Neidio i'r prif gynnwy

Cymorth cinio Nadolig ar gyfer cleifion strôc

Llun o Sam Lloyd

Bydd Sam Lloyd, therapydd iaith a lleferydd, allan ar ward strôc Treforys ar fore’r Nadolig, gan helpu i sicrhau nad yw cleifion yn colli eu siawns i fwynhau cinio Nadoligaidd.

Mae gan bobl sydd wedi dioddef strôc drafferth llyncu, felly mae cinio twrci traddodiadol yn amhosibl ar gyfer rhai.

Mae therapyddion iaith a lleferydd yn asesu gallu’r cleifion i lyncu ac yn penderfynu os ydynt angen cymorth, a gallant wedyn archebu cinio sydd yn fwy meddal neu hyd yn oed wedi ei stwnshio iddynt. Gall y therapyddion hefyd roi’r golau gwyrdd i weini cinio arferol i gleifion os yw’n ddiogel.

Esboniodd Sam, sy’n arwain y gwasanaeth iaith a lleferydd ar Ward F, y ward strôc, fod problemau llyncu gan bron ddau draean o’r bobl sydd wedi dioddef strôc.

Llun o Sam Lloyd

Yn ogystal â chleifion newydd yn cyrraedd ar y ward strôc ar ddydd Nadolig, bydd yn medru ail-archwilio cleifion a dderbyniwyd ar y ward cyn Nadolig hefyd.

Dywedodd:

“Drwy weithio ar ddydd nadolig gallaf asesu’r cleifion hynny sydd yn dioddef anawsterau llyncu a byddant yn fwy tebygol o gael cinio Nadolig, er efallai y bydd wedi ei addasu fymryn. Gobeithio bydd ward y staff yn teimlo eu bod wedi cael cymorth ychwanegol yn ychwaneg.

“Y llynedd roedd gan ein tîm glaf oedd wedi cael strôc yn yr hydref, a chafodd hyn effaith ddifrifol ar ei allu i lyncu. Gweithiom yn agos gydag ef a’i helpu i ddysgu sut i lyncu bwyd yn ddiogel eto.

“Ei nod oedd medru bwyta ei ginio Nadolig, ac felly roeddem yn falch iawn pan ddanfonodd ef lun i ni wedyn ohono ef yn mwynhau ei ginio Nadolig.”

Bydd Sam hefyd yn helpu cleifion ar y ward sydd ag anawsterau siarad ar ôl eu strôc i gyfathrebu â’u teulu a’u ffrindiau yn ystod yr adeg arbennig hwn.

“Os y byddant yn ffeindio siarad i fod yn anodd byddaf yn eu helpu hwy drwy ffyrdd eraill megis siart gyfathrebu, siart o’r wyddor, ysgrifennu neu ystumiau,” esboniodd.

Bydd staff therapi galwedigaethol hefyd yn ymweld â’r ward ar Ddydd San Steffan, a ffisiotherapyddion ar Ddydd Calan, er mwyn sicrhau fod gofal y cleifion strôc yn parhau yn ystod y dyddiau yma o wyliau banc yma.

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.