Neidio i'r prif gynnwy

Newidiadau Gofal Llygaid- Cymru

Newidiadau Gofal Llygaid

Mesurau newydd ar gyfer gwasanaethau gofal llygaid ledled Cymru
Mae iechyd llygaid gwael yn gyffredin ac mae’n broblem sy’n cynyddu. Ar hyn o bryd mae bron i 111,000 o bobl yng Nghymru yn byw gyda phroblemau colli golwg. Amcangyfrifir y bydd hyn yn cynyddu cymaint â thraean erbyn 2030 ac yn dyblu erbyn 2050.  
 
Er bod targedau cyfredol y GIG ar gyfer gwasanaethau gofal llygaid yn cefnogi cleifion newydd, yn aml dim ond y rhan gyntaf o’r hyn sydd ei angen ar gleifion yw hyn. Efallai y bydd angen adolygiadau neu driniaethau rheolaidd i wneud yn siŵr bod golwg y claf yn gwella neu i leihau’r risg o ddallineb y gellir ei osgoi.
 
Yn dilyn pryderon a godwyd gan offthalmolegwyr ymgynghorol (meddygon gofal llygaid) a Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol y Deillion (RNIB), gofynnodd Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru i grŵp dan arweiniad y GIG adolygu’r problemau sy’n wynebu cleifion ar restrau aros, yn enwedig y rhai sydd angen triniaeth barhaus.
 
O ganlyniad i hyn, cytunodd y Gweinidog ar set o argymhellion a mesur newydd. Mae’r mesur newydd yn sicrhau bod cleifion newydd a phresennol yn cael eu gweld neu eu trin o fewn amserlen y cytunwyd arni, yn seiliedig ar eu cyflwr clinigol.
 
O fis Ebrill 2019, bydd canllawiau newydd yn ei gwneud yn ofynnol i wasanaethau llygaid mewn ysbytai sefydlu gweithdrefnau i sicrhau bod cleifion yn cael eu hasesiad neu eu triniaeth gan y person mwyaf addas o fewn cyfnod amser sy’n briodol yn glinigol. Mae hyn yn golygu y dylai’r cleifion risg uchel hynny sydd angen cael eu gweld yn gyflym oherwydd eu cyflwr, brofi llai o oedi. Mae’r mesur yn seiliedig ar flaenoriaeth a natur frys y gofal sydd ei angen ar bob claf.  Blaenoriaeth yw’r risg o niwed sy’n gysylltiedig â chyflwr llygad y claf os bydd y dyddiad apwyntiad targed yn cael ei fethu. Natur frys yw pa mor gyflym y dylai’r claf gael ei weld o ganlyniad i’w gyflwr presennol a/neu’r risg y bydd y cyflwr yn gwaethygu.
 
Cymru yw’r wlad gyntaf yn y DU i gyflwyno mesurau o’r math hwn ar gyfer cleifion gofal llygaid.

.

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.