Neidio i'r prif gynnwy

Dewch yn Aelod

Pwy sy'n gymwys i ymuno â Gwasanaeth y Llyfrgell?

 

Mae'r llyfrgelloedd yn agored i unrhyw un sydd:

  • yn gweithio i Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe
  • yn fyfyriwr ar y cwrs Meddygaeth (Mynediad i Raddedigion) yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe
  • yn aelod o staff yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe ac â chontract ar y cyd rhwng y Brifysgol / y GIG
  • yn gweithio ym maes gofal sylfaenol, neu ddeintyddion a fferyllwyr sy'n darparu gwasanaethau iechyd am ddim i gleifion y GIG yn y man gofal, yn yr ardal leol
  • yn fyfyriwr o Brifysgol Caerdydd sydd ar leoliad gwaith

Ymuno yn y llyfrgell

I ymuno â'r Gwasanaeth Llyfrgell bydd angen i chi gwblhau Ffurflen Cofrestru Aelodaeth a dangos eich bathodyn staff, eich bathodyn myfyriwr neu dystiolaeth arall eich bod wedi eich cyflogi gan y GIG.

Ar ôl i chi gwblhau eich ffurflen gofrestru, rhowch hi i aelod o staff y llyfrgell neu ei hanfon i'r safle sydd fwyaf cyfleus i chi ei defnyddio fel eich prif lyfrgell.

Ymuno ar-lein

Rhy brysur i ddod i'r llyfrgell? Gallwch ymuno ar-lein os ydych chi'n gweithio i BIPBA, yn gweithio ym maes gofal sylfaenol, neu'n ddeintyddion a fferyllwyr sy'n darparu gwasanaethau iechyd am ddim i gleifion y GIG yn y man gofal, yn yr ardal leol. Llenwch y ffurflen aelodaeth ar-lein a byddwn yn postio'r cerdyn i'ch cyfeiriad cartref. Bydd hyn yn rhoi mynediad i chi at destun llawn erthyglau cyfnodolion ar-lein, ynghyd â llawer mwy o adnoddau eraill ar-lein a chefnogaeth.

 

Bydd eich cerdyn llyfrgell yn ddilys i'w ddefnyddio ym mhob un o lyfrgelloedd y Bwrdd Iechyd

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.