Neidio i'r prif gynnwy

1. Pwy sy'n cael y trydydd dos a ble fydd yn cael ei roi?

Gwahoddir plant 12 oed a hŷn ac oedolion y mae eu systemau imiwnedd wedi'u gwanhau, sy'n golygu eu bod yn llai abl i ymladd yn erbyn haint, i fynychu Canolfan Brechu Torfol (MVC) ar gyfer eu trydydd dos sylfaenol.

Mae hyn ar ben y ddau y byddwch eisoes wedi'u derbyn.

Ewch i'r dudalen hon i gael manylion am sut i gyrraedd ein MVCs.

Efallai y bydd eich system imiwnedd wedi ei wanhau o ganlyniad i gyflwr iechyd sylfaenol neu afiechyd fel:

  • Arthritis gwynegol
  • Diabetes
  • HIV wedi'i reoli'n wael
  • Anhwylder genetig.

Gall rhai triniaethau meddygol hefyd wanhau'ch system imiwnedd. Mae'r rhain yn cynnwys:

  • Cemotherapi
  • Radiotherapi radical
  • Cyffuriau a roddir yn dilyn trawsblaniad organ, mêr esgyrn neu fôn-gelloedd
  • Triniaeth ar gyfer MS
  • Triniaeth ar gyfer arthritis gwynegol
  • Triniaeth ar gyfer clefyd Crohn
  • Defnydd steroid systemig

Bydd y bwrdd iechyd yn adnabod y rhai sydd â system imiwnedd gwan ac yn anfon gwahoddiad i gael eu brechu mewn Canolfan Brechu Torfol.

NID oes angen i chi gysylltu â'r bwrdd iechyd na'ch meddyg teulu i ofyn am apwyntiad.

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.