Neidio i'r prif gynnwy

Unedau'n helpu yn erbyn feirws Covid

Staff tu allan i

Mae'r bwrdd iechyd yn ei gwneud hi'n haws i bobl hŷn gael eu brechiadau atgyfnerthu Covid-19 trwy ddefnyddio cynwysyddion cludo wedi'u trosi.

Mae tri chynhwysydd, a elwir yn Ganolfannau Brechu Lleol (LVCs), wedi'u lleoli mewn cymunedau ar draws ardal Bae Abertawe ar gyfer y rhai a allai ei chael hi'n anodd cyrraedd canolfan frechu dorfol.

(Prif lun uchod: Matthew Armstrong, imiwneiddiwr; Andrea Howells, goruwchwylydd clinigol; Ian Worthing, imiwneiddiwr)

Mae'r cynwysyddion yn adeiladu ar lwyddiant a phrofiad yr Imbwilans, uned frechu symudol y bwrdd iechyd.

Ac maen nhw'n gallu rhyddhau'r Imbiwlans i gael eu defnyddio i gyrraedd ardaloedd newydd.

Staff tu mewn i (Yn y llun ar y dde: Staff tu mewn i'r uned frechu lleol)

Gellir lleoli'r unedau mewn un lle am sawl diwrnod ac mae nhw’n cynnwys cyfleusterau staff, sy'n golygu y gallant aros yno'n hirach a does dim rhaid eu symud bob nos a dod â nhw'n ôl y bore canlynol.

Mae staff yn darparu brechiadau atgyfnerthu Covid ar gyfer y rhai sydd ag apwyntiad yn unig ac yn anelu at ddosbarthu 60 pigiad bob dydd.

Yna gall pobl aros y 15 munud arferol ar ôl brechu naill ai yn eu ceir neu tu mewn yr uned.

Clwb Rygbi Blaendulais. Mae un o'r unedau wedi'i gosod ym maes parcio Clwb Rygbi Blaendulais i wasanaethu'r rheini yng Nghwm Dulais a chymunedau cyfagos.

(Yn y llun ar y chwith: Yr uned frechu yng Nghlwb Rygbi Blaendulais)

Mae un arall o'r LVCs wedi'i osod ger Neuadd y Ddinas yn Abertawe, sydd wedi profi i fod yn lleoliad poblogaidd ar gyfer yr Immbulance.

Dywedodd James Ruggiero, Pennaeth Cynorthwyol Cynllunio Gweithredol Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe ar gyfer y rhaglen frechu: “Mae'r prosiect hwn yn rhan o'n hymdrech barhaus i gynyddu mynediad at frechiadau ar draws ardal Bae Abertawe.

“Mae'r unedau hyn yn ein helpu yn ein nod i gael cymaint o bobl â phosibl i frechu, yn enwedig y rhai a allai ei chael hi'n anodd teithio i'n canolfannau brechu torfol.”

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.