Pobl yn Gyntaf Cymru Gyfan ydy llais unedig grwpiau hunan-eiriolaeth a Phobl gydag anableddau dysgu yng Nghymru.
Mae Pobl yn Gyntaf Cymru Gyfan yn sefydliad ar gyfer, ac arweinir gan, ddynion a merched gydag anableddau dysgu. Mae’n unigryw yng Nghymru gan mai dyma’r unig sefydliad cenedlaethol arweinir gan aelodau sydd yn cynrychioli lleisiau dynion a merched gydag anabledd dysgu.