Neidio i'r prif gynnwy

Taflen Ffeithiau Rhyddhau

Cynllunio eich rhyddhau o'r ysbyty

Gwyddom nad yw'r rhan fwyaf o bobl yn hoffi bod yn yr ysbyty, ac unwaith y byddant dros eu cyfnod cychwynnol o salwch acíwt, nid aros yn yr ysbyty yw'r lle mwyaf diogel na'r lle gorau iddynt fod. Mae pobl yn gwella'n well, yn llai tebygol o ddal heintiau ac yn fwy tebygol o adennill eu lefel orau o annibyniaeth pan fyddant yn mynd adref neu i ofal yn y gymuned.

Ein gwaith ni yw eich helpu chi drwy'r cyfnod hwn pan fyddwch chi'n ddifrifol wael, fel y gallwch chi wedyn barhau â'ch adferiad gartref, neu mewn lleoliad cymunedol arall, fel cartref gofal, cyn gynted â phosibl.

Felly, hyd yn oed wrth i chi ymuno â ni, byddwn yn bwriadu eich rhyddhau cyn gynted ag y bydd y tîm clinigol sy'n gofalu amdanoch yn cytuno eich bod yn ddigon iach yn feddygol i adael ein gofal. Mae hyn oherwydd bod tystiolaeth yn dweud wrthym fod mynd adref, neu i mewn i le cartref gofal dros dro, yn llawer gwell i les cleifion nag arhosiad hir mewn gwely ysbyty.

Mae gadael yr ysbyty pan fyddwch chi’n ddigon iach yn feddygol yn dod â nifer o fanteision pwysig i’ch lles:

  • Rydych yn fwy tebygol o gael cyfleoedd i symud o gwmpas yn eich cartref eich hun, neu mewn cartref gofal, gan gryfhau eich cyhyrau ac adennill eich hyder
  • Rydych yn llai tebygol o ddal haint gan na fyddwch o gwmpas cleifion sâl
  • Mae bod mewn amgylchedd llai prysur na ward ysbyty acíwt yn rhoi'r cyfle gorau i chi orffwys, cysgu'n dda a gwella

Os bydd angen, bydd staff iechyd a gofal cymdeithasol yn darparu gwybodaeth, cyngor a chymorth i'ch galluogi i adael. Efallai y bydd angen cymorth tymor byr gan deulu a ffrindiau ar rai pobl pan fyddant yn gadael yr ysbyty, ac efallai y bydd angen pecyn gofal a chymorth ar rai i'w helpu i fyw gartref.

Fodd bynnag, gall fod oedi weithiau cyn trefnu’r pecynnau cymorth hyn, ac mae’r pwysau dwys presennol ar y GIG a’r system gofal cymdeithasol yn ychwanegu at yr oedi hwn.

Os bydd hyn yn digwydd yn eich achos chi, ni fyddai'n briodol eich cadw yn yr ysbyty pan na fydd angen ein gofal brys arnoch mwyach. Nid yn unig y gallai effeithio ar eich adferiad eich hun, ond gallai claf arall sy'n ddifrifol wael ac sydd wir angen dod i'r ysbyty wynebu oedi gyda'i driniaeth ei hun.

Os yn bosibl, gofynnwch i’ch teulu neu ffrindiau eich helpu i adael yr ysbyty ar amser neu wneud eich trefniadau eich hun ar gyfer cymorth ychwanegol fel y gallwch fynd adref tra byddwch yn aros i’ch pecynnau gofal tymor hwy gael eu trefnu.

Os nad yw’r opsiwn hwn ar gael i chi, byddwn yn gwneud yr holl drefniadau angenrheidiol i’ch trosglwyddo dros dro i gartref gofal neu leoliad cymunedol priodol arall, cyn gynted â phosibl ar ôl i’ch tîm clinigol gytuno eich bod yn ddigon iach yn feddygol i adael.

Gan mai darpariaeth gofal cymdeithasol fydd eich arhosiad dros dro, bydd eich awdurdod lleol yn cynnal asesiad ariannol i gyfrifo’r swm y bydd angen i chi ei gyfrannu. Bydd y swm y byddwch yn ei dalu yr un peth ag y byddai angen i chi ei dalu am y gwasanaeth yr ydych yn aros amdano, fel gofal cartref neu leoliad mewn cartref gofal.

Bydd staff yr ysbyty yn trafod hyn gyda chi yn fanylach yn ôl yr angen.

Mae polisi rhyddhau cleifion Llywodraeth Cymru yn glir na all cleifion aros mewn gwely acíwt mewn ysbyty tra bod eu gofal a’u cymorth parhaus yn cael eu trefnu.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, siaradwch â'r nyrs sy'n gyfrifol am eich ward.                       

Meddyginiaeth

Bydd y feddyginiaeth y daethoch â hi i'r ysbyty yn cael ei dychwelyd atoch, oni bai ei bod wedi dod i ben.

Os ydych wedi dechrau meddyginiaeth newydd, byddwch yn cael cyflenwad i fynd adref gyda chi. Bydd eich meddyg teulu wedyn yn rhagnodi mwy yn ôl yr angen. Bydd eich meddyginiaeth yn cael ei esbonio i chi. Mae yna hefyd gyfarwyddiadau ysgrifenedig ar y pecyn, a bydd unrhyw wybodaeth ychwanegol yn cael ei darparu yn ôl yr angen.

 

 

 

 

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.