi colli babi. P'un a ydyn nhw'n aelod o'r teulu neu'n ffrind, mae'r gwasanaeth yn gyfle i bawb anrhydeddu a rhannu atgofion am eu plant.

Gweinyddir y gwasanaeth gan y Parchedig Ganon Ian Rees a bydd yn cynnwys gweddïau, darlleniadau, myfyrio a Chôr Llais Gwryw Maesteg Gleemen. Bydd y rhai sy'n mynychu hefyd yn gallu cynnau canhwyllau i'w plant coll.

Meddai Christie-Ann Lang, Bydwraig Brofedigaeth Arbenigol i Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, “Mae’r gwasanaeth yn gwahodd unrhyw un sydd wedi profi colled baban i roi cymorth a myfyrio wrth rannu atgofion o’u plentyn.

“Os hoffech ddod i’r gwasanaeth bydd yn amser i’w dreulio gydag eraill sydd wedi profi colled plentyn ochr yn ochr â gweithwyr proffesiynol sydd efallai wedi darparu gofal a chymorth i chi a’ch teulu.”

Bydd y gwasanaeth yn cael ei gynnal ddydd Sul, Rhagfyr 1af yn Eglwys y Santes Fair yng nghanol Abertawe. Bydd yn dechrau am 2.30pm.

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.