Neidio i'r prif gynnwy

Anogwyd y cyhoedd i fwynhau'r tywydd poeth yn ddiogel

Mae Cyfarwyddwr Clinigol Meddygaeth Frys Ysbyty Treforys wedi cyflwyno apêl i'r cyhoedd fwynhau'r tywydd poeth yn gyfrifol.

Dywedodd Mark Poulden fod y gwasanaeth iechyd eisoes yn hynod o brysur ac efallai na fydd yn gallu ymateb na chynnig triniaeth ar gyfer salwch ac anaf sy'n gysylltiedig â gwres cyn gynted ag yr hoffech chi.

Dyma'i ddatganiad llawn - gydag awgrymiadau da ar gyfer cadw'n ddiogel isod.

"Mae'r tywydd poeth yn rhoi straen ychwanegol ar wasanaeth iechyd a oedd eisoes yn profi galw mawr am yr holl wasanaethau gan feddygon teulu hyd at adrannau brys (A & Es).

Fel adrannau brys ledled Cymru, mae Ysbyty Treforys wedi bod yn gweld niferoedd uwch o gleifion sâl yn dod trwy'r drysau ers cryn amser. Gan fod Gwasanaeth Ambiwlans Cymru dan bwysau eithafol, rydym wedi dechrau gweld cleifion yn cerdded i mewn gyda chyflyrau sy'n peryglu bywyd.

Mae hyni gyd yn cael sgil-effaith o gynyddu amseroedd aros i'r rheini ag anafiadau neu salwch llai difrifol.

Nawr rydym yn gweld cleifion yn cyrraedd gydag anafiadau sy'n gysylltiedig â'r tywydd hefyd.

Rydym wedi gweld nifer o achosion llosg haul, ond diolch byth eu bod yn gymharol fach ar y cyfan. Ac rydyn ni wedi gweld rhai pobl sydd wedi'u hanafu yn gwneud gweithgareddau awyr agored yn y tywydd braf.

Felly, ein neges i'r cyhoedd yw mwynhau'r tywydd braf. Mae'n dda iawn i'n lles cyffredinol. Ond byddwch yn ofalus gan fod y gwasanaeth iechyd eisoes yn hynod o brysur ac efallai na fydd yn gallu ymateb na chynnig triniaeth ar gyfer salwch ac anaf sy'n gysylltiedig â gwres cyn gynted ag yr hoffech chi. "

Dyma'i gynghorion gorau ar gyfer cadw'n ddiogel.

  • Cadwch eich hun a'ch teulu yn ddiogel yn y tywydd eithafol hwn trwy aros allan o'r haul rhwng 11am a 3pm, gan ddefnyddio eli haul ffactor uchel os ewch chi allan, gwisgo dillad llac ac yfed hylifau rheolaidd. Cadwch lygad barcud ar yr hen a'r ifanc iawn oherwydd eu bod yn fwy agored i'r gwres.
  • Gwiriwch gymdogion oedrannus i sicrhau bod ganddyn nhw bopeth sydd ei angen arnyn nhw.
  • Os ydych chi am oeri yn y môr, cadwch at ardaloedd sydd wedi'u patrolio gan achubwyr bywyd RNLI os gallwch chi, peidiwch ag yfed alcohol cyn mynd i mewn a byddwch yn ymwybodol o lanw a cheryntau.
  • Peidiwch â dod i'r adran brys oni bai ei fod yn argyfwng. Mae eich meddygfa yn fwyaf addas i ddelio â mân afiechydon. Gall fferyllfeydd hefyd gynnig meddyginiaethau yn rhad ac am ddim ar gyfer anhwylderau cyffredin. Ac mae unrhyw un dros un oed sydd â mân anaf yn gallu mynd i ein Huned Mân Anafiadau yn Ysbyty Castell-nedd Port Talbot. Mae hi ar agor rhwng 7.30am ac 11pm, saith diwrnod yr wythnos.

 

 

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.