Neidio i'r prif gynnwy

Brechlynnau cyntaf yn cael eu rhoi mewn yr Immbulance

Prif ddelwedd: Cafodd Linda Sanders, 66, o Clase, Abertawe, ei brechu gan y Preifat Josh Morris o 4 Catrawd Feddygol Arfog.

Linda Sanders, chwe deg chwech oed, oedd y person cyntaf i dderbyn pigiad mewn clinig brechu newydd ar olwynion ar Ddydd Iau 25ain o Chwefror. 

Aeth y gweithiwr Primark o Clase yn Abertawe ar fwrdd yr Immbulance, sy'n cael ei gynnal mewn treial deuddydd yn Neuadd y Ddinas.

Hi oedd y cyntaf o 110 o bobl sydd wedi cael gwahoddiad i dderbyn y brechiad Rhydychen-AstraZeneca Covid ar y llyfrgell symudol ar y Dydd Iau a Dydd Gwener.

Bydd yn mentro ymhellach i ffwrdd yn ystod yr wythnosau nesaf.

Mae brechiadau ar yr Immbulance trwy apwyntiad yn unig. Anogir y cyhoedd i beidio â dod troi lan oni bai eu bod wedi cael gwahoddiad.

“Mae'n wych,” meddai Linda.

“Llwyddodd fy mhartner i fy ngyrru yma heddiw a chymerodd ddim ond 10 i 15 munud. Ond pe bai’n rhaid i mi fynd i naill ai Canolfannau Brechu Torfol Gorseinon neu Margam, mae’n debyg y byddai’n rhaid i mi gael dau dacsi.”

Yn ail yn i gael brechlyn oedd Pauline Williams, 66, o Donna.

“Mae'n syniad da iawn oherwydd yn amlwg gallwch chi frechu mwy o bobl,” meddai.

Credir mai hwn yw'r cyntaf o'i fath yng Nghymru, mae'r Immbulance wedi'i gynllunio i gyrraedd y rhai na allant deithio i ganolfannau brechu neu feddygfeydd, naill ai oherwydd cysylltiadau trafnidiaeth gwael neu broblemau symudedd.

Llun o Grwp o bobl o flaen y immbulance  O'r chwith i'r dde: Cydlynydd Imiwneiddio Catherine Courts, Metron Catherine Watts, Arweinydd Imiwneiddio a Brechu, Cyfarwyddwr Clinigol Fferylliaeth Judith Vincent a Dawn Williams, Cydlynydd Imiwneiddio
Tarddiad: BIPBA

Fodd bynnag, nid yw wedi'i gynllunio ar gyfer galwadau tŷ. Bydd yn cael ei barcio mewn lleoliad cyfleus gan gynnig y brechiad trwy apwyntiad i dua 100 o bobl y dydd pan fydd yn gwbl weithredol.

Y gobaith yw y bydd yn dechrau cyrraedd ardaloedd arall ym Mae Abertawe, gan gynnwys cymunedau mwy anghysbell, cyn gynted â'r wythnos nesaf.

“Mae'n wych gweld yr Immbulance allan yna a dosbarthu brechlynnau i bobl yn y gymuned,” meddai Dorothy Edwards, Cyfarwyddwr Rhaglen Brechu Covid-19 ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe.

“Rydyn ni'n gwybod y bydd yn ased amhrisiadwy wrth i ni barhau gyda'r rhaglen heriol hon ac edrychwn ymlaen at weld lle mae'n cyrraedd.”

Dywedodd Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe: “Rydyn ni wedi bod yn gweithio’n agos iawn gyda chydweithwyr yn y GIG i helpu i achub bywydau ac amddiffyn pobl yn Abertawe a Castell-nedd Port Talbot.

“Rydym yn croesawu’r Immbulance sy’n ffordd wirioneddol arloesol i’w gwneud mor hawdd â phosibl i bobl na allant gyrraedd lleoliad brechu gael eu brechlynnau yn haws ac rydym yn falch y gallem wneud cyfraniad at helpu gyda’r gwaith hanfodol hwn.

“Dros y flwyddyn ddiwethaf mae’r cyngor wedi helpu’r GIG trwy adeiladu ysbyty’r Bae, trwy sefydlu wyth canolfan profi symudol Covid-19 a dwy ganolfan brechu torfol. Ond gall pawb wneud eu rhan. Pan gewch eich gwahodd am eich un chi, fe'ch anogaf i gael y brechiad i'ch helpu chi ac eraill yn ddiogel. "

Llun o fenyw yn cael ei brechu ar yr imbulance, gyda dau filwr Mae Pauline Williams, 66, o Donna, yn cael ei brechu gan y Preifat Josh Morris. I'r dde eithaf mae'r Swyddog Peilot Dominic Compton-Davies.
Tarddiad: BIPBA

Dau fis yn ôl roedd yr Immbulance yn llyfrgell symudol yn perthyn i Gyngor Castell-nedd Port Talbot.

Pan ddaeth i ddiwedd ei amser yn y rôl honno rhoddodd y cyngor ef i'r bwrdd iechyd ac neilltuodd wythnosau i'w drawsnewid yn ofod clinigol na fyddai'n edrych allan o'i le mewn unrhyw ysbyty.

Tynnwyd rhesi o silffoedd llyfrau, desg dderbynfa bren a charped yn y llyfrgell symudol chwe metr o hyd a thri metr o led a'u disodli gan waliau gwyn glân clinigol, sinc, goleuadau wedi'u gwella'n sylweddol, oergell frechu, cypyrddau storio diogel ar y symud, lloriau glân hawdd a llenni i'w rannu'n giwbiclau.

Cadwyd lifft cadair olwyn i gynnal mynediad hawdd a gosodwyd cysylltiad rhyngrwyd diwifr fel y gellir nodi manylion cleifion yn syth i'r gronfa ddata imiwneiddio.

Dywedodd y Cynghorydd Rob Jones, Arweinydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot: "Rydym wedi bod yn gweithio'n agos ochr yn ochr â Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe byth ers dechrau'r pandemig ac roeddem yn falch o allu trosi a rhoi'r cerbyd hwn i gynorthwyo'r broses o gyflwyno'r brechlyn ar draws y rhanbarth.

“Yn lle llyfrau bydd y cerbyd hwn nawr yn helpu i ddod â brechiadau i’r ardaloedd hynny ymhellach o’r lleoliadau sefydlog ac i’r rhai a allai fod yn wynebu problemau symudedd neu hygyrchedd.”

 

 

 

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.