Neidio i'r prif gynnwy

Mae gwirfoddolwyr Abertawe yn camu ymlaen ar gyfer treial brechlyn Covid

Gwirfoddolwyr o Abertawe oedd y cyntaf yn Ewrop i gamu ymlaen i gymryd rhan mewn treial clinigol rhyngwladol o frechlyn Covid-19 newydd.

Mae astudiaeth brechlyn Medicago yn rhedeg ar draws 14 o safleoedd yn y DU, gan gynnwys Iechyd Cyhoeddus Cymru, sydd bellach wedi gorffen recriwtio yn Abertawe.

Dyma'r astudiaeth gyntaf i brofi effeithiolrwydd a diogelwch y Brechlyn Gronyn tebyg i Coronafirws (CoVLP) sy'n seiliedig ar blanhigion.

Brendan Healy Mae'r brechlyn eisoes wedi bod trwy astudiaethau dynol cyfnod cynnar ac erbyn hyn mae angen ei brofi ar raddfa fawr.

Mae'r astudiaeth yn cynnwys 1,500 o bobl ledled y DU.

Y mis diwethaf, dechreuodd Iechyd Cyhoeddus Cymru recriwtio gwirfoddolwyr sy'n byw yn Abertawe a'r cylch.

Mae'r tîm cydweithredol hefyd yn cynnwys Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe ac Ysgol Feddygol Prifysgol Abertawe.

Mae Dr Brendan Healy (yn y llun ) yn Brif Ymchwilydd ar gyfer treial Medicago ac yn Ymgynghorydd mewn Microbioleg a Chlefydau Heintus yn Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Meddai: Rydym yn falch iawn mai Iechyd Cyhoeddus Cymru oedd y safle cyntaf yn y DU ac Ewrop i gofrestru unigolion yn Abertawe yn hyn.

“Rwy’n ddiolchgar iawn i staff ar draws Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe a Phrifysgol Abertawe a weithiodd mor galed i gyflawni hyn.

“Fel grŵp rydym yn hynod ddiolchgar i’r holl unigolion a gamodd ymlaen i helpu gyda’r treial, sy’n ymchwilio i frechlyn a gynhyrchir gan ddefnyddio technoleg newydd sy’n seiliedig ar blanhigion.

“Bydd yn cynhyrchu data gwerthfawr a fydd yn helpu’r frwydr fyd-eang yn erbyn COVID-19 dros y tymor hir. Un o fanteision y dechnoleg hon yw ei bod yn galluogi cynhyrchu brechlyn ar raddfa. ”

Cynhyrchir y brechlyn ar ffurf gronynnau tebyg i coronafirws, a elwir yn CoVLPs, sydd tua'r un siâp a maint ac yn edrych yn debyg iawn i coronafirysau byw.

Fodd bynnag, nid oes ganddynt unrhyw ddeunydd genetig firaol sy'n golygu na allant achosi'r afiechyd.

Mae'r CoVLPau wedi'u cyfuno â chynorthwyyn (cynhwysyn a allai wella ymateb imiwn y corff) cyn y rhoddir y brechlyn.

Mae hyn yn caniatáu rhoi dos llai o'r brechlyn, sy'n golygu y byddai mwy o ddosau ar gael i frechu mwy o bobl, unwaith y bydd y brechlyn wedi'i gymeradwyo.

Yn ogystal â'r 14 safle yn y DU, mae astudiaeth brechlyn Medicago yn cael ei chynnal mewn sawl safle yn yr Unol Daleithiau, Canada, Ewrop ac America Ladin. Bydd yn cofrestru hyd at 30,000 o wirfoddolwyr ledled y byd.

Dywedodd Dr Healy fod effeithiau buddiol y brechlynnau Covid-19 presennol bellach yn cael eu gweld.

Ond, ychwanegodd, roedd yn bwysig bod mwy yn cael eu datblygu i roi mwy o ddewis a'r gallu i ddewis brechlynnau ar sail eu buddion unigol.

“Wrth symud ymlaen, bydd angen amrywiaeth o opsiynau arnom ac mae hwn yn gyfle gwych i’n helpu i werthuso brechlyn arall yn erbyn Covid-19,” meddai meddai .

Mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn genedlaethol yn cydlynu ymchwil ac sefydlu astudiaethau yng Nghymru.

Ewch i'r dudalen hon ar wefan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru i ddarganfod mwy am ei waith.

 

 

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.