Neidio i'r prif gynnwy

Gallai brechiadau a gollwyd arwain at achosion o'r frech goch

Ofnir efallai na fydd rhai plant cyn-ysgol yn derbyn eu brechiadau arferol mewn pryd oherwydd pandemig y Coronafeirws.

Dywed gweithwyr iechyd proffesiynol sy'n gweithio yn y gymuned eu bod wedi cael adroddiadau bod rhieni a gofalwyr yn gwrthod gwahoddiadau i ddod i'w meddygfa oherwydd pryderon y gallent gael eu heintio. 

Gallai hyn arwain at gynnydd yn y dyfodol mewn afiechydon y mae'n bosib eu hatal, fel y frech goch a pheswch.

Mae ymgyrch bellach wedi cael ei lansio gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe a chydweithwyr yn Iechyd Cyhoeddus Cymru i roi sicrwydd am ddiogelwch ac er mwyn mynd i’r afael ag ystod o bryderon eraill, yn cynnwys imiwneiddio ar gyfer teuluoedd sy’n eu gwarchod eu hunain.

“Mae’n naturiol teimlo'n ofnus a bod yn amharod i ddod â’ch plentyn i’r feddygfa yn ystod y cyfnod hwn,” meddai Nicola Baker, arweinydd gweithredol Tîm Iechyd Dechrau'n Deg.

“Ond gallwch fod yn dawel eich meddwl fod meddygfeydd yn dilyn y canllawiau diweddaraf ac y byddant yn cymryd pob gofal posibl i atal Covid-19 rhag lledaenu er mwyn eich cadw chi, eich plentyn a'ch staff yn ddiogel yn ystod apwyntiad eich plentyn.

“Bydd hyn yn cynnwys glanhau’r feddygfa’n rheolaidd, defnyddio offer amddiffyn personol, a gwneud trefniadau i gadw pellter diogel oddi wrth eraill.”

Ychwanegodd: “Ar gyfer y teuluoedd a’r plant hynny sy’n eu gwarchod eu hunain, rydym yn gofyn iddynt gysylltu â’u hymwelydd iechyd neu â'u meddygfa leol i drafod trefniadau ar gyfer imiwneiddio gartref.”

Mae Nicola a'i chydweithwyr wedi recordio cyfres o fideos byr ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol gan ateb llawer o'r cwestiynau y mae rhieni wedi bod yn eu gofyn iddynt, yn cynnwys y ffordd orau i deithio i'w hapwyntiadau ar gyfer y rhai sy'n gallu gwneud hynny.

Mae staff yng Nghanolfan Gofal Sylfaenol Clydach hefyd wedi cymryd rhan mewn fideo i ddangos i rieni, gofalwyr a phlant beth i'w ddisgwyl pan fyddant yn dod i mewn.

Dywedodd y meddyg teulu Iestyn Davies, arweinydd Clwstwr Cwmtawe: “Mae hon yn adeg heriol ac mae meddygfeydd yn gweithio mewn ffordd wahanol iawn ar hyn o bryd.

“Ond rydyn ni'n dal yma i wasanaethu ein cymunedau ac mae'r rhaglen imiwneiddio yn parhau i fod yn flaenoriaeth uchel.

“Y peth gorau yw i blant gael eu brechiadau ar amser fel eu bod yn cael eu hamddiffyn wrth i'r cyfyngiadau gael eu llacio'n raddol ac wrth i bobl ddechrau mynd allan mwy a chwrdd â theulu a ffrindiau.

“Fyddwn ni i gyd ddim gartref am byth a dydyn ni ddim am weld afiechydon fel y frech goch, sy'n gallu bod yn angheuol, yn cael cyfle i ledu yn ein cymunedau.”

 

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.