Neidio i'r prif gynnwy

Ail achos o COVID-19 yn ardal BIPBA

Delwedd faner o firysau yn nodi coronafeirws

Rydym yn sicrhau ein cymunedau y bydd ein gofal a’n gwasanaethau yn parhau fel arfer, yn dilyn cyhoeddiad Prif Swyddog Meddygol Cymru am achos o goronafirws COVID-19 yn ardal awdurdod lleol Castell-nedd Port Talbot.

Gall pobl barhau i fynychu ar gyfer eu hapwyntiadau, eu triniaethau ac i gael mynediad at ofal brys, fel y byddent fel arfer.

Gall y cyhoedd helpu i amddiffyn eu hunain a'u cymunedau trwy ddilyn cyngor Iechyd Cyhoeddus Cymru yn enwedig golchi dwylo a defnyddio hances bapur ar gyfer symptomau sy'n gysylltiedig ag annwyd a'r ffliw.

Ni ddylai unrhyw un sydd wedi teithio i'r ardaloedd penodol, neu'n credu y gallai fod ganddynt symptomau COVID-19 fynychu cyfleusterau iechyd fel meddygfeydd, ein hadran achosion brys neu uned fân anafiadau, ond dylent hunan-ynysu ac os yw'n briodol ffoniwch GIG 111.

Mae'r unigolyn yn derbyn gofal mewn lleoliad sy'n briodol yn glinigol yn seiliedig ar asesiad ymgynghorydd clefyd heintus arbenigol.

Rydym hefyd yn gweithio gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru yn unol â'r ymateb arfaethedig i achos coronafirws wedi'i gadarnhau.

Dywedodd Keith Reid, Cyfarwyddwr Iechyd Cyhoeddus Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe:

“Dylai cleifion barhau i fynychu apwyntiadau fel arfer, oni bai y dywedir wrthych yn wahanol.

“Cofiwch olchi eich dwylo yn drylwyr ac yn rheolaidd, gan mai dyma’r ffordd orau i amddiffyn eich hun rhag heintiau, gan gynnwys coronafirws.”

Gall unrhyw un sy'n poeni y gallai fod ganddynt coronafirws nawr gael mynediad at wiriwr symptomau ar-lein pwrpasol. Dilynwch y cyngor cyffredinol a pheidiwch â mynychu eich meddygfa, yr adran achosion brys neu'r Uned Mân Anafiadau. Ffoniwch 111 yn gyntaf.

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.