Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaethau Deintyddol Cyffredinol

Collage o bobl yn gwenu

Diweddariad i'r Gwasanaethau Deintyddol Cyffredinol - Awst 2022

Mae pob practis deintyddol yn parhau i fod ar agor i blant ac oedolion ledled Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot. Fodd bynnag, mae COVID-19 yn parhau i fod yn gyffredin yn ein cymunedau a thra bod Cymru yn parhau yn y cyfnod ambr o’r broses adfer, mae’r rhai sydd â phroblem ddeintyddol frys neu y rhoddwyd terfyn ar eu triniaeth oherwydd y pandemig yn cael eu blaenoriaethu ar gyfer gofal deintyddol.

Gall hyn olygu y bydd eich archwiliad sgrinio iechyd y geg rheolaidd disgwyliedig yn cael ei ohirio. Os oes gennych unrhyw bryderon, cysylltwch â'ch deintydd arferol am gyngor.

Ledled Cymru ar hyn o bryd mae galw mawr gan gleifion sy'n chwilio am ddeintydd GIG. Nid yw'r bwrdd iechyd yn cadw rhestr o bractisau sy'n cymryd cleifion y GIG ymlaen gan fod y sefyllfa'n newid yn barhaus.

Byddem felly'n cynghori unrhyw glaf sy'n chwilio am ddeintydd GIG i gysylltu â nifer o bractisau yn eu hardal leol ac os na ellir cynnig apwyntiad iddynt, i ofyn am gael eu rhoi ar restr aros y practis. Nid oes unrhyw gyfyngiadau ar nifer y rhestrau aros y gall cleifion ymuno â nhw.

I ddod o hyd i bractis deintyddol y GIG yn eich ardal, gallwch ddefnyddio'r offeryn Dod o Hyd i'ch Deintydd Lleol.

Fel arall, gallwch ddilyn y ddolen hon i weld rhestr lawn o bractisau deintyddol yn ardal Bae Abertawe.

Dewch o hyd i'ch deintydd lleol

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.