Neidio i'r prif gynnwy

Gorddosau - diweddariad rhybuddio

Mae person bellach wedi marw yn dilyn llifeiriant o orddosau cyffuriau yn ardal Bae Abertawe.

Bellach mae 12 achos gorddos wedi bod yn yr ardal ers Dydd Mercher, gan ysgogi rhybuddion brys pellach am beryglon cymryd cyffuriau. Yn anffodus, mae un person wedi marw Heddiw (Dydd Sadwrn 10 Gorffennaf). Mae achos y farwolaeth yn cael ei archwilio ar hyn o bryd.

Er bod pobl wedi cael eu rhybuddio i ddechrau am gyffuriau gwrth-bryder ffug o bosibl yn cael eu cysylltu â'r gorddosau, nid yw'n glir o hyd beth sydd y tu ôl i'r digwyddiadau, a gallai cyffuriau eraill fod yn gysylltiedig.

Anogir pobl i fod yn hynod ofalus ynghylch cymryd unrhyw gyffuriau.

Dywedodd Cyfarwyddwr Iechyd y Cyhoedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, Keith Reid:

“Hoffwn gynnig fy nghydymdeimlad diffuant i deulu a ffrindiau’r person sydd wedi marw. Mae'n bwysig ein bod yn gweld defnyddio cyffuriau yn bennaf fel problem iechyd cyhoeddus ac yn cydnabod ei effaith real iawn ar unigolion a theuluoedd yn ein cymunedau.

“Mae’r nifer hwn o achosion gorddos mewn cyfnod mor fyr yn peri pryder mawr, ac nid ydym yn gwybod yn glir eto pa gyffur neu gyffuriau a all fod y tu ôl iddo.

“Felly rydyn ni'n cynghori pobl i gymryd gofal eithafol. Os ydych chi'n defnyddio cyffuriau, yna byddwch yn ofalus iawn - yn enwedig os ydych chi wedi newid eich cyflenwr yn ddiweddar neu os ydych chi wedi cael cynnig, neu'n defnyddio, cyffur newydd. "

Dywedodd Adrian Stallwood, Ymgynghorydd Adran Achosion Brys Ysbyty Treforys, fod y rhan fwyaf o'r meddygon o'r ED, a bron pob aelod o'r timau gofal dwys ac anaestheteg, wedi bod yn gysylltiedig â gofal y cleifion. Roedd hyn ar ben gwaith Adran Achosion Brys a oedd eisoes yn brysur ac yn llawn.

Ychwanegodd: “Yn anffodus rydym wedi clywed bod y cyffuriau hyn wedi arwain at farwolaeth, sy’n wastraff trasig o fywyd sy’n llawn potensial.”

Cynghorir pobl i fynd i https://www.newidcymru.co.uk/staying-safe/ i gael cyngor ar leihau niwed ar gyfer nifer o gyffuriau.

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.