Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaethau Iechyd Rhywiol

Ceir mynediad i glinigau iechyd rhywiol bellach drwy apwyntiad yn unig. Ffôn: 0300 5550279- Sylwch, bydd y llinell ar gau 12.30 - 13.00 bob dydd ar gyfer cinio, a thrwy'r dydd ar wyliau banc. Fel arall, gallwch gael mynediad i'r clinig iechyd rhywiol trwy ddilyn y ddolen hon i ffurflen ar-lein.

O ddydd Gwener 1 Rhagfyr, bydd gwasanaethau iechyd rhywiol i gleifion Pen-y-bont ar Ogwr yn trosglwyddo i Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg. Bydd angen i holl gleifion Pen-y-bont ar Ogwr sy'n ceisio apwyntiadau iechyd rhywiol/atal cenhedlu gysylltu â llinell brysbennu iechyd rhywiol Cwm Taf ar gyfer apwyntiadau, gallwch eu ffonio ar 01443 443443, Est 3836 neu 01685 728272. Fodd bynnag, dylai'r rhai sydd angen gwasanaethau erthyliad barhau i gysylltu â Bae Abertawe ar 01792 200303.

Cleifion heb unrhyw symptomau ar hyn o bryd, ond sydd angen cyrchu sgrinio haint a drosglwyddir yn rhywiol (STI), gallwch archebu profion o Cymru Chwareus.

Cyrchu gwasanaethau iechyd rhywiol
Yr hyn a wnawn

Am ddim ac yn gyfrinachol:

  • cyngor iechyd rhywiol, profion am heintiau a drosglwyddir yn rhywiol (STIs/STDs) a thriniaeth
  • atalwyr cenhedlu, yn cynnwys pilsen atal cenhedlu frys a dyfeisiau mewngroth. DS - gall dyfeisiau mewngroth ond gael eu gosod yn ein prif ganolfannau yn ysbytai Singleton a Chastell-nedd Port Talbot a chlinig Quarella Road, Pen-y-Bont ar Ogwr
  • profion beichiogrwydd
  • profion am HIV
  • mynediad i PrEP (proffylacsis cyn-ddatguddiad) yn Ysbyty Singleton
  • mynediad i PrEP (proffylacsis cyn-ddatguddiad) yn ysbytai Singleton a Chastell-nedd Port Talbot a chlinig Quarella Road, Pen-y-Bont ar Ogwr
  • brechiad hepatitis B yn Singleton, NPTH a Quarella Road
  • cyngor am erthyliad ac atgyfeirio
  • cymorth i ddioddefwyr trais rhywiol
  • cynghori seicorywiol

Gellir dod o hyd i wybodaeth am STIs ac atalwyr cenhedlu ar waelod y dudalen.

Llinell Gymorth 0300 5550279

Bydd y llinell gymorth ar gau ddydd Gwener 21 Hydref ar gyfer hyfforddiant staff. Am unrhyw faterion brys yn ystod y cyfnod hwn, cysylltwch â’ch Meddyg Teulu neu 111.

O ddydd Llun 22ain Awst bydd oriau agor ein llinell gymorth yn newid. Gweler amseroedd newydd isod:

Dydd Llun - Dydd Iau: 8yb - 3yp

Dydd Gwener: 8yb – 1yp

Sylwch, bydd y llinell ar gau 12.30 - 13.00 bob dydd ar gyfer cinio, a thrwy'r dydd ar wyliau banc.

Fel arall, gallwch gael mynediad i'r clinig iechyd rhywiol trwy ddilyn y ddolen hon i ffurflen ar-lein. Unwaith y byddwch wedi llenwi a chyflwyno’r ffurflen, bydd un o’r tîm yn eich ffonio’n ôl cyn gynted â phosibl ar rif sydd wedi’i atal/anhysbys. Ar gyfer y Gymraeg, newidiwch ddewis iaith o'r Saesneg i'r Gymraeg ar frig y ffurflen.

Bellach gellir gwneud apwyntiadau trwy'r rhif llinell gymorth ar gyfer mewnosod coil a symud/cyfnewid mewnblaniadau.

Sylwch, os ydych yn byw yn ardal Sir Gaerfyrddin, dylech gysylltu â'r Gwasanaethau Iechyd Rhywiol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ar 01267 248674.

Cyfrinachedd

Os oes angen cyngor rhyw diogel arnoch, gwybodaeth atal cenhedlu neu brawf ar gyfer haint a drosglwyddir yn rhywiol (STI), mae ein tîm o staff arbenigol wrth law i ddelio â'ch ymholiad yn gyfrinachol. Mae hyn yn golygu na fyddwn yn eich trafod yn rheolaidd gydag unrhyw un arall, gan gynnwys y Meddyg Teulu neu wasanaethau ysbyty eraill. Oni bai ein bod ni'n teimlo bod risg o niwed i chi neu rywun arall, mae popeth y trafodwn a gwnawn gennym yn hollol gyfrinachol, hyd yn oed os ydych o fan 16 oed mae gennych chi'r un hawliau.

Efallai y bydd adegau pan fydd angen i ni siarad â chi am driniaeth felly gadewch i ni wybod y ffordd orau o gysylltu â chi. Mae rhif ffôn symudol yn iawn ond sicrhewch eich bod chi'n rhoi gwybod i staff am unrhyw newidiadau i'ch rhif ffôn neu'ch cyfeiriad.

Weithiau gallwn ni newid amserau agor y clinig a'r gwasanaethau sydd ar gael ar ddiwrnod penodol. Ffoniwch ni yn gyntaf i wirio, rhag ofn. A byddwn yn cau'r clinig os bydd llawer o gleifion yn dal i aros i gael eu gweld pan fyddwn yn cau.

Gwasanaeth ieuenctid

Isod mae dolenni i ddau wasanaeth newydd sy'n cynnig cefnogaeth ffôn i bobl ifanc Castell Nedd Port Talbot yn ystod y broses cloi-lawr.

Bydd y ddolen hon yn mynd â chi i swydd Facebook gan Wasanaeth Ieuenctid NPT ynghylch Gwasanaeth Galw Heibio Cyngor Perthynas [RADS], mae hyn yn berthnasol i Iechyd a Pherthynas Rhywiol yn unig.

Bydd y ddolen hon yn mynd â chi i bost Facebook gan Wasanaeth Ieuenctid Castell Nedd Post Talbot ynghylch gwasanaeth 'Siarad â gweithiwr ieuenctid', mae hyn mewn perthynas â'r materion ehangach a allai fod gan bobl ifanc.

Mae tîm o Gynghorwyr RADS ac Ymarferwyr Ieuenctid yn ymateb i unrhyw alwadau gan bobl ifanc leol ac yn eu cefnogi neu eu cyfeirio yn ôl yr angen.

Ymwadiad: Nid ydym yn gyfrifol am gynnwys trydydd parti.

 

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.