Neidio i'r prif gynnwy

Gall busnesau gael profion Coronafeirws ar gyfer eu staff

CAIFF busnesau yn Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot eu targedu gyda chyngor ar sut y gallant gael profion Coronafeirws ar gyfer eu staff.

Mae gwasanaeth Profi, Olrhain ac Amddiffyn GIG Cymru, a gydreolir yn y rhanbarth gan y ddau gyngor lleol a Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, yn annog i fusnesau godi ymwybyddiaeth o’r gwasanaeth ymhlith eu gweithwyr fel rhan o’r ymdrechion i atal y feirws rhag lledaenu.

Os bydd gan aelod staff symptomau’r feirws, mae’n hanfodol ei fod yn hunan-ynysu, a gofynnir iddo gael prawf yn syth er mwyn amddiffyn ei iechyd, ac iechyd ei deulu a’i gydweithwyr.

Dywedodd Dr Keith Reid, Cyfarwyddwr Gweithredol Iechyd Cyhoeddus ym Mae Abertawe: “Rydym ni i gyd yn gweithio gyda’n gilydd. Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot, Cyngor Abertawe a Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe yn gweithio’n agos iawn i ddarparu’r gwasanaeth critigol hwn ar gyfer ein cymuned.

“Wrth i'r cyfnod cloi lacio yn unol â dull Llywodraeth Cymru, mae’n hanfodol nad ydym yn colli golwg ar y rôl bwysig y gall pob un ohonom ei chwarae er mwyn atal y Coronafeirws rhag lledaenu.

“Mae’n rhaid i bobl i ddal i gofio olchi eu dwylo’n rheolaidd, a pharhau i ddilyn rheolau ymbellhau cymdeithasol Llywodraeth Cymru. Dylent hunan-ynysu yn syth, a chael prawf os byddant yn arddangos symptomau’r feirws. Dyma’r pethau pwysicaf y gallwn ni eu gwneud i helpu pobl i aros yn ddiogel ac atal y feirws rhag lledaenu.

“Gall busnesau, boed eu bod yn agor eu drysau nawr neu wedi bod yn weithredol drwy gydol y pandemig, chwarae eu rhan gan sicrhau bod eu gweithleoedd yn bodloni disgwyliadau Llywodraeth Cymru.

“Os bydd cyflogwyr yn gofyn i staff sydd â symptomau gael prawf yn gyflym, gall y rhai sydd â chanlyniad negyddol ddychwelyd i'r gwaith yn gyflym, a cheir llai o aflonyddwch o ganlyniad.

“Os bydd eu canlyniad yn un positif, bydd ein tîm o olrheinwyr yn cysylltu â’r unigolion dan sylw fel y gall pobl y maent wedi bod mewn cysylltiad â nhw ddechrau ynysu, a gofynnir iddynt gael prawf os byddant yn arddangos symptomau.”

Mae Llywodraeth Cymru wedi cynhyrchu cyngor a deunyddiau eraill y gall busnesau eu lawrlwytho er mwyn eu rhannu â rheolwyr a staff, gan gynnwys posteri ar gyfer y gweithle, a deunyddiau we ar gyfer eu mewnrwyd a gwefannau. Gellir dod o hyd i'r wybodaeth honno yma: https://gov.wales/toolkit-critical-worker-employers

Dywedodd Dr Reid: “Wrth gydweithio â busnesau, gallwn chwarae rhan mewn galluogi Llywodraeth Cymru i lacio’r cyfyngiadau symud, ac annog adfer economaidd yn ein cymunedau, a gyda’n gilydd byddwn yn helpu i gadw Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot yn ddiogel.”

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.