Neidio i'r prif gynnwy

Gweithiwr GIG lleol a gollodd gyfeillion i Covid yn cefnogi ymgyrch frechu

Mae gweithiwr o Ysbyty Singleton wedi gofyn am gymorth ei chydweithwyr i ddweud wrth bobl o gymunedau Du, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol (BAME) am bwysigrwydd derbyn brechlyn Covid-19.

Ar ôl colli dau o’i ffrindiau i’r feirws, teimlai Grace Manuputty, sy’n gweithio yn Adran Ddomestig Ysbyty Singleton ac sy’n Swyddog Pobl Ddu cangen Abertawe o Unsain, fod rhaid iddi weithredu.

Gofynnodd i gydweithwyr sy’n perthyn i gymunedau Ethnig Lleiafrifol gymryd rhan mewn cyfres o ffotograffau yn dal cardiau gyda chapsiynau yn egluro pam penderfynon nhw dderbyn y brechlyn pan gafodd ei gynnig. Ymhlith y rhesymau roedd ‘Mae rhaid i fi amddiffyn fy hunan, fy nheulu, fy nghleifion a diogelu’r cyhoedd’, ‘dyma’r unig ffordd i guro Covid-19 am byth’, ac ‘oherwydd bod y treialon wedi profi ei effeithlonrwydd’.

Daeth llu o staff Ysbyty Singleton allan i gefnogi’r fenter, a defnyddir y ffotograffau yn ystod yr wythnosau a’r misoedd nesaf i gefnogi’r ‘Ymgyrch Dywedwch Fwy Wrthyf Fi, sy’n ceisio dileu ofnau a drwgdybiaeth, ac annog pobl o gymunedau BAME i dderbyn brechlyn Covid-19.

Dywedodd Grace:

“Rwy’n teimlo’n ffodus iawn achos mod i wedi cael dau ddogn o’r brechlyn. Fe fues i’n crio ar ôl y pigiad cyntaf, nid oherwydd y boen, ond oherwydd mod i’n teimlo’n falch mod i’n cyfrannu at y gymdeithas trwy ddod yn rhan o’r ateb i’r pandemig ofnadwy yma. 

“Mae llawer o resymau pam gallai pobl mewn cymunedau Du, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol fod heb dderbyn y brechlyn. Trwy roi cyfle i bobl ddweud ‘Fe ges i’r brechlyn oherwydd...’ rydyn ni’n gobeithio dangos bod y brechlyn yn ddiogel ac yn hanfodol i’ch amddiffyn eich hun, eich anwyliaid a’ch cymuned.

“Mae pawb wedi dioddef yn ystod y pandemig yma, ac rwyf finnau wedi colli dau ffrind oedd heb fynd i gael y brechlyn ac sydd wedi marw o Covid-19 ers hynny. O ganlyniad, rwy’n credu’n angerddol bod angen brechu pobl. Dyna’r teimlad a rennir ar draws y GIG, ac fe ges i fy nghalonogi’n aruthrol bod cynifer o’m cydweithwyr yn frwd dros ychwanegu eu lleisiau at yr ymgyrch yn annog pobl i dderbyn y brechlyn.”

Mae’r ‘Ymgyrch Dywedwch Fwy Wrthyf Fi’ yn cael ei harwain gan gynrychiolwyr o’r cymunedau Du, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol (BAME) yn Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot. Mae’n cyfeirio pobl at wybodaeth onest a chywir o ffynonellau lleol y gallan nhw ymddiried ynddynt, gan gynnwys ymarferwyr meddygol, arweinwyr ffydd a chymuned, yn ogystal â phobl gyffredin, ffrindiau a chymdogion, sy’n byw ac yn gweithio yn y gymuned, fel bod pobl o gymunedau BAME yn wir yn gallu gwneud penderfyniadau gwybodus.

Dywedodd Henry Gilbert, Cadeirydd yr Ymgyrch, a fu’n Uchel Siryf Gorllewin Morgannwg:

“Yn ystod y 15 mis diwethaf rydym wedi gweld llawer o enghreifftiau o bobl gyffredin yn camu i’r adwy mewn cyfnod na welwyd ei debyg. Mae Grace a’i chydweithwyr yn enghreifftiau disglair o hyn, a hoffwn ddiolch iddyn nhw am gefnogi ein hymgyrch.

“Mae gweithwyr y GIG yn cael eu parchu’n fawr, ac mae pobl yn ymddiried ynddyn nhw, felly trwy rannu eu rhesymau am dderbyn y brechlyn, byddan nhw’n helpu i ennyn hyder ymhlith eraill yn ein cymunedau.

“Ers misoedd lawer bu gwybodaeth gamarweiniol yn cael ei rhannu ar y cyfryngau cymdeithasol, gan gynnwys honiadau bod y brechlyn yn erbyn Islam, ei fod yn cynnwys porc, neu ei fod yn gallu arwain at anffrwythlondeb, ond does dim un o’r honiadau hynny’n wir.

“Rwyf fi, a llawer o’m cydweithwyr ar y Fforwm Dywedwch Fwy Wrthyf Fi, hefyd wedi bod yn ddigon ffodus i gael dau ddogn o’r brechlyn, ac rydyn ni’n annog pobl sydd ag unrhyw amheuon i ganfod y ffeithiau o ffynhonnell maen nhw’n ymddiried ynddi, a derbyn y brechlyn pan gaiff ei gynnig.”

Am fwy o wybodaeth dilynwch y ddolen hon i wefan Dywedwch wrthyf mwy, lle cewch atebion i gwestiynau cyffredin, cyfle i lawrlwytho gwybodaeth mewn amrywiaeth o ieithoedd, a chyfle i gefnogi’r ymgyrch trwy gyflwyno eich fideos neu eich tystebau eich hun.

 

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.