Neidio i'r prif gynnwy

DEDDF OMBWDSMON GWASANAETHAU CYHOEDDUS (CYMRU) 2005

DEDDF OMBWDSMON GWASANAETHAU

CYHOEDDUS (CYMRU) 2005

 

Hysbysiad yn unol ag Adran 17 (3) o'r Ddeddf uchod.          

Mae Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru wedi archwilio cwyn a daeth o hyd i fethiant gwasanaeth gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg (a elwir yn Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe ers 1 Ebrill 2019) yn ymwneud â gofal claf meddygol.  Codwyd y gwyn gan 'Mrs R' ynghylch y gofal a ddarparwyd i'w mam, a gafodd ei derbyn i'r Adran Achosion Brys wedi iddi gwympo yn ei chartref a dioddef o strôc pan oedd yn glaf mewnol.

Canfu'r Ombwdsmon na lwyddodd y Bwrdd Iechyd i gymryd camau gweithredu cyflym a phriodol er mwyn asesu a thrin symptomau strôc y claf a rheoli ei hanghenion hylif a maetheg.  Canfu'r Ombwdsmon yn bellach yr oedd dogfennaeth y Bwrdd Iechyd yn wael.  Cynhaliodd yr Ombwdsmon yn rhannol na lwyddodd y Bwrdd Iechyd i gymryd camau gweithredu priodol i atgyfeirio'r claf at yr arbenigwyr priodol.  Canfu'r Ombwdsmon fod y methiannau a adnabuwyd yn cynnwys gwersi ehangach i bob Bwrdd Iechyd ledled Cymru ddysgu o'r achos hwn.

Hoffai'r Bwrdd Iechyd ymddiheuro'n gyhoeddus am y methiannau a adnabuwyd ac am yr anhawster y mae hwn wedi achosi i'r claf a'i theulu.  Cynigid sawl argymhelliad i'r Bwrdd Iechyd gan yr Ombwdsmon, a gafodd eu derbyn a'u gweithredu yn llwyr.

Bydd copi o adroddiad yr Ombwdsmon ar ganlyniadau ei archwiliad ar gael oddi ar wefan y Bwrdd Iechyd www.sbuhb.nhs.wales i'r cyhoedd heb dâl yn ystod oriau gwaith arferol ym Mhencadlys Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, 1 Porthfa Talbot, Port Talbot, SA12 7BR am gyfnod o 3 wythnos o Chwefror 19 2020 a gall unrhyw un sydd eisiau gymryd copi o'r adroddiad hwn neu gymryd darnau oddi yno.  Darperir llungopïau o'r adroddiad neu rannau o'r adroddiad ar gais yn rhad ac am ddim.

CHRIS WHITE
DIRPRWY BRIF WEITHREDWR
(AR RAN TRACY MYHILL, PRIF WEITHREDWR)

Ewch i adroddiad llawn yr Ombwdsmon

(Dogfennau allanol yw hyn, a nad ydynt ar gael yn y Gymraeg)

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.