Neidio i'r prif gynnwy

Annog cartrefi i ddarllen a chadw deunydd pwysig am coronafeirws sy'n dod drwy'r post

Wrth i’r gaeaf ddynesu, ac wrth i’r nifer o achosion godi’n lleol ac yn genedlaethol, mae pob cartref ar draws Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot ar fin derbyn gwybodaeth bwysig am coronafeirws drwy’r post.

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, ar y cyd â Chynghorau Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot, wedi cynhyrchu’r daflen i roi cyngor a manylion allweddol i drigolion ynghylch sut i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am wybodaeth leol am coronafeirws.

Yn ôl Dr Keith Reid, Cyfarwyddwr Iechyd Cyhoeddus ar gyfer ardal Bae Abertawe: “Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe’n gweithio law yn llaw â’r ddau awdurdod lleol i baratoi’r rhanbarth ar gyfer tymor gaeaf a allai fod yn un heriol. Rydyn ni’n cydnabod nad yw pawb ar lein ac yn gallu gweld ein sianelau digidol, felly hoffwn annog y bobl hynny’n enwedig i gadw’r wybodaeth allweddol yma wrth law dros y misoedd nesaf.

“Mae gan bawb ohonom gyfrifoldeb i barhau i ddilyn cyngor Llywodraeth Cymru i gadw ein hunain ac eraill yn ddiogel. Golchi dwylo’n rheolaidd ac yn drylwyr; parhau i gadw pellter cymdeithasol; a gwisgo gorchudd ar eich wyneb pan nad yw hi’n bosib cadw pellter diogel rhyngoch chi a phobl eraill – dyma’r camau sylfaenol ond hanfodol ar gyfer atal coronafeirws rhag lledu.”’

Yn ogystal â chanllawiau glanweithdra sylfaenol, mae’r daflen yn rhoi manylion cyswllt ar gyfer y tair asiantaeth bartner, ynghyd â sut y byddan nhw’n cyfathrebu gwybodaeth hanfodol os bydd cynnydd yn niferoedd yr achosion. lleol o coronafeirws.

Meddai’r Cynghorydd Rob Steward, Arweinydd Cyngor Abertawe: “ Dyw coronafeirws ddim wedi mynd i ffwrdd, ac mae rhai pethau allweddol y mae angen i bawb ohonom ei wybod a’i wneud er mwyn i ni allu cyd-fyw gyda’r haint. Mae hi’n hollbwysig felly fod pobl yn darllen yr wybodaeth fydd yn dod drwy’r blwch llythyrau cyn bo hir, ac yn ei ddilyn a’i gadw wrth law.

“Baswn i hefyd yn annog pawb i wrando’n gyson â ffynonellau newyddion lleol dibynadwy dros gyfnod misoedd yr hydref a’r gaeaf, boed hynny ar lein, drwy gyfrwng radio lleol neu yn y papurau newydd.”

Mae’r bwrdd iechyd a’r ddau gyngor hefyd yn gweithio law yn llaw i ddarparu gwasanaeth Profi, Olrhain a Gwarchod ar gyfer ardal Bae Abertawe, sy’n chwarae rôl allweddol wrth helpu i leihau’r tebygolrwydd o gael achosion newydd o’r clefyd, ac effaith hynny.

Dywedodd y Cynghorydd Rob Jones, Arweinydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot: “Fel y gwelsom mewn mannau eraill, gall coronafeirws ailsefydlu’n gyflym iawn mewn cymunedau os nad yw’r camau cywir yn cael eu dilyn. Os ydyn ni eisiau cadw Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot yn ddiogel, mae’n hanfodol fod unrhyw un sy’n datblygu symptomau’n gweithredu’n gyflym i hunanynysu, archebu prawf, ac yna ymgysylltu â’r gwasanaeth olrhain cysylltiadau.

“Er y gall rheolau penodol ynghylch coronafeirws newid yn rheolaidd, ac weithiau’n bur sydyn, mae’r gweithredoedd sylfaenol sy’n cael eu hamlinellu yn y daflen yn bethau y mae angen i bawb ohonom eu gwneud er mwyn cadw ein hunain a’n hanwyliaid yn ddiogel, ac i helpu rhag gorfod gosod cyfyngiadau llymach ar yr ardal leol.”  

 

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.