Neidio i'r prif gynnwy

Clinigau brechu Covid-19 wedi cychwyn mewn meddygfeydd

Mae'r rhaglen frechu rhag Covid-19 ar gyfer pobl dros 80 wedi cychwyn mewn meddygfeydd! Dechreuodd heddiw yng Nghanolfan Feddygol Cilâ gyda 100 o gleifion wedi archebu lle ar gyfer eu dos cyntaf mewn clinig arbennig ddydd Sadwrn. 

Ymhlith y cyntaf i gael ei brechu oedd Marcia Sturk, 82 oed, a ddywedodd: “Roeddwn yn hapus i fanteisio ar y cyfle i gael fy mrechiad, nid yn unig i amddiffyn fy hun, ond i amddiffyn eraill hefyd.”

Mae tua 1,800 o gleifion dros 80 oed ar restr y feddygfa hon yn unig, ac ar draws Abertawe a Castell-nedd Port Talbot, cyfanswm y bobl sy’n 80 oed a throsodd yw tua 24,000.

Mae pob un o'r 49 meddygfa ym Mae Abertawe wedi cofrestru i roi'r brechiad Covid-19 cyntaf i'r cleifion yn y grŵp oedran hwn. Y bwriad yw rhoi dos cyntaf o'r brechlyn iddynt i gyd yn ystod yr wythnosau nesaf.

Bydd y meddygfeydd yn cysylltu â chleifion yn uniongyrchol, dros y ffôn neu drwy lythyr, i drefnu apwyntiad, felly PEIDIWCH â'u ffonio'ch hun, gan fod angen i staff fwrw ymlaen â'u gwaith. A chofiwch, mae'r brechiad yn rhad ac am ddim, felly ni fyddwn byth yn gofyn i chi am unrhyw fanylion banc neu fanylion ariannol (byddwch yn wyliadwrus o sgamwyr.)

Dywedodd Dr Chris Johns o Ganolfan Feddygol Cilâ ei fod yn falch iawn iddo allu dechrau brechu ei gleifion.

“Rydym yn falch iawn o gymryd rhan a dechrau'r brechiadau hyn. Mae'n teimlo fel petai wedi cymryd amser hir, ond rydyn ni wedi dechrau o'r diwedd.

“Byddwn yn brechu 100 o bobl heddiw. Yn ogystal â chynnal clinigau arbennig yn y feddygfa, rydym hefyd yn bwriadu defnyddio rhai lleoliadau cymunedol i’n helpu i fynd o amgylch pawb.”

Ychwanegodd:

“Rwyf hefyd eisiau atgoffa cleifion, hyd yn oed pan gânt eu brechu, ei bod yn bwysig parhau i gadw pellter cymdeithasol.”

  • Golchwch eich dwylo yn rheolaidd
  • Gwisgwch orchudd wyneb mewn adeilad cyhoeddus caeedig
  • Cadwch ddau fetr oddi wrth bobl nad ydych chi'n byw gyda nhw

Mae apwyntiadau wedi dechrau mynd allan o feddygfeydd ar draws Bae Abertawe, ac o'r wythnos nesaf ymlaen bydd llawer mwy o feddygfeydd yn dechrau brechu.

Mae brechiadau hefyd ar y gweill mewn cartrefi gofal yn Abertawe a Castell-nedd Port Talbot.

Mae naw grŵp blaenoriaeth ar gyfer y brechlyn, a gobeithiwn y byddwn wedi cwmpasu'r pedwar cyntaf (isod) erbyn canol Chwefror:

  1. Preswylwyr sydd mewn cartrefi gofal ar gyfer pobl hŷn a'u gofalwyr
  2. Yr holl rai sy’n 80 oed ac yn hŷn a gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol rheng flaen
  3. Pawb sy'n 75 oed ac yn hŷn
  4. Pawb sy'n 70 oed ac yn hŷn; ac unigolion clinigol hynod fregus

Unwaith eto, nodyn i’ch atgoffa - PEIDIWCH â ffonio'ch meddygfa neu ein hysbytai. Byddwch yn derbyn gwahoddiad yn uniongyrchol pan ddaw eich tro. Bydd brechiadau yn cael eu darparu mewn amrywiaeth o leoliadau: mewn ysbytai, meddygfeydd, adeiladau cymunedol, yn eich cartref (os ydych chi'n gaeth i'r tŷ) neu yn un o'n canolfannau brechu torfol sy'n cael eu hagor. Byddwch yn cael manylion llawn eich apwyntiad pan gysylltir â chi.

Byddwn yn eich diweddaru eto cyn bo hir gyda mwy o wybodaeth am y brechiadau a fydd yn digwydd ym Mae Abertawe.

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.