Neidio i'r prif gynnwy

Triniaethau gwrthfeirysol a gwrthgorff COVID-19

(Nid yw'r Bwrdd Iechyd yn gyfrifol am gynnwys gwefannau trydydd parti, a allai fod yn Saesneg yn unig)

Mae brechu yn parhau i fod y llinell amddiffyn orau yn erbyn Covid-19, ond a oeddech chi'n gwybod bod triniaethau ar gael hefyd i helpu pobl mewn perygl sy'n profi'n bositif ac sydd â symptomau?

Sicrhewch at ddibenion cymhwysedd;

  • Rydych chi wedi derbyn Prawf LFD neu PCR positif , sy'n cadarnhau eich bod chi'n bositif am COVID-19
  • Mae gennych symptomau a restrir fel rhan o'r meini prawf cymhwyster
  • Nid yw'r symptomau wedi bod yn fwy na 7 diwrnod
  • Rydych chi'n rhan o'r grwpiau risg uchel - gweler isod

Mae'r grŵp risg uchel yn cynnwys pobl efo

Pa driniaethau sydd ar gael?

Mae dau fath o driniaeth:

Sut ydych chi'n cael mynediad at driniaethau?

Os ydych yn teimlo eich bod yn bodloni'r meini prawf cymhwysedd uchod a'ch bod yn hynod agored i niwed yn ginigol gyda phrawf PCR positif neu brawf LFT, cysylltwch â GIG 111, cysylltwch â'ch ymgynghorydd neu feddyg teulu, neu dilynwch y ddolen hon i Ffurflen Hunan-atgyfeirio Gwrthfeirysol COVID-19 (GIG 111 Cymru).

Argymhellir eich bod yn cael triniaaeth o fewn 7 diwrnod i'ch symptomau ddechrau.

D.S. Mae profion llif unffordd am ddim ar gael i'w casglu o fferyllfeydd cymunedol dethol ar gyfer y grŵp risg uchel. Dilynwch y ddolen hon am fwy o wybodaeth ar sut i gael prawf llif unffordd am ddim.

Beth sy'n digwydd nesaf?

Efallai y byddwn yn cysylltu â chi'n uniongyrchol os ydych wedi cofnodi eich canlyniad COVID-19 drwy wefan Llywodraeth y DU, neu os ydych wedi cwblhau'r ffurflen hunangyfeirio drwy dudalen we GIG 111.

Bydd Tîm Brysbennu Gwrthfeirysol Bae Abertawe yn cysylltu â chi i fynd â chi drwy broses brysbennu

Byddwch yn ymwybodol; trwy lenwi'r ffurflen hunangyfeirio nid yw hyn yn gwarantu eich bod yn gymwys i gael triniaeth a bydd cwestiynau pellach y bydd y nyrs brysbennu yn eich cefnogi gyda nhw.

Mae'r tîm brysbennu ym Mae Abertawe yn gweithredu o Ddydd Llun i Ddydd Gwener rhwng 8.30yb a 4.00yp, os gwelwch yn dda caniatáu cysylltu â 24 awr. Nid oes gwasanaeth penwythnos ar gael.

Bydd y nyrs brysbennu yn trafod eich cymhwysedd a'r driniaeth orau yn dibynnu ar anghenion y claf.  

Treial PANORAMIC

Mae'r treial hwn ar gael i bobl sydd â risg ehangach o salwch difrifol o Covid-19 naill ai oherwydd

  • eu bod dros 50 oed, neu
  • maent rhwng 18 a 49 oed gyda chyflyrau iechyd sylfaenol. (Bydd llawer o’r bobl hyn yn gymwys i gael pigiadau ffliw blynyddol am ddim.)

I gymryd rhan mae angen i bobl syrthio i un o'r grwpiau sydd mewn perygl, wedi profi'n bositif am Covid-19 naill ai trwy brawf PCR neu LFT, a chael symptomau.

Mae'r treial PANORAMIC yn cynnwys cwrs o dabledi llafar. Mae'r tabledi hyn eisoes yn cael eu defnyddio i drin rhai pobl sy'n ddigon sâl â Covid i fod yn yr ysbyty. Mae'r treial nawr yn edrych ar ba mor effeithiol yw'r driniaeth ar gyfer pobl sy'n dal gartref sy'n profi'n bositif am Covid, ac sydd â symptomau.

Mae’n astudiaeth DU gyfan a gall unrhyw un sydd yn y categorïau mewn perygl wneud cais i gymryd rhan, p’un a ydynt wedi cael eu brechu ai peidio. Dilynwch y ddolen hon i wefan PANORAMIC am ragor o wybodaeth am y treial, gan gynnwys dolen i wneud cais. Neu, ffoniwch 08081 560017 (mae galwadau am ddim.)

Unwaith y cânt eu derbyn ar y treial, caiff y tabledi eu postio atoch ar unwaith oherwydd dylid eu cymryd o fewn pum diwrnod. Bydd gofyn i chi ateb cwestiynau dilynol ar-lein neu dros y ffôn, ond nid oes angen ymweliadau wyneb i wyneb.

Ewch yma i ddarganfod a ydych yn gymwys ar gyfer triniaethau COVID-19 neu gymryd rhan mewn astudiaeth gwrthfeirysol ledled y DU.

Siart llif a luniwyd i ddangos cymhwysedd ar gyfer triniaeth gwrthgyrff

 

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.