Neidio i'r prif gynnwy

Clwstwr Cwmtawe

Mae Clwstwr Cwmtawe yn grŵp o dri meddygfa sy'n gweithio gyda'i gilydd gyda nyrsio cymunedol, deintyddion, optegwyr, fferyllwyr cymunedol y sector gwirfoddol a'r awdurdod lleol. Gyda'i gilydd mae'r clwstwr yn darparu gofal i oddeutu 42,680 o bobl yn ardaloedd Clydach, Treforys a Llansamlet yn Abertawe.

Mae'r clwstwr yn cynnwys 3 meddygfa gyffredinol: Grŵp Meddygol Cwmtawe (gan gynnwys Meddygfeydd Clydach, New Cross a Sway road),  Meddygfa Strawberry Place a Meddygfa Llansamlet, 7 practis deintyddol, 10 fferyllfa, 4 cartref nyrsio, 5 optegydd, 26 ysgolion a 3 Llyfrgell.

Y fferyllfeydd yn y clwstwr yw: Fferyllfa Allied (50 Sway Road), Fferyllfa Allied (67 Sway Road), Fferyllfa Boots (Treforys), Fferyllfa Canolog/Central Pharmacy Clydach, Meddygfa Clydach, Fferyllfa Hanfords, Fferyllfa Jhoots, Fferyllfa KM Jones, Fferyllfa Well (Clase) a Fferylliaeth Well (Treforys).

Y practisau deintyddol yn y clwstwr yw: Canolfan Ddeintyddol Cwmtawe, Deintyddfa Pentrepoeth, Practis y Teulu, Practis Deintyddol Laurels, Trallwn Dental Practice, Practis Deintyddol Tŷ Gwyn ac Practis Deintyddol Stryd Woodfield.

Yr optegwyr yn y clwstwr yw: Optegwyr Bater & Stout, Specsavers Treforys, JE Barnes (Clydach), Norma Davies (Treforys) a Vision Express Llansamlet (Tesco).

Mae'n gweithio gyda phartneriaid o adrannau awdurdodau lleol allweddol fel gwasanaethau cymdeithasol ac atal tlodi, yn ogystal â'r sector gwirfoddol a Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe ehangach.

Arweinydd y Clwstwr yw Mike Garner.

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.