Neidio i'r prif gynnwy

Dydd Mawrth, Tachwedd 30ain, 2021 - Datganiad ar raglen atgyfnerthu yng ngoleuni'r cyhoeddiad JCVI diweddaraf

Rydym yn gwybod bod llawer ohonoch yn awyddus i gael eich brechlyn atgyfnerthu Covid neu ei gael ar gyfer rhywun annwyl yng ngoleuni newyddion am yr amrywiad pryder Omicron a chyngor newydd gan y JCVI.

Arhoswch i gael apwyntiad naill ai trwy lythyr neu neges destun pan fydd yn eich tro chi neu dro eich anwylyd. Mae hyn hefyd yn berthnasol i grwpiau oedran eraill sy'n gymwys i gael eu hail ddos.

Nid oes angen cysylltu â'r bwrdd iechyd na'ch meddyg teulu i wneud apwyntiad neu fynd ar ei ôl. Rydym yn ymwybodol o'r ehangu cymhwysedd ar gyfer y pigiad atgyfnerthu i bawb 18 oed a hŷn a'r cyfwng llai rhwng yr ail a'r dôs atgyfnerthu ac rydym yn gweithio trwy'r logisteg i gynyddu ein cynllun cyflawni.

Mae ein llinellau archebu yn hynod o brysur ac efallai y byddwch yn atal y rhai sydd angen newid eu hapwyntiad rhag mynd trwodd.

Ni allwn hefyd gynnig sesiynau archebu ar-lein na sesiynau galw heibio ar hyn o bryd.

Fodd bynnag, gallwch ymuno â'n rhestr wrth gefn brechlyn Covid - er nad oes unrhyw sicrwydd y cewch eich gweld yn gyflymach. Rydym yn cysylltu â phobl ar y rhestr os oes gennym argaeledd.

Ewch i'r dudalen hon i ymuno â rhestr wrth gefn brechlyn Covid.

Os oes gennych apwyntiad brechu Covid eisoes, gwnewch bob ymdrech i ddod ar y dyddiad ac ar yr amser a roddir. Yn y ffordd honno rydyn ni'n gwybod faint o bobl i'w disgwyl.

Mae ein tîm brechu yn parhau i weithio'n hynod o galed i gyflwyno'r rhaglen atgyfnerthu yn ogystal â dosau cyntaf ac ail i bawb sy'n gymwys mor gyflym a diogel â phosibl.

Os na allwch wneud eich apwyntiad, cysylltwch â'n tîm archebu ar 01792 200492 neu 01639 862323 neu e-bostiwch sbu.covidbookingteam@wales.nhs.uk

Mae llinellau yn hynod o brysur felly efallai y bydd angen i chi giwio. Ni allwn ymateb i bob e-bost ar unwaith.

Diolch am eich cefnogaeth a'ch amynedd parhaus.

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.