Neidio i'r prif gynnwy

Bae Abertawe i gefnogi treial newydd yn y DU ar gyfer brechlyn COVID-19

Dyma'r astudiaeth gyntaf i brofi ymgeisydd brechlyn COVID-19 sy'n deillio o blanhigion, a bydd yn gwerthuso effeithiolrwydd a diogelwch y Brechlyn COVID-19 Gronynnol tebyg i Goronafeirws (CoVLP).

Mae'r brechlyn eisoes wedi bod trwy astudiaethau dynol cyfnod cynnar, ac erbyn hyn mae angen ei brofi ar raddfa fawr. Mae astudiaeth ar fin cychwyn sy'n cynnwys 1,500 o bobl ledled y DU, a’r nod yw recriwtio gwirfoddolwyr rhwng 18-39 oed sy'n byw yn Abertawe a'r ardaloedd lleol. Gwahoddir unigolion sydd â diddordeb i gofrestu ar wefan y treial yma.

Bydd yr astudiaeth yn cynnwys gwirfoddolwyr yn gwneud uchafswm o 10 ymweliad â safle'r astudiaeth dros oddeutu 26 mis. Ad-delir costau teithio rhesymol a bydd gwirfoddolwyr yn derbyn taliad am gymryd rhan yn yr astudiaeth hon.

Bydd astudiaeth brechlyn Medicago yn rhedeg ar draws pedair ar ddeg o safleoedd yn y Deyrnas Unedig, yn ogystal â sawl safle yn yr Unol Daleithiau, Canada, Ewrop ac America Ladin. Bydd yr astudiaeth yn cofrestru hyd at 30,000 o wirfoddolwyr ledled y byd.

Dywedodd Dr Brendan Healy, Prif Ymchwilydd ar gyfer treial Medicago ac Ymgynghorydd mewn Microbioleg a Chlefydau Heintus yn Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Rydym i gyd nawr yn dechrau gweld effeithiau buddiol brechiadau COVID-19. Er ei bod yn galonogol bod gennym eisoes dri brechlyn yn y DU, mae'n bwysig iawn ein bod yn parhau i ddatblygu brechlynnau fel bod mwy o ddewis a'r gallu i ddewis brechlynnau ar sail eu buddion unigol. Mae brechlyn COVID-19 sy'n deillio o blanhigion Medicago eisoes wedi bod trwy astudiaethau dynol cyfnod cynnar. Rwy’n falch iawn y bydd Bae Abertawe yn recriwtio mewn partneriaeth ag Iechyd Cyhoeddus Cymru i gam nesaf datblygiad y brechlyn hwn. Hoffwn annog pobl sy'n byw ym Mae Abertawe a'r ardaloedd cyfagos i ystyried cymryd rhan.”

Dywedodd Andrew Jones, Cyfarwyddwr Gweithredol Dros Dro Iechyd Cyhoeddus Cymru:  “Bydd brechlynnau yn chwarae rhan hanfodol wrth amddiffyn ein poblogaeth yn erbyn COVID-19 a bydd y treial hwn yn ein helpu i weithio tuag at ddatblygu brechlyn pellach i amddiffyn y boblogaeth gyfan. Rwy’n falch iawn bod Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cymryd rhan yn y gwaith hanfodol hwn a buaswn yn annog ymgeiswyr addas i gymryd rhan.”

Dywedodd Dr Nicola Williams, Cyfarwyddwr Cymorth a Chyflenwi yn Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, sy’n cydlynu ymchwil ac yn sefydlu'r astudiaeth yn genedlaethol yng Nghymru: “Er bod nifer o frechlynnau COVID-19 wedi’u cymeradwyo ac yn symud ymlaen ar gyflymder, mae angen nifer o frechlynnau i amddiffyn y boblogaeth gyfan, felly mae gwir angen am gyfranogiad yn yr astudiaeth hon. Astudiaeth brechlyn Medicago fydd y bedwaredd astudiaeth a fydd yn agor yng Nghymru, ac rwy'n falch bod ymchwilwyr yng Nghymru yn gweithio gyda phartneriaid cenedlaethol i ddod o hyd i'r triniaethau mwyaf effeithiol. Mae ein cymuned ymchwil a'n staff iechyd a gofal cymdeithasol yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i ganfod ateb parhaol i'r pandemig.”

I gael mwy o wybodaeth am yr holl astudiaethau ymchwil cysylltiedig sy'n weithredol, neu sydd wedi'u sefydlu, yng Nghymru ewch i Ymchwil COVID-19 yng Nghymru.

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.